Neidio i'r prif gynnwy

Arwydd o bethau i ddod – Iaith Arwyddion Prydain a’r Cwricwlwm i Gymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Iaith Arwyddion Prydain (BSL) wedi dod yn rhan swyddogol o’r  Cwricwlwm i Gymru. Yn ogystal â darpariaeth ar gyfer defnyddwyr BSL byddar, gall fod yn rhan o gwricwlwm ysgol ar gyfer pob plentyn fel Ffrangeg neu Almaeneg.

Mae BSL wedi dod i’r amlwg yn fwyfwy yn ddiweddar, gyda pherfformiadau Rose Ayling-Ellis ar Strictly Come Dancing, dehonglwyr yn gweithio ochr yn ochr â Mark Drakeford yn ystod sesiynau briffio COVID-19, a’r Bil BSL yn pasio ei ail ddarlleniad yn y Senedd. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n cael eu hysbrydoli i ddysgu’r iaith.

Cyhoeddwyd canllawiau BSL Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2021.  Fe’i datblygwyd ar y cyd gan ymarferwyr ac arbenigwyr BSL eraill, gan gynnwys defnyddwyr BSL byddar, dull a fydd yn parhau wrth i fwy o gymorth gael ei ddatblygu ar gyfer BSL yn y cwricwlwm.

Ym mis Ionawr, ategwyd hyn gan fersiwn BSL o’r pedwar diben, a datganiadau Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu o’r hyn sy’n bwysig sy bellach yn rhan annatod o ganllawiau’r cwricwlwm. Mae grŵp datblygu termau BSL Cwricwlwm i Gymru yn gweithio i sicrhau  cysondeb yn y BSL sy’n cael ei defnyddio mewn canllawiau Cwricwlwm, deunyddiau ategol ac adnoddau yn y dyfodol – dyma’r grŵp cyntaf a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gynnal gweithdai yn BSL yn unig.

Dr Audrey Cameron a Gary Quinn, Scottish Sensory Centre

Gall Athrawon Plant Byddar sy’n gweithio yng Nghymru gofrestru yma ar gyfer sesiwn wybodaeth fydd yn canolbwyntio ar gynnydd yn BSL ar gyfer defnyddwyr BSL byddar, 15:00-16:30 ar 28 Mawrth 2022. Mae rhwydwaith arbennig hefyd ar gael drwy fewngofnodi i Hwb a chwilio Rhwydweithiau am ‘Teachers of the Deaf / Athrawon Plant Byddar’.

Gall tiwtoriaid BSL sy’n gweithio yng Nghymru gofrestru yma ar gyfer sesiwn wybodaeth 10:00-12:00 ar 4 Ebrill 2022, fydd yn canolbwyntio ar sut i gefnogi cynllunio cwricwlwm ac addysgu BSL mewn ysgolion.

Gall ymarferwyr eraill sy’n gweithio mewn ysgolion gofrestru yma ar gyfer sesiwn i ysgolion. Mae’r sesiwn hon mewn partneriaeth â’r consortia rhanbarthol a bydd yn cael ei chynnal ar 11 Mai 2022.

Bydd sefydlu rhwydweithiau a chydweithio yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi BSL yn y cwricwlwm. Bydd aelodau’r grŵp a ddatblygodd ganllawiau’r cwricwlwm yn cyfrannu at y sesiynau gwybodaeth i ymarferwyr sydd am wybod mwy am y Cwricwlwm i Gymru ac am BSL yn y cwricwlwm.

Cefnogi datblygiadau – Grŵp termau BSL

Cadeiriwyd  gweithdy cyntaf y grŵp termau BSL gan Dr Kate Rowley o Brifysgol Wolverhampton ar 28 Ionawr ac roedd yn cynnwys grŵp gwybodus a phrofiadol o ddefnyddwyr BSL byddar o bob cwr o Gymru. Arweiniodd Dr Audrey Cameron a Gary Quinn sesiwn ragarweiniol ar ran Scottish Sensory Centre, sydd wedi gwneud gwaith arloesol yn creu rhestrau termau BSL i gefnogi dysgu ac addysgu; casglu termau cyfredol BSL a chreu rhai newydd; yn ogystal â chefnogi a chynghori eraill ar draws y byd sy’n datblygu rhestrau termau iaith arwyddion.

Dros y misoedd nesaf bydd y grŵp yn ystyried termau o ganllawiau Cwricwlwm i Gymru. Bydd termau BSL arfaethedig, gyda diffiniadau ac enghreifftiau BSL, yn cael eu rhannu ar gyfer adborth ehangach pan fyddant ar gael.

Aelodau’r grŵp yw: Jeff Brattan-Wilson, Alison Bryan, David Duller, Helen Foulkes, Sara Rhys-Jones, Dr Rob Wilks; gyda Dafydd Eveleigh yn cynrychioli Llywodraeth Cymru.

Gadael ymateb