Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Rhoddwyd pecyn adnoddau ‘defnyddiol iawn’ at ei gilydd gan y Gweinidog ar gyfer ei gynhadledd penaethiaid diweddar.
Er bod cyfeiriad ato yn y blog o’r gynhadledd, roedd perygl o hyd iddo fod wedi mynd ar goll ynghanol yr holl bethau eraill. Felly, rydyn ni’n falch o’i gyflwyno ar ei ben ei hun yn y neges hon.
Mae’r pecyn yn cynnwys:

Canllawiau Cynllunio Cwricwlwm a Blaenoriaethau
Rhestr chwarae o fideos yn dangos y daith hyd yma i rai ysgolion.
Gwybodaeth i helpu i gyfathrebu â rhieni.
Ffyrdd o gadw mewn cysylltiad â phopeth sy’n digwydd.
Estyn – negeseuon blog, gweminarau a deunyddiau eraill.
Dyma’r pecyn adnoddau cyflawn.