Neidio i'r prif gynnwy

Bwrw ymlaen â’r Cwricwlwm – Y Gweinidog Addysg yn arwain Cynhadledd

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Siaradodd Jeremy Miles, Gweinidog dros y Gymraeg ac Addysg, â phenaethiaid ysgolion ar 17eg Chwefror i ail-ystyried pwysigrwydd y cwricwlwm newydd, disgrifio cymorth ymarferol ar y gweill, ac ymuno â thrafodaeth gydag Owen Evans, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant, Estyn.

Roedd araith y Gweinidog yn cynnwys newyddion am gymorth ychwanegol ar gyfer cynydd ac asesu, ymrwymiad newydd at ddysgu proffesiynol, a thorri cwys newydd drwy greu cwmni newydd i gynhyrchu adnoddau dwyieithog i gefnogi’r gwaith o weithredu’r cwricwlwm. Darllenwch yr araith lawn yma.

Disgrifiodd Owen Evans sut y bydd arolygwyr Estyn yn cymryd rôl gefnogol wrth i ysgolion gyflwyno eu cwricwlwm newydd. Pwysleisiodd fod Estyn yn deall nad yw ‘un maint yn addas i bawb’ a’i fod am gynnig ‘lle diogel’ i ysgolion arloesi. I gyd-fynd â hynny, bydd fframwaith arolygu newydd yn cael ei dreialu’r flwyddyn academaidd hon. Darllenwch yr araith lawn yma.

Gellir gweld ffilm o’r digwyddiad, sy’n cynnwys y ddwy araith, a’r sesiwn holi ac ateb, yma

Cyhoeddwyd hefyd yn y digwyddiad fod swp o ddeunyddiau wedi’u cynllunio i helpu ymarferwyr i gymryd y camau nesaf wrth gynllunio a gweithredu’r cwricwlwm, gyda chysylltiadau i adnoddau, mae’r adnodd ‘cynllunio a blaenoriaethau’ penodol yma. Mae’r set lawn o ddeunyddiau cefndir cynhadledd a chwricwlwm yma.

Roedd y Gweinidog hefyd yn awyddus i rannu fideos o Benaethiaid, gan rannu eu profiadau, i helpu ysgolion gyda’u syniadau.  Mae’r rhain yn esbonio’r cynnydd a gwnaent a sut yr oeddent wedi goresgyn heriau. 

Gadael ymateb