Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae Ysgol Tryfan yn ysgol uwchradd ddwyieithog ym Mangor, Gwynedd. Mae’r ysgol yn bwriadu cyflwyno’r cwricwlwm newydd i flwyddyn 7 ym mis Medi 2022, hyd yn oed ar ôl ychydig flynyddoedd heriol diolch i Covid.

Mae eu dull o roi gwybod i rieni am y newidiadau a chasglu eu barn wedi cael adborth cadarnhaol gan rieni am ei symlrwydd a’i gonestrwydd. Ac er bod sawl dull o fynd at y dasg wrth gwrs, cytunodd y prifathro Arwyn Williams i rannu dull Tryfan.
Wedi’i gynllunio gan y Pennaeth Cynorthwyol Cheryl Roberts, Osian Hughes a’r uwch dîm arweinyddiaeth, roedd yr arolwg ar-lein yn rhan o ymgysylltiad ehangach â disgyblion, llywodraethwyr, staff ac eraill. Mae rhieni’n aml yn brin o ran amser, felly roedd gwneud yr ymarfer yn gyflym ac yn hawdd yn ystyriaeth bwysig.
Roedd yr adborth, hefyd gan grwpiau ffocws, yn adeiladol iawn, ac mewn rhai achosion yn amlygu materion a ddarganfuwyd yn well yma na thrafodaethau a gynhaliwyd mewn mannau eraill. Blaenoriaethau yr oedd rhieni’n teimlo bod angen mwy o bwyslais arnynt oedd dinasyddiaeth fyd-eang, cynaliadwyedd a gweithio gyda sefydliadau lleol a’r gymuned.
‘Allwch chi ein helpu i ddarparu profiadau cyfoethogi?’ oedd y cwestiwn olaf a daeth â nifer o ymatebion gwych gan gynnwys cymorth STEM gan Brifysgol Bangor, sawl cynnig busnes, gwaith ieuenctid, sgiliau creadigol a gwirfoddoli.
Dyma ddull Tryfan yn llawn*:
Pnawn da
Rydym wrthi’n paratoi ar gyfer cyflwyno cwricwlwm newydd i ddysgwyr blwyddyn 7 fis Medi 2022. Er mwyn cynnig y profiadau gorau i’n dysgwyr hoffem gael eich barn ogydda. Mae yma gwestiynau ar ein gweledigaeth yn Ysgol Tryfan, y profiadau rydym yn eu cynnig i’n dysgwyr a’r hyn hwyrach y gallwch chi ei gynnig. Buasem yn gwerthfawrogi pe baech yn treulio ychydig funudau yn cwblhau’r holiadur.
Diolch yn fawr iawn i chi.
Ysgol Tryfan
https://forms.gle/APB8ziZEt126fBZ4A
*Nodwch, mae’r animeiddiad sydd yn y diweddariad wedi’i ddiwygio ers hynny a gellir gweld y fersiwn newydd yma: 2022 – Mae cwricwlwm newydd i Gymru wedi cyrraedd