Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Diweddarwyd y canllawiau asesu ochr yn ochr â’r newidiadau i’r canllawiau ar gyfer y Cwricwlwm ar 11eg Ionawr, ar ôl pasio’r Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu ac mewn ymateb i’r ymgyngoriadau deddfwriaethol.

Mae’r newidiadau’n cryfhau ymhellach y rôl newydd sydd gan asesu fel rhan annatod o ddylunio’r cwricwlwm, yn uniongyrchol gysylltiedig â chontinwwm cynnydd 3 – 16 oed, yn hytrach nag â dull crynodol ar gyfer cyfnodau allweddol. Maent yn egluro sut mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn gymwys i Unedau Cyfeirio Disgyblion, Addysg Heblaw yn yr Ysgol, ac Addysg Feithrin a Ariennir ond nas Cynhelir.
Mae’r adran Cefnogi cynnydd dysgwyr: Canllawiau Asesu ar Hwb, sydd i’w diweddaru’n rheolaidd, yn egluro’r newidiadau a fydd yn digwydd wrth i is-ddeddfwriaeth eu dwyn i rym yn ystod tymor y gwanwyn a thymor yr haf. Mae’n cynnwys tair adran:
Beth sy’n newid mewn perthynas ag asesu: yn nodi’r rhesymau dros y newidiadau ac yn ateb y cwestiynau mawr, fel cwestiynau ar ddileu cyfnodau allweddol a meithrin dealltwriaeth gyffredin o gynnydd.
Cefnogi Cynnydd Dysgwyr: canllawiau asesu: dyma’r adran canllawiau statudol sy’n ymwneud â’r canlynol: yr egwyddorion asesu; datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd; cefnogi taith dysgwyr ar hyd y continwwm 3 i 16 oed; a chyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni a gofalwyr.
Adnoddau i gefnogi ymarferwyr: Mae’r maes hwn yn tyfu ac mae bellach yn cynnwys astudiaethau achos gan ysgolion yn dangos sut maent wedi ymgymryd ag asesu a chynnydd o dan y canllawiau newydd. Maent yn cynnwys papur George MacBride ar y berthynas rhwng llesiant ac asesu, ynghyd ag enghreifftiau o ymholiad proffesiynol diddorol yn edrych ar asesu a chynnydd, ac astudiaethau achos ar daith dysgu proffesiynol ysgolion.
Ar y gweill
Yn ystod tymor y gwanwyn a thymor yr haf, ac yn ddarostyngedig i’r broses ddeddfwriaethol, bydd rhagor o reoliadau a chanllawiau/deunyddiau i gefnogi cynnydd dysgwyr yn y Cwricwlwm i Gymru yn cael eu cyhoeddi fel a ganlyn:
