Neidio i'r prif gynnwy

Lansio’r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer y Cwricwlwm

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Crëwyd y Rhwydwaith Cenedlaethol i helpu ymarferwyr addysgu mewn ysgolion a lleoliadau i gyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru, drwy rannu syniadau da am weithredu, a ffyrdd o oresgyn anawsterau.

Ym mis Hydref 2021, bydd tair Sgwrs Genedlaethol yn cael eu cynnal ar y canlynol:

  • Cynnydd a dilyniant – o 19 Hydref tan 17 Tachwedd
  • Paratoi ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm – o 19 Hydref tan 17 Tachwedd
  • Adnoddau a deunyddiau  – ar 23 Tachwedd a 24 Tachwedd

Mae cyd-ymarferwyr wedi gwirfoddoli i helpu i lywio a hwyluso grwpiau bach o hyd at 12 o ymarferwyr a bydd pob Sgwrs Genedlaethol yn cynnwys astudiaethau achos, fideos a mewnbwn arbenigol. Byddant yn gyfle i rwydweithio a datblygu cysylltiadau â chydweithwyr, gyda safbwyntiau gan arbenigwyr a chydweithwyr rhanbarthol. Bydd cyfle hefyd i’r rhai sy’n dod i’r sgyrsiau gymryd adnoddau i hwyluso sgyrsiau yn eu hysgolion a’u lleoliadau eu hunain. Bydd dolenni hefyd yn cael eu rhannu drwy’r blog hwn.

Gallai rhai pynciau redeg ar draws mwy nag un tymor oherwydd natur y sgwrs sydd angen trafodaethau manylach, a bydd eraill yn cael eu cwblhau’n gyflymach.

Bydd pob Sgwrs Genedlaethol yn ategu’r rhaglenni Dysgu Proffesiynol sy’n cael eu rhedeg gan gonsortia rhanbarthol a gwasanaethau gwella ysgolion, a’r gweithgarwch ‘Trafod Addysgeg’ ac ymholi proffesiynol sy’n cael eu harwain gan ymarferwyr sydd ar secondiad gyda Llywodraeth Cymru.

I ddechrau, cynhelir y sgyrsiau o bell, ond dros amser gellir cyflwyno sgyrsiau wyneb yn wyneb yn unol â rheoliadau Covid Llywodraeth Cymru.

Bydd cyllid yn cael ei ddarparu i ryddhau’r amser i ysgolion a lleoliadau enwebu unigolion i ddod i’r tair Sgwrs Genedlaethol. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, ac felly archebwch yn fuan i osgoi cael eich siomi. Trefnir sesiynau ychwanegol yn y dyfodol os bydd angen.

Dyma wybodaeth lawn am y rhwydwaith, a thudalen hafan y Rhwydwaith Cenedlaethol lle bydd ymarferwyr yn gallu cofrestru ar gyfer y sgyrsiau.

Soniwyd hefyd gan y Gweinidog yn y fideo, dyma’r ddogfen Y Daith i Weithredu’r Cwricwlwm .

Cyfranogiad rhanddeiliaid

Cafwyd cryn ddiddordeb gan amrywiaeth o randdeiliaid ehangach yn y Rhwydwaith Cenedlaethol ac, mewn ymateb i lefel y diddordeb, cyhoeddir digwyddiadau i randdeiliaid ehangach, hynny yw y tu hwnt i ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau, yn ddiweddarach yr hydref hwn.

Edrych ymlaen

Gan edrych ymlaen at dymor y Gwanwyn 2022, bydd pum pwnc arall i’w trafod:

  • Lles a dysgu
  • Amrywiaeth yn y Cwricwlwm i Gymru
  • Gwerthuso a gwella
  • Diwygio cymwysterau
  • Darllen a llafaredd

Tîm y Cwricwlwm,

Llywodraeth Cymru

Gadael ymateb