Neidio i'r prif gynnwy

Llygad ar y Cwricwlwm Newydd yng Ngŵyl Ddysgu Pen-y-bont ar Ogwr

Read this page in English

Bees at St MarysYn ystor yr wythnos yn dechrau ar 25 Mehefin 2018, bu i bob un o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig Pen-y-bont ar Ogwr gynnal digwyddiad dysgu.

Roedd digonedd o bethau o ddiddordeb i athrawon, llywodraethwyr, ymgynghorwyr her, pobl fusnes leol ac amrywiaeth o bartneriaid eraill – pethau wedi’u datblygu gan athrawon (gyda help gan ddysgwyr) ar gyfer athrawon (a dysgwyr, wrth gwrs!)

Fe allech chi ei alw’n arfer da, ond mae hefyd yn ffordd radical o gyflawni dysgu proffesiynol – ffordd sy’n gweithio nawr ac sy’n cyd-fynd yn llwyr â’r cwricwlwm newydd hefyd.

Mae’r syniad yn deillio o argymhelliad i rannu arfer da, ond inni ym Mhen-y-bont dim ond y dechrau oedd hynny. Roeddem am ddatblygu gweithio mewn clwstwr, roeddem am rymuso athrawon, roeddem am wneud rhywbeth cyffrous. Pethau fel: darlithoedd, symposiwm a Diwrnod Dysgwyr er mwyn i ddysgwyr gael ei gynllunio a chyflwyno eu dysgu.

8aRoedd llawer mwy hefyd: ‘Pump arfer creadigol y meddwl’, ‘Cymorth Cyntaf ar gyfer Gorbryder’, ‘Gemau Ffoi o Ystafell’, ‘Rhith-wirionedd yn yr Ystafell Ddosbarth’, ‘Yr Ymagwedd Twf a Lles Disgyblion’, ‘Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol – y stori hyd yma’…

Edrychodd ysgolion ar eu cynlluniau gwella cyn penderfynu pa ddigwyddiadau i fynd iddynt. Roedd yna gyfanswm o 97 digwyddiad i gyd: gan gynnwys pethau gan bartneriaid addysg bellach ac uwch.

Beth oedd yr effaith?

Y canlyniad oedd: dysgu proffesiynol hwyliog, wedi’i ddatblygu gan ysgolion a’i rannu gyda phobl o bob rhan o gymuned addysg Pen-y-bont ar Ogwr, syniadau newydd a gwreiddiol ar gyfer y cwricwlwm mewn ysgolion, plant yn cael budd o gymryd rhan mewn pethau a rhannu dysgu, a’r sir gyfan yn codi proffil addysg ac yn cymryd rhan gyda’i gilydd.

9aMae Ysgolion Arloesi’r Cwricwlwm eisoes wedi dweud wrthym y bydd gan ysgolion ac athrawon fwy o ryddid i lunio a datblygu cwricwlwm ar lefel leol. Hefyd bydd dysgu ysgol-i-ysgol a dysgu mewn clystyrau yn fwy pwysig, gyda phob ysgol yn datblygu’n ‘sefydliadau sy’n dysgu’, gan symud at system o hunanwella. Roedd yr Ŵyl Ddysgu yn ein paratoi ar gyfer hyn oll, ond mae canlyniadau positif nawr hefyd.

Mae Ysgolion Arloesi ym maes Dysgu Proffesiynol hefyd yn gweithio gyda chlystyrau cenedlaethol i ddatblygu’r Dull Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol.

Felly…. a fydd yna Ŵyl Ddysgu arall yn 2019? Bydd, yn sicr! Mae’n waith caled, mand mae werth e.

Fe rown ni’r geiriau olaf i ddau gyfranogwr:

Ryan Davies (Pennaeth Ysgol Brynteg):

‘Llongyfarchiadau ar Ŵyl Ddysgu wych! Roedd staff Ysgol Brynteg yn gwerthfawrogi’r cyfle euraidd i gwrdd â phobl o ysgolion eraill. Yr unig drueni oedd na wnaethon ni drefnu diwrnod hyfforddiant i gyd-fynd â’r wythnos  er mwyn inni allu tynnu popeth ynghyd.’

Victoria Cox-Wall (Yr Athrawes Gyfrifol yn Narpariaeth Amgen Y Bont):

‘Hoffwn i ddweud ein bod wedi mwynhau’r Ŵyl Ddysgu’n fawr iawn. Roedd bod yn rhan ohoni’n wych. Ni yw’r ysgol leiaf yn yr ardal mae’n siŵr, ac fel ysgol ddarpariaeth amgen nid ydym yn aml yn cael cyfle i fod yn rhan o bethau fel hyn. Fe gawson ni wythnos wych gan fwynhau pob agwedd ar yr ŵyl.

Daeth dros 70 o bobl i’n gweithdai, a ddarparwyd gan ein staff therapiwtig a’n staff cymorth, ac fe gawson ni adborth gwch. Aeth ein staff i weithdai gan eraill hefyd a dod â syniadau gwych yn ôl gyda nhw. Hefyd, wrth gwrs, roedd 2 ohonyn nhw yn y ffilm o’r ŵyl, ac fe ges i fynd ar Radio Wales!

Mae wedi bod yn gyfle gwych inni mewn sawl ffordd – roedd cryn gyffro am yr ŵyl yn y sir ac roedd bod yn rhan ohoni, sydd ddim yn digwydd yn aml, yn braf iawn.’

 

Sue Roberts
Rheolwr Grŵp Gwella’r Ysgol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Sue Roberts fu’n cydlynu’r Ŵyl Ddysgu ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hi hefyd yn gweithio i Brifysgol De Cymru fel Uwch-Ddarlithydd yn y tîm Dysgu Proffesiynol, lle mae hi’n darparu rhaglenni Meistr. Mae hi’n arbenigo ym maes ‘Dylunio’r Cwricwlwm’ a ‘Datblygu Pobl a Dysgu Mewn Sefydliadau’.

Gadael ymateb