Ni yw’r unig Ysgol Arbennig yn Nhorfaen. Mae 116 o ddisgyblion ar y gofrestr, sy’n teithio atom o wahanol ardaloedd ledled y Fwrdeistref. Rydym yn ysgol Arloesi.
Hoffem egluro pam ein bod yn teimlo mor optimistaidd am y cwricwlwm newydd, o gymharu â’r cwricwlwm presennol sydd wedi bod yn heriol ar adegau yn y ffordd y mae’n diffinio ‘cynnwys’.
Mae ein disgyblion rhwng 3 ac 19 oed ac mae ganddynt ystod eang o anawsterau dysgu. Mae’r rhain yn cynnwys Anhawster Dysgu Difrifol (SLD), Anhawster Dysgu Dwys a Lluosog (PMLD) ac Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD).
Cyn Dyfodol Llwyddiannus:
Gallwch ddychmygu pa mor bwysig yw sicrhau bod ein cwricwlwm yn berthnasol i anghenion unigol ein disgyblion. Rhaid iddo fod yn eang, yn bwrpasol ac yn llawn hwyl.
Rhaid cynnal y perthnasedd hwn ym mhob un o’r pum cyfnod allweddol yn eu gyrfaoedd sy’n ymestyn dros 16 mlynedd gyda ni. Mae hyn yn golygu cydbwyso dull gweithredu strwythuredig tuag at barhad a chynnydd o ran teithiau dysgu disgyblion, gan gynnwys hyblygrwydd mewnol o ran gofynion y cwricwlwm.
Mae blaenoriaethu datblygiad sgiliau yn hanfodol ac yn hirsefydledig yn Ysgol Crownbridge. Cynnydd mewn sgiliau yw’r elfen bwysicaf o ddysgu’r disgyblion gan fod sgiliau yn hanfodol er mwyn i ddisgyblion fyw bywyd hapus, annibynnol a llwyddiannus ar ôl iddynt adael yr ysgol.
Er mwyn diwallu anghenion a gwireddu hawliau unigol y disgyblion, mae angen i athrawon benderfynu sut a phryd y byddant yn cael profiad o agweddau ar ein cwricwlwm, yn ôl lefel a natur eu hanghenion, eu diddordebau a chyflymder eu dysgu. Bydd yr athrawon yn cynllunio cynnig wedi’i deilwra ar gyfer anghenion unigol cymhleth pob disgybl.
.Mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol wedi bod yn heriol tu hwnt i ysgolion arbennig. Rhaid i ni sicrhau bod yr amrywiaeth lawn o bynciau o fewn Fframwaith y Cwricwlwm Cenedlaethol sydd ar gael yn addas i’w hoedran, gan eu darparu mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’u cam datblygu. Bu’n rhaid i ni gydweithio ledled Cymru ac yn ehangach yn y DU i ddod o hyd i ffyrdd o wneud hyn.
Mae athrawon wedi bod yn greadigol iawn yn llunio cysylltiadau rhwng pynciau er mwyn cynnig profiad dysgu ymarferol a thematig sy’n datblygu gwybodaeth a sgiliau dros amser.
Rydym wedi cyflawni hyn drwy gynlluniau cwricwlwm Hirdymor ar gyfer pob cam allweddol sydd wedi’u cefnogi gan gynlluniau Tymor Canolig cysylltiedig bob tymor sy’n cynnwys y wybodaeth, y sgiliau a’r gweithgareddau y mae athrawon am eu defnyddio i ymgysylltu â’r disgyblion.
Er mwyn cyflawni hyn, bydd athrawon yn cyfarfod bob pythefnos mewn Grwpiau Cynllunio Cydweithredol ac yn defnyddio eu creadigrwydd, gwybodaeth a’u sgiliau proffesiynol i wahaniaethu’r cynnwys, y sgiliau a’r gweithgareddau i gynnwys pob disgybl yn effeithiol.
Nod y cynlluniau hirdymor a thymor canolig hyn yw cynnig profiadau dysgu ymarferol a chyfoethog i ddatblygu sgiliau allweddol pob disgybl; h.y. cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd, meddwl a datrys problemau, TGCh ac Addysg Bersonol, Cymdeithasol a Iechyd (PSHE), wrth iddynt symud drwy eu gyrfa ysgol.
Ers cyflwyno Dyfodol Llwyddiannus:
Mae’r staff wedi croesawu’r addewid o gael cwricwlwm newydd yng Nghymru gan ei fod yn ategu ein hegwyddorion a’n cynnig cwricwlwm presennol yn ein barn ni. Mae wedi rhoi cyfle i ni gydweithio gydag ystod eang o gydweithwyr o leoliadau prif ffrwd a lleoliadau arbennig. Mae hyn wedi ein hysgogi i adolygu ein cynlluniau hirdymor.
Rydym bellach yn ystyried y ffordd y gallwn hyrwyddo’r Pedwar Diben ac yn cwestiynu p’un a yw elfennau o’r cynnwys sy’n ofyniad cwricwlwm presennol yn berthnasol i anghenion, diddordebau a dyheadau ein disgyblion.
Mae athrawon yn cyfarfod mewn grwpiau Maes Dysgu a Phrofiad ac yn gwneud addasiadau i’r cynlluniau ar gyfer y cwricwlwm yn ôl y cwestiynau canlynol:-
- A yw hwn yn cynnwys ‘rhaid gwybod hyn, gwneud hyn a/neu gael profiad ohono’?
- A yw’n gyd-destun sy’n ennyn diddordeb y disgyblion ddysgu am yr hyn sy’n berthnasol iddynt yn ein barn ni – a yw o ddiddordeb iddynt ac yn gyfrwng effeithiol o’u haddysgu?
- A yw’n ‘ddibwys’, neu ddim o ddiddordeb i’n disgyblion?
Mae hyn yn golygu y caiff ein Cynlluniau Hirdymor eu dadelfennu (sy’n eithaf brawychus o ran dangos parhad a chynnydd i bartneriaid allanol) ac y caiff cynlluniau newydd eu datblygu.
Mae uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn coladu gwaith athrawon ac yn adrodd yn ôl ar y themâu a’r cwestiynau sy’n codi ynghyd â’r llwybrau ymholi i’w hystyried ymhellach.
Hyd yn hyn, mae’r daith hon wedi bod yn ddiddorol a chadarnhaol. Caiff y risgiau eu gwrthbwyso gan addewid o fodel cwricwlwm sy’n bwrpasol ac sydd wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion ein disgyblion.
Ein nod yw newid ein fformat cynllunio ar gyfer tymor y gwanwyn 2019 ar sail ein canfyddiadau.
Byddwn hefyd yn symud ymlaen i ganolbwyntio ar y datblygiadau o ran asesu ac olrhain cynnydd
Gwnawn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi!
Lesley Bush,
Pennaeth.