Mae Parc Jiwbilî yn ysgol newydd, ac mae ein staff yn hoffi heriau. Nid ydym yn ysgol arloesi, ond rydym yn ystyried hyn yn bennod gyffrous newydd ym maes addysg a chyfle i addasu ein cwricwlwm er mwyn diwallu anghenion ein dysgwyr yng Nghymru. Felly, rydym wedi bod yn creu cwricwlwm ar sail yr argymhellion yn Dyfodol Llwyddiannus, sydd wedi bod yn heriol iawn, ond yn werthfawr.
Mae ein cwricwlwm yn fwy na chyfres o wersi neu gynllun gwaith. I ni, y cwricwlwm yw popeth yn ein hysgol – mae’n cwmpasu popeth. Mae ein Cwricwlwm Ffynnu yn deillio o ymchwil a syniadau a rannwyd gan ysgolion arloesi. Cafodd ei lywio gan adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar ysgolion fel sefydliadau dysgu, a dogfennaeth ar ddiwygio’r cwricwlwm. Rydym hefyd wedi cael llawer o drafodaethau a dadleuon â chydweithwyr!
Drwy feddwl o’r newydd wrth ddatblygu ein Cwricwlwm Ffynnu, cafodd ein datganiad o genhadaeth ei greu, sef ‘Ysbrydoli, Annog a Dathlu Llwyddiant’. Mae popeth rydym yn ei wneud yn seiliedig arno, ac mae wedi dylanwadu ar ein ffordd o feddwl dros y flwyddyn ddiwethaf. Gwnaethom ddatblygu tair egwyddor ein gweledigaeth sy’n sail i’n diben strategol a’n gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm.
Rydym yn ymrwymedig i’r canlynol:
Tanio brwdfrydedd i ddysgu
Creu’r amodau i ffynnu
Tyfu gyda’n gilydd yn y gymuned
Mae egwyddorion ein gweledigaeth, cynllun ein cwricwlwm a dysgu a datblygiad proffesiynol yn triongli er mwyn ein helpu i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae pob elfen yn dibynnu ar ei gilydd ac yn hyblyg wrth ymateb i anghenion ein cymuned sy’n tyfu a’r wybodaeth sy’n deillio o’r broses ddiwygio.
Er mwyn cyfleu cynllun ein cwricwlwm, gwnaethom greu ffeithlun sy’n tynnu sylw at egwyddorion Dyfodol Llwyddiannus a’r ffordd rydym wedi rhoi’r rhain ar waith i ddiwallu anghenion ein hysgol; mae’n sail i’r hyn rydym am i’n plant ei archwilio a chael profiad ohono.
Roedd trafodaethau’r staff yn canolbwyntio ar y ffeithlun, a bu’n gymorth i ddatblygu eu dealltwriaeth o egwyddorion cynllunio cwricwlwm a nodwyd yn Dyfodol Llwyddiannus. Rydym yn trafod hyn yn rheolaidd â’r holl staff a llywodraethwyr er mwyn sicrhau eu bod yn deall ac yn gwybod sut y gellir ei ddefnyddio’n effeithiol wrth ddatblygu ein cwricwlwm.
Diben ein cwricwlwm, ein ‘Pam?’, yw helpu ein plant i ffynnu mewn byd sy’n newid yn gyson, gan sicrhau bod y pedwar diben yn ganolog i hynny. Rydym yn ailystyried y pedwar diben yn rheolaidd ac yn trafod y ffordd rydym yn eu cynllunio a’u defnyddio.
Er mwyn gallu helpu ein plant i ffynnu, gwnaethom ystyried yr hyn sydd ei angen ar ein plant i’w helpu i ddysgu. Roeddem am sicrhau bod sgiliau a rhinweddau yn cael eu haddysgu i’n disgyblion, a fydd yn alluoedd pwysig iddynt fel dysgwyr ar draws y cwricwlwm, yn yr ysgol a thu hwnt. Gwnaethom ddatblygu ein hiaith ddysgu, ac mae’r Galluoedd Dysgwyr hyn yn hanfodol i’n cwricwlwm gan eu bod yn galluogi ac yn grymuso dysgwyr i arwain eu dysgu eu hunain. Ein nod yw addysgu’r plant ‘beth i’w wneud pan nad ydynt yn gwybod beth i’w wneud.’
Mae ein Cwricwlwm Ffynnu yn cydbwyso (ystod) gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau sy’n cyfoethogi. Mae’r plant yn cynllunio eu dysgu drwy Ddiwrnodau Ymdrwytho gyda’u hathrawon. Mae ein cwricwlwm yn sicrhau bod ‘beth’ rydym yn ei addysgu yn cynnwys elfen o gyfle i Archwilio a Phrofi, i Greu a Mynegi ac i Ymateb a Myfyrio bob amser.
Cwestiynau rydym yn gofyn i’r staff eu hystyried yn rheolaidd:
- Pa wybodaeth a sgiliau rydych am i’ch plant eu datblygu?
- Beth fydd diwedd y daith dysgu? Sut y byddwch yn cyrraedd y diwedd?
- Pa brofiadau dysgu cyfoethog y byddwch yn eu rhoi?
- Sut y gallwn ddefnyddio problemau go iawn i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau disgyblion?
- Pa mor dda rydych yn defnyddio’r pedwar diben wrth gynllunio profiadau?
Beth wnaethom ni?
Cawsom drafodaethau rheolaidd ynghylch diben ein Cwricwlwm Ffynnu drwy gydol y flwyddyn. Gwnaethom nodi’r hyn a oedd yn dda am fodel cynllunio ein cwricwlwm a chytuno ar feysydd i’w datblygu. Gwnaethom rannu’r ffordd y cafodd model cynllunio ein cwricwlwm ei ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Gwnaeth cyflwyno a defnyddio’r iaith yn Dyfodol Llwyddiannus yn gyson ategu’r gwaith o baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd ymhellach, ac mae defnyddio gwybodaeth o flogiau Llywodraeth Cymru a dogfennaeth ar ddiwygio’r cwricwlwm wedi cefnogi’r newidiadau rydym wedi’u gwneud.
Rydym hefyd wedi trafod yr adroddiadau Cyfoethogi a Phrofiad ac Asesu a Dilyniant o Linyn 1 o waith Arloesi’r Cwricwlwm ac wedi ystyried meysydd cryfder a meysydd i’w datblygu.
Cynllunio
Mae’r athrawon yn cynllunio cyd-destunau dilys go iawn ar gyfer dysgu sy’n seiliedig ar lais disgyblion ac sy’n gysylltiedig â’r pedwar diben. Mae Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu a Mathemateg a Rhifedd yn gysylltiedig â’r cyd-destun o themâu. Mae’r staff yn cael eu hannog i ymateb i lais disgyblion drwy gydol y thema a newid eu cynlluniau yn ôl yr angen. Mae cydbwysedd rhwng cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd a defnyddio sgiliau ehangach.
Mae’r gwaith cynllunio yn ystyrlon, ac mae’n dogfennu dysgu, llais disgyblion, goblygiadau i ddysgu yn y dyfodol a’r broses o ddathlu llwyddiant.
Diwrnodau Ymdrwytho
Cynhelir y rhain er mwyn dechrau thema newydd. Maent yn ddiwrnodau lle mae’r plant yn ymdrwytho mewn profiadau er mwyn iddynt allu dechrau meddwl am y thema newydd. Mae Diwrnodau Ymdrwytho yn lefelwr da i bob plentyn ac yn llawn profiadau. Yn ystod Diwrnod Ymdrwytho, mae’r athrawon yn rhannu’r wybodaeth a’r sgiliau a all fod yn berthnasol i’r thema, ac mae’r plant yn cydweithio ac yn trafod y profiadau yr hoffent eu cael.
Diwrnodau Cyfoethogi
Cynhelir Diwrnodau Cyfoethogi bob wythnos, ac maent yn galluogi’r plant i ddefnyddio eu sgiliau mewn cyd-destun newydd – yn aml, problemau go iawn. Mae Diwrnodau Cyfoethogi yn canolbwyntio ar ddefnyddio sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol. Nid yw’r diwrnodau hyn yn dibynnu ar amseroedd sesiwn na chynnwys. Caiff y staff eu hannog i feddwl yn greadigol, gan ystyried defnyddio mannau dysgu mewn ffordd hyblyg a chynnwys y gymuned leol.
Dogfennu Dysgu
Rydym yn sôn llawer am y ffordd y gallwn ddogfennu dysgu’r plant er mwyn dangos eu taith dysgu. Gall arddangosfeydd yn yr ystafell ddosbarth newid a dogfennu ffyrdd y plant o feddwl. Mae gan bob plentyn gofnodlyfr dysgu er mwyn cofnodi ei waith. Mae’r plant yn defnyddio amrywiaeth o bapurau, delweddau a deunyddiau i gyflwyno eu gwaith, a gallant ddefnyddio eu cofnodlyfrau fel y mynnant. O ganlyniad, mae pob cofnodlyfr yn wahanol.
Beth rydym wedi’i ddysgu ar ôl ein blwyddyn gyntaf …
- Mae model cynllunio ein cwricwlwm, sy’n gysylltiedig â’n gweledigaeth, wedi helpu ein staff i ddeall ein cwricwlwm
- Rydym yn datblygu cwricwlwm sy’n diwallu anghenion ein plant ac sy’n addas ar gyfer ein cyd-destun lleol
- Mae cynllun ein cwricwlwm yn bwrpasol er mwyn sicrhau bod cyfleoedd dysgu yn gyson ac yn cyd-fynd â’i gilydd
- Mae cynllun ein cwricwlwm yn golygu bod staff yn rhydd i arloesi, dilyn diddordebau’r plant a datblygu eu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad
- Mae sesiynau dysgu a datblygiad proffesiynol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r cwricwlwm a chydweithio yn hollbwysig i ddatblygu’r cwricwlwm
- Mae ein dealltwriaeth o’r pedwar diben yn datblygu drwy drafod yn rheolaidd a rhannu’r gwaith cynllunio a gwaith y plant
- Mae’r staff yn dweud eu bod yn gwybod ‘pam’ maent yn gwneud pethau
Mae’r staff wedi’i chael hi’n anodd datblygu ein cwricwlwm, ond maent wedi cael cefnogaeth i gymryd risgiau. Mae amgylchedd yr ysgol yn gadarnhaol ac yn canolbwyntio ar ddysgu. Yn ôl y staff, mae popeth y maent yn ei wneud yn ystyrlon ac yn berthnasol, sydd wedi arwain at gydbwysedd gwaith/bywyd gwell. Mae gan y Tîm Arwain weledigaeth glir ar gyfer cynllun y cwricwlwm, yn ogystal â’r wybodaeth i arwain a helpu’r athrawon. Mae’r staff yn teimlo bod mwy o hyblygrwydd a mwy o ffydd ynddynt yn broffesiynol.
Mae’r plant yn cael eu cynnwys yn y gwaith o gynllunio eu profiadau dysgu, ac mae ganddynt yr hyder i drafod eu taith dysgu. Maent yn cydnabod yr holl gyfleoedd cyfoethog a dilys sydd ar gael, a gallant drafod y rhain yn fanwl. Mae ein hiaith ddysgu yn galluogi’r plant i drafod yn hyderus y ffordd y maent yn dysgu a’r ffordd y mae ein Galluoedd Dysgwyr yn eu helpu i ddysgu.
Beth nesaf?
Mae’n cymryd amser i ddatblygu cwricwlwm. Megis dechrau y mae ein gwaith o ddatblygu ein cwricwlwm, ac wrth i flwyddyn academaidd newydd ddechrau, rydym wedi diwygio model cynllunio ein cwricwlwm i adlewyrchu anghenion ein cymuned ddysgu ymhellach.
Mae gweledigaeth, cynllun ein cwricwlwm a dysgu a datblygiad proffesiynol yn hollbwysig i greu diwylliant sy’n canolbwyntio ar ddysgu yn ein hysgol. Rydym yn edrych ymlaen at y newidiadau ac yn barod i groesawu cam nesaf y broses o ddiwygio’r cwricwlwm.
Catherine Kucia, Prifathro, Ysgol Gynradd Parc Jiwbili, Casnewydd