Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad diweddaraf o’r model ysgolion arloesi ar gyfer datblygu’r cwricwlwm

Read this page in English

459082897Er ei fod yn ddull mentrus ac ymroddedig o ddatblygu’r cwricwlwm, mae dal i fod angen gwerthuso’r broses yn drylwyr er mwyn llywio gwelliannau wrth symud ymlaen. Dyna’n union a wneir yn yr adroddiad diweddaraf gan ymchwilwyr annibynnol, sy’n hawdd ei ddarllen.

Mae’n canmol y dull gweithredu a ddefnyddir ond yn awgrymu bod angen i ysgolion sydd y tu allan i rwydwaith yr ysgolion arloesi fod yn fwy ymwybodol o’r cynnydd a wneir:

‘Mae model yr Ysgolion Arloesi wedi llwyddo i sicrhau cefnogaeth gadarn ar gyfer y weledigaeth a nodwyd yn Dyfodol Llwyddiannus ymhlith yr ysgolion hynny sy’n ymwneud â’r broses ac ymhlith partneriaid strategol. Yn y pen draw, fodd bynnag, mae gan bob ysgol yng Nghymru rôl i’w gyflawni wrth ddarparu Cwricwlwm i Gymru sy’n llwyddiannus.’ Felly, argymhellir ‘gweithredu mwy unedig a gweithgarwch ymgysylltu’ ag ysgolion sydd y tu allan i rwydwaith yr ysgolion arloesi.

Mae hefyd yn adlewyrchu’r heriau mewn ‘prosiect rheoli newid cymhleth a hirdymor’, gan nodi fel enghraifft ‘sicrhau bod y trefniadau ar gyfer y cwricwlwm newydd a’r fframweithiau asesu yn cyd-fynd, yn enwedig y tu hwnt i Gyfnod Allweddol 3’.

Mae’r adroddiad gwerthfawr hwn eisoes yn llywio’r gwaith cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Gadael ymateb