Pa mor dda yw paratoadau ysgolion ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol? Gofynnodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, i Estyn adroddiad a thynnu sylw at arferion y da.
Mae’r adroddiad hefyd yn craffu ar arweinyddiaeth, rôl arweinwyr digidol, a dysgu proffesiynol. Roddir argymhellion ar gyfer ysgolion, consortia a Llywodraeth Cymru.
Mae’r adran ar ffyrdd effeithiol o baratoi yn rhoi mwy o fanylder, ynghyd â chyngor defnyddiol ar bynciau’n ymwneud â gweledigaeth, cynllunio, paratoi adnoddau a mapio’r cwricwlwm. Mae hefyd adran ar nodweddion sy’n gyffredin wrth i’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol gael ei weithredu’n llwyddiannus, lle ceir rhestr wirio a siart ar gyfer y daith gyfan, o’r cychwyn cyntaf hyd at gynnal cynnydd dros gyfnod o amser.
Mae’r adroddiad yn glir y gall gwahanol ysgolion wneud pethau mewn gwahanol ffyrdd, ond gall y llu o arferion da a grybwyllir fod yn berthnasol i bawb, a cheir hefyd sawl astudiaeth achos ddefnyddiol.