Nid yw’r daith i drawsnewidiad digidol yn un hawdd ac nid yw’n digwydd dros nos. Dyma ein ffordd o feddwl ni yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro (CAVC).
Rydym yn annog trawsnewidiad digidol mewn nifer o ffyrdd, yn gyntaf drwy hyfforddi staff ac yn ail, drwy newid diwylliannol a rheoli newid.
Mae hyfforddiant yn hanfodol, felly rydym yn defnyddio diwrnodau HMS, gweithdai, sesiynau un i un, a hyfforddiant wedi’i deilwra gan Arweinwyr Digidol adrannau i roi cymorth i’r athrawon gydag arbrofion Dysgu Estynedig drwy Dechnoleg (TAL), drwy wefan Microsoft Educator Community (MEC) ac Academi Imagine Microsoft.
Mae MEC yn galluogi staff i ddilyn llwybrau Microsoft Innovative Educator, ac ennill bathodynnau eraill mewn cyrsiau yn eu hamser eu hunain, i wella eu cymhwysedd digidol mewn cynhyrchion Microsoft a dysgu estynedig drwy dechnoleg. Mae academi Imagine yn darparu’r adnoddau diweddaraf i hyfforddi ac ardystio myfyrwyr ac addysgwyr ar gynhyrchion a thechnolegau Microsoft. Cynhaliwyd arbrofion TEL dros y flwyddyn ddiwethaf, lle y bu staff yn archwilio’r defnydd o dechnolegau dysgu a fydd yn gwella eu haddysgu a’u dysgu ynghyd â chreu astudiaeth achos i arddangos yr effaith.
Hoffem fagu hyder staff, er mwyn i arweinwyr digidol gefnogi’r broses a darparu amgylchedd diogel fydd yn galluogi staff i roi cynnig ar bethau gan ddeall bod methiant yn dderbyniol. Mae hyn yn bwysig wrth i ni geisio meithrin gwydnwch ac annog arloesed mewn methodolegau addysgu a dysgu. Er mwyn hwyluso hyn, mae pob un o’n Harweinwyr Digidol sy’n staff yn ennill bathodynnau fel Arbenigwyr Addysgwyr Arloesol Microsoft ac yn cwblhau arholiad Addysgwr Ardystiedig Microsoft er mwyn helpu i ysgogi newid yn eu hadrannau.
Byddwn yn lansio ein taith TEL i staff y mis hwn, lle rydym yn gobeithio datblygu Datblygiad Proffesiynol Parhaus TEL drwy gemau, ar gyfer staff a’u gwobrwyo am gymryd rhan. Mae gennym dair taith TEL, un yr un ar gyfer athrawon, staff cymorth busnes ac arweinwyr. Mae’r teithiau hyn yn cynnwys datblygu sgiliau O365 gan ddefnyddio MEC, Academi Imagine Microsoft ac arholiadau Achrededig Microsoft, Moodle, arbofion TEL ac arweinyddiaeth ddigidol. Man cychwyn y daith hon yw adnodd Darganfod Galluoedd Digidol y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC), gyda’r staff yn hunanasesu eu galluoedd digidol, ac yn cael cynllun datblygu ar-lein. Rydym yn mapio’r galluoedd digidol hyn i’r MEC ac Academi Imagine, fel bod y staff yn gwybod pa gyrsiau a fydd yn eu helpu i ddatblygu galluoedd penodol. Mae hyn yn rhan o gynllun datblygu tair blynedd a bydd yn adnodd defnyddiol yn ystod arfarniadau, i staff a rheolwyr.
Fodd bynnag, dim ond rhan o’n hymdrech i drawsnewid digidol yw’r hyfforddiant. Er mwyn ymgorffori hyn, mae angen iddo ddatblygu i fod yn rhan o ddiwylliant y coleg; mae’n ymwneud â rheoli newid a newid diwylliannol, nid y dechnoleg. Rydym yn gweithio tuag at gyflawni hyn drwy ymgorffori TEL mewn arsylwadau gwersi, arfarniadau a sesiynau sefydlu. Mae cysylltiad agos iawn rhwng ein strategaeth TEL â’n strategaeth Addysgu a Dysgu, sy’n helpu i gyflawni’r newid diwylliannol hwn, ac i hwyluso’r broses o symud tuag at fàs critigol o staff sy’n ymgysylltu â TEL a sicrhau ei fod yn arfer cyffredin.
Mae tîm TEL hefyd wedi bod yn cynnal sesiynau cyfoethogi myfyrwyr sy’n gysylltiedig â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, gan fod ein dysgwyr wedi colli’r cyfle hwn mewn ysgolion ac am nad yw’r fframwaith yn cwmpasu myfyrwyr dros 16 oed. Rydym wedi bod yn cynnal gweithdai yn defnyddio rhaglenni Office 365 a Windows 10, codio gan ddefnyddio Lego Mindstorms, codio Minecraft, eDdiogelwch a gweithdy seiberddiogelwch.
Fel y soniais, nid yw’r daith i drawsnewidiad digidol yn un hawdd ac nid yw’n digwydd dros nos. Serch hynny, mae’n hollbwysig cael y weledigaeth, y strategaeth a’r arweinyddiaeth hynny o’r brig er mwyn ei ymgorffori i mewn i’r diwylliant. Dim ond ar ôl hynny y byddwn yn gweld y newid mawr hwnnw yn dod yn rhan naturiol o addysgu a dysgu, ac ni fydd angen i ni ei enwi’n rhywbeth gwahanol megis dysgu digidol, cymhwysedd digidol, neu ddysgu estynedig drwy dechnoleg bellach gan mai dyna fydd y norm.
Hannah Mathias, Rheolwr E-ddysgu yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro (CAVC).
Mae gan Hannah MSc mewn E-ddysgu a statws Addysgwr Ardystiedig Microsoft, ac mae’n gweithio ar hyn o bryd fel Rheolwr E-ddysgu yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Roedd hi’n aelod o’r Grŵp Llywio TGCh i Lywodraeth Cymru.