Neidio i'r prif gynnwy

Cenhadaeth ein Cenedl o ran Addysg: Cynnydd

Read this page in English

kw-portrait-1“Pan gyhoeddais genhadaeth ein cenedl o ran addysg fis Medi diwethaf, dywedais fod yn rhaid inni barhau i symud ymlaen er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau. Dros y flwyddyn ddiwethaf, felly, rydym wedi bod yn datblygu momentwm –ac ymdrech i hunanwella, a hynny ar draws y system addysg.

Education in Wales Timeline update Cym

“Mae llawer o waith ar ôl i’w wneud, ond rwy’n hynod falch o’r diwygiadau rydym eisoes wedi’u cyflwyno mewn cyfnod cymharol fyr. Hefyd, rwyf wedi fy mhlesio’n arw â’r ffordd y mae pawb yn y system addysg wedi ymateb i’r her.

“Pan fyddaf yn ymweld ag ysgolion ac yn siarad â’r athrawon a’r disgyblion, rwy’n cael fy syfrdanu gan yr hyn y maent yn ei gyflawni a sut maent yn gwella – boed o ran datblygu’r cwricwlwm neu ganfod ffyrdd newydd o addysgu a dysgu.

“Yn gyfnewid, rydym yn cyflwyno’r newidiadau mwyaf cynhwysfawr i addysg a datblygiad athrawon ers blynyddoedd, gan sicrhau bod ein proffesiwn addysgu’n gwbl barod pan fyddant yn dechrau cyflwyno ein cwricwlwm newydd.

“Mae ein hysgolion yn newid, mae addysg yng Nghymru’n newid, ac rwy’n hyderus bod ein cenhadaeth genedlaethol ar y trywydd iawn i gyflawni’r diwygiadau sylweddol sydd eu hangen.”

Wrth inni nesáu at ddiwedd y tymor, mae’n dda edrych yn ôl ar yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd ers mis Medi diwethaf.

Un o’r newidiadau mwyaf sylweddol a phellgyrhaeddol yw’r cwricwlwm newydd, a fydd yn cael ei gyflwyno o 2022. Mae dros 200 o ysgolion arloesi ar draws Cymru yn helpu i ddatblygu chwe Maes Dysgu a Phrofiad gwahanol. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys ymgorffori cymhwysedd digidol ym mhob agwedd ar addysgu a dysgu a chefnogi athrawon i ddatblygu’r cwricwlwm newydd.

Yn ôl adroddiad annibynnol newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae’r ysgolion hyn yn gefnogol iawn o’r newidiadau sy’n cael eu gwneud ac yn frwdfrydig iawn am eu rhan nhw yn y gwaith o ddatblygu cwricwlwm newydd Cymru.

Mae dysgu a datblygiad proffesiynol athrawon hefyd wedi bod yn allweddol ar gyfer cyflawni’r genhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg. Yn ystod y flwyddyn ysgol hon, cyflawnwyd y canlynol:

  • Datblygu safonau proffesiynol newydd ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth ochr yn ochr â’r proffesiwn, i’r proffesiwn;
  • Sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol i gefnogi pob arweinydd ym maes addysg ym mhob cam o’u gyrfaoedd;
  • Rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon newydd achrededig i’w cyflwyno yn y flwyddyn academaidd 2019/20;
  • Cynlluniau ar gyfer TAR rhan-amser newydd a llwybr newydd i addysgu sy’n seiliedig ar gyflogaeth o 2019/20.

Yn fuan bydd athrawon a disgyblion yn dechrau gweld manteision cronfa gwerth £36 miliwn i leihau maint dosbarthiadau babanod, gyda phenodiad dros 80 o athrawon newydd ar draws Cymru, a chronfa gyfalaf i adeiladu dosbarthiadau newydd.

Mae lleihau’r fiwrocratiaeth ddiangen ar athrawon yn parhau’n flaenoriaeth. Eleni, buddsoddwyd £1.2 miliwn er mwyn penodi rheolwyr busnes mewn ysgolion – gan helpu athrawon i reoli eu llwyth gwaith a chanolbwyntio ar godi safonau a gwella ysgolion.

Y tymor nesaf, byddwn yn paratoi i gyhoeddi’r cwricwlwm a’r model asesu drafft ym mis Ebrill 2019. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi’r Dull Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Dysgu proffesiynol er mwyn helpu’r proffesiwn i wynebu heriau’r cwricwlwm newydd.

Felly, diolch am eich gwaith caled, eich ymrwymiad a’ch brwdfrydedd. Dim ond gyda gweithlu ymroddgar a thalentog y gallwn gyflawni ein cenhadaeth. Mwynhewch y gwyliau ac edrychaf ymlaen at eich gweld ac at glywed gennych y tymor nesaf.”

Gadael ymateb