Josh Pickett: “Rwy’n credu bod angen i’r holl ddisgyblion ddysgu sut i ddatrys problemau gan y bydd yn eu helpu gyda nifer o bethau, ac nid dim ond TGCh”.
Ysgol Sant Christopher yw’r ysgol arbennig fwyaf yng Nghymru. Flwyddyn ar ôl lansio ymgyrch ‘cracio’r cod’, sef ymgais i roi sgiliau codio i athrawon a dysgwyr, mae ganddi glwb codio poblogaidd ac enghreifftiau da o sut y caiff disgyblion fudd ohoni.
Mae gan bob dysgwr yn yr ysgol anghenion dysgu ychwanegol ac ni chânt eu hystyried yn ddisgyblion a fyddai’n cymryd rhan mewn cyfrifiadureg yn draddodiadol. Ni oedd un o’r ysgolion cyntaf i gymryd rhan yn y fenter cracio’r cod gyda GWE ym mis Medi. O ganlyniad i’r hyfforddiant hwn gwnaethom sefydlu clwb codio bob amser cinio ar ddydd Llun a fu’n boblogaidd iawn drwy gydol y flwyddyn. Gwnaethom gychwyn ein clwb codio ym mis Medi gan ddefnyddio dyfais bwrdd ‘crumble’ Redfern electronics. Gwnaethom greu llyfryn cwbl annibynnol a oedd yn galluogi’r disgyblion i’w ddilyn fesul cam.
Gwnaethom barhau i ddefnyddio dyfeisiau ‘crumble’ drwy gydol tymor yr hydref, gan ddefnyddio switshis a moduron nes i ni ddatblygu prosiectau yn raddol, megis robot sy’n symud mewn llinellau, robotiaid swmo, coeden Nadolig yn defnyddio cyfrifiadureg, a chlustffonau a reolir gan ddyfais ‘crumble’ a oedd yn chwarae caneuon gan ddefnyddio folteddau gwahanol ar fotor y ddyfais.
Ers y clwb codio cyntaf, mae’r disgyblion yn llawer mwy annibynnol ac yn gallu dewis dyfeisiau, cyrsiau ar-lein a phrosiectau sydd o ddiddordeb iddynt ac maent wedi ymgymryd â gweithgareddau BBC Microbit, di-blwg, pro-bots, Spheros ac Osmo.
Mae menter cracio’r cod wedi bod yn wych ar gyfer ein disgyblion yn ysgol Sant Christopher, gwnaeth hyfforddiant Alex Clewett ddarparu rhai prosiectau cychwynnol i ni megis y robotiaid Swmo ynghyd ag atgyfnerthu rhai cysyniadau cyfrifiadureg yr oeddwn eisoes yn ymwybodol ohonynt. Mae cyfrifiadureg yn hollbwysig i’n disgyblion gan ei fod yn eu galluogi i fod yn ddysgwyr gwydn. Mae’n dangos iddynt na fydd popeth yn gweithio a bod yn rhaid i ni ddadfygio a gweithio rhywbeth allan.
Rwyf wedi sylwi bod y disgyblion sydd wedi bod yn rhan o’r clwb codio yn llawer mwy annibynnol erbyn hyn gyda’u sgiliau codio ac nid oes angen cymaint o gymorth arnynt o gymharu â’r gorffennol.
Josh Pickett 18 oed sy’n ddisgybl yn Ysgol Sant Christopher:
Y rheswm pam rwy’n hoffi’r clwb codio yw: Mae’n ddiddorol iawn, gwnaethom ddysgu sut i wneud addurniadau Nadolig ar y thema Star Wars a oedd yn goleuo, ac adeiladu robotiaid swmo gan ddefnyddio dyfais Crumble a allai ymladd mewn cylch a cheisio gwthio ei gilydd allan o’r cylch. Dysgom nad yw pethau’n gweithio y tro cyntaf bob amser a bod angen i chi ddadfygio’r rhaglen i ddatrys problemau a rhoi cynnig ar ffyrdd gwahanol o adeiladu pethau i wneud iddynt weithio’n iawn. Roedd hyn yn beth da i’w ddysgu gan yr oeddwn yn dueddol o roi’r ffidil yn y to os nad oedd pethau’n gweithio y tro cyntaf yn y gorffennol. Yn ogystal â hyn, gwnaethom ddefnyddio microbits a Powerpoint i greu’r gêm ‘Shut the Box’.
Rwy’n credu y dylai pob disgybl gymryd rhan mewn gweithgareddau codio oherwydd: Rydych yn dysgu sut i greu rhaglenni cyfrifiadurol gan ddefnyddio microbits, dyfeisiau crumble a scratch yn y clwb codio. Rydym yn defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol i’n helpu i ddatrys problemau. Rwy’n credu bod angen i’r holl ddisgyblion ddysgu sut i ddatrys problemau gan y bydd yn eu helpu gyda nifer o bethau, ac nid dim ond TGCh. Mae dysgu am ddadfygio yn helpu disgyblion i ddysgu nad yw pethau’n gweithio y tro cyntaf ac y gallant newid pethau i’w gwella yn hytrach na cholli eu hamynedd â nhw. Mae bod yn rhan o’r clwb codio hefyd yn hwyl.
Gyda diolch i Josh Pickett a Mr Ryan Hayes, Ysgol Sant Christopher, Wrecsam.
Am ragor o wybodaeth am ‘gracio’r cod’ gweler cynllun Llywodraeth Cymru: