Mae gan Ysgol Gyfun Porthcawl 1,400 o ddisgyblion a dros 80 o staff. Mae’r gwaith o gyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi bod yn gyson ac yn flaengar, gan ddechrau ym mis Medi 2016 gyda’r cynlluniau gwella ysgol a chyfadran.
C: Sut ddechreuoch chi weithio gyda’r fframwaith?
Ar ôl i ni ei gynnwys yn ein cynllunio, fe ddechreuon drwy nodi’r llwyddiannau cynnar – pobl a oedd eisoes yn gwneud gwaith digidol – fel yng ngwyddoniaeth – y gellid rhannu straeon eu llwyddiant.
Doedden ni ddim eisiau drysu pobl gyda jargon technegol, gallai fod â’r potensial i frawychu rhai aelodau o staff, felly cawsom ddiwrnod HMS ar y Cwricwlwm ac yn hytrach na dychryn staff edrychon ni ar y darlun mawr a dangos y gwerth y gallai digidol ddod drwy esiamplau da. Dechreuon ni drwy edrych ar yr hyn oedd yn cael ei wneud eisoes a sut oedd modd ei ddatblygu, gan ganolbwyntio yn arbennig ar y llinyn Cynhyrchu yn y lle cyntaf.
C: Sut ydych wedi ceisio ei ymgorffori ers hynny?
Mae gennym weithgor gydag enwebeion brwdfrydig o bob Maes Dysgu a Phrofiad (ia, fel ysgol Arloesi rydym eisoes yn gweithio yn y ffordd hon) ac rydym yn ceisio rhoi ychydig o amser a hyblygrwydd iddynt i gael gweithio gydag eraill. Gan ddechrau gyda blynyddoedd 7 ac 8 fe wnaethon nhw archwiliad sgiliau a chynllun hyfforddiant cychwynnol, mapio ein gweithgaredd ar draws y Fframwaith, edrych ar dasgau cyfoethog, ac adolygu ein cyfarpar. Maent hefyd wedi bod yn edrych ar sut i gefnogi meysydd lle y cafwyd bylchau naturiol a nodwyd yn y Fframwaith.
C: Pa ddull arweinyddiaeth ydych chi’n ei ddilyn?
Mae’n bwysig i arwain a chefnogi o’r brig, gyda’r dirprwy bennaeth yn gweithio gyda’r tîm uwch, arweinydd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a’r gweithgor, sicrhawn y caiff ymdrechion eu cefnogi a chymeradwyo.
Mae rhai aelodau o staff wedi bod yn bryderus ynghylch pa mor bell i gymryd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol felly drwy gyflwyno hyn yn raddol teimlwn ein bod yn adeiladu pocedi o arbenigedd ac arfer o gwmpas yr ysgol y gallwn eu hymestyn i bob maes dros gyfnod o amser heb fod yn fygythiol neu’n ‘ffug’ am y modd rydyn ni’n gweithredu’r fframwaith.
Rydym wedi annog pobl i gydweithio yn hytrach na brwydro ar eu pen eu hunain, sy’n fwy cefnogol ac sydd wedi adeiladu ymdeimlad gwirioneddol o waith tîm.
C: Felly, ydyw wedi bod yn sioc i ddiwylliant y staff?
Naddo, oherwydd ein dull gweithredu mae wedi bod yn iawn. Hefyd bu i ni redeg ein diwrnod HMS ar gyfer y fframwaith yn yr haf, ddim yn y cyfnod arholiadau, fel y gallai staff feddwl am gynlluniau gwaith. O gofio bod ein gweithgor o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad yn hytrach na’u bod yn bobl TG, credwn eu bont mewn sefyllfa gwell i helpu athrawon.
I fagu hyder, negodwyd amser yng nghalendr yr ysgol i’r arweinwyr Maes Dysgu a Phrofiad i weithio ar dasgau cyfoethog y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a chyfathrebu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth i gyd-aelodau.
C: Beth fu eich ffynonellau mwyaf defnyddiol o gymorth?
I ni, dysgu ysgol i ysgol drwy rwydwaith o ysgolion o fewn Pen-y-bont, a gychwynnwyd gan Grŵp Dysgu Ffurfiol Pen-y-bont, sydd wedi bod orau. Mae Hwb wedi hwyluso hyn drwy fod yn llwyfan lle y gallem gydweithio a rhannu syniadau ac arfer da.
C: Ydy disgyblion wedi elwa?
Yn bendant, mae wedi cyfoethogi eu dysgu. Rydym yn ei weld mewn ardaloedd o gwmpas yr ysgol ac mae’n tyfu. Ac mae cymhwysedd digidol yn rhywbeth sydd wir angen ar ddisgyblion mewn bywyd, nid yn unig yn yr ysgol.
C: Felly ac ydyw wedi bod yn daith esmwyth?
Yr oedd yn berffaith! Wel, nac oedd, ond rydym yn fodlon â’r ymagwedd gynyddrannol rydym wedi’i gymryd, gan gofio’r baich sydd eisoes ar ysgwyddau staff.
Bydd angen ei gyflwyno i benaethiaid gyfadrannau i’w adolygu ac i weld pa mor dda mae’n mynd ac i symud ymlaen, ond mae hynny eisoes yn ein cynllun 3 blynedd.
Mae cael gweledigaeth a chynllun hirdymor yn sicrhau ein bod yn symud ymlaen yn barhaol, ceith staff amser i ddatblygu, mae’r isadeiledd yn fwy hyblyg ac yr ydym wedi gweld gwelliant yn ymroddiad a pharodrwydd disgyblion i ddysgu.
Gyda diolch i Helen Christopher, Pennaeth Cyfrifiadureg/TGCh, ac Anne O’Brien, Dirprwy Bennaeth, gweler yn y llun uchod.