Mae’n gyfnod cyffrous i ni yng Nghymru o ran dyfodol yr iaith Gymraeg. Mae ein strategaeth, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, yn gosod yr uchelgais yn glir. Y nod yw:
- cynyddu nifer y siaradwyr
- cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg; a
- creu amodau ffafriol i’r Gymraeg
Ry’ ni i gyd yn ymwybodol bod gan ein system addysg gyfraniad sylweddol i’w wneud er mwyn gwireddu’r weledigaeth hirdymor hon i gyrraedd Miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Ry’n ni wedi ei gwneud hi’n glir ein bod ni am weddnewid y modd y caiff y Gymraeg ei haddysgu. Yn syml, dylai pob un o’n pobl ifanc, o bob cefndir, adael y system addysg yn barod ac yn falch o ddefnyddio’r iaith ym mhob cyd-destun. Mae’n fater o degwch, a rhaid i ni fel Gweinidogion a Llywodraeth Cymru osod y cyfeiriad a darparu arweiniad.
Wrth gwrs, er mwyn cyflawni hyn, mae angen gweithlu addysg o safon uchel sy’n egnïol ac yn frwdfrydig ac sydd wedi ymrwymo i sicrhau dysgu o ansawdd i bawb. Ni all system addysg fod yn fwy na safon ei gweithlu, ac ni ellir cyflwyno ein cwricwlwm heb broffesiwn addysgu uchelgeisiol sydd wedi’i gefnogi’n dda.
Ddiwedd mis Mehefin, cynhaliais symposiwm i drafod sut y gallwn wella profiadau ein dysgwyr. Roedd yn gyfle gwych i ddod ag athrawon, darparwyr hyfforddiant a phartneriaid ynghyd i drafod sut yn ymarferol y gallwn ni symud ymlaen yn y tymor byr a’r tymor hir.
Ry’n ni eisiau sicrhau bod ein hathrawon yn cael eu hyfforddi ac yn cael eu cefnogi i fod yn addysgwyr hyderus sy’n meddu ar y sgiliau priodol. Yn ogystal â chanolbwyntio ar ddulliau addysgu cyffredinol i gefnogi’r cwricwlwm newydd, rydym eisoes yn dechrau gwella ein dealltwriaeth o addysgeg penodol – y dulliau addysgu sy’n gyffredin i ddisgyblaethau, meysydd astudio neu broffesiynau penodol. Roedd y symposiwm yn gychwyn ar y daith hon wrth i ni ganolbwyntio ar addysgu ail iaith yn effeithiol.
Sesiwn bore – Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, a Dr Parvaneh Tavikoli, Prifysgol Reading (17:20 ymlaen).
Sesiwn prynahwn – Kevin Palmer (5:15 ymlaen), a’r Athro Tess Fitzpatrick, Prifysgol Abertawe (22:20 ymlaen).
Roeddem yn ffodus bod dau adroddiad ymchwil yn llywio ein trafodaethau yn y symposiwm. Mae’n hollbwysig bod ein gwaith yn cael ei lywio gan ymchwil a thystiolaeth am addysgu a dysgu iaith yn effeithiol, gan gynnwys dulliau trochi iaith, yn ogystal â rôl dwyieithrwydd wrth gefnogi aml-lythrennedd a datblygiad ieithyddol a gwybyddol dysgwyr. Gallwch eu gweld yn son am y symposiwm a’u profiadau nhw isod.
A gallwch ddarllen eu hadroddiadau isod. (dolen i’r adroddiadau)
Ymagweddau a dulliau addysgu ail iaith effeithiol
Ymagweddau at gaffael ail iaith ac arferion addysgol
Tra bo angen ystyried datblygiadau tymor hir o ran paratoi’r gweithlu at y cwricwlwm newydd, rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau bod y dysgwyr sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd yn cael profiadau cadarnhaol o ddysgu’r Gymraeg ac ieithoedd eraill.
Does dim angen aros i’r cwricwlwm newydd i newid dulliau addysgu, ac felly rwy’n gosod yr her i ni gychwyn ar y newid hwn yn syth.
Gan fanteisio ar fewnbwn yr ymchwilwyr, mae cyfle euraidd gennym i ddysgu a sicrhau bod y dulliau addysgu mwyaf effeithiol yn cael eu defnyddio er mwyn creu siaradwyr Cymraeg y dyfodol.