Mae 1000 o ddisgyblion rhwng 12 a 18 oed yn Ysgol Gyfun Sant Martin. Aeth yr ysgol i’r afael â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol drwy beri i’r cyfryngau digidol weithio i’r ysgol gyfan, gan gynnwys gofal bugeiliol a chymorth i ddysgwyr yn ogystal ag ar draws y cwricwlwm.
C: Sut wnaethoch chi ddechrau gweithio gyda’r Fframwaith?
A: Roedden ni’n ei weld fel rhywbeth mwy na’r cwricwlwm. Roedden ni eisiau defnyddio dulliau digidol ar gyfer pob mathau o weithgareddau ysgol, felly fe benderfynwyd y bydden ni’n mynd amdani a bwrw’n hunain ben a chlustiau i mewn i ddefnyddio dulliau digidol ar draws yr ysgol. Fe wnaethon ni ddechrau’n gynnar: roedden ni’n gallu gweld beth oedd y cam nesaf, felly fe wnaethon ni ddechrau cynllunio ar ei gyfer ym mis Mai 2015.
Roedd rhaid i’r rheolwyr uwch fabwysiadu’r syniad yn gyntaf achos roedd rhaid i ni rannu’r un neges a’r un dull gweithredu. Yna cawsom gyfarfod â’r Penaethiaid Adrannau – a oedd yn gadarnhaol – a chynnal archwiliad o sgiliau’r staff. Roedd elfen o betruso, ond rydyn ni wedi ceisio dod dros hynny drwy fod mor agored a chefnogol ag y gallwn.
C: A oedd y diwylliant newydd yn sioc i’r staff?
A: Ddim felly. Dw i’n meddwl eu bod nhw yn gwerthfawrogi pa mor bwysig yw dulliau digidol i’n disgyblion, ac roedden nhw’n croesawu syniadau newydd. Cawsant eu cynnwys mewn ymarfer mapio yn erbyn y fframwaith. Aeth y dasg yn eithaf dda; fe ddechreuon ni gyda phynciau craidd a mynd yn ehangach wedyn. Yna buom yn ymgynghori â staff yn unigol, yn ogystal â chynnal sesiynau a gweithdai amser cinio i gael gwared â mythau ynghylch y fframwaith.
Sut aethoch chi ati i arwain y gwaith?
Y peth cyntaf a wnaethon ni oedd sicrhau bod y staff a’r disgyblion yn deall y cyd-destun. Roedd y tîm uwch ar flaen y gad, gan seilio’r rhesymeg dros ddefnyddio’r fframwaith ar y cwricwlwm, methodoleg ac addysgeg. Fe wnaethon ni ymdrechu i’w wneud yn berthnasol i bynciau ac i ddisgyblion, fel ei fod yn cyfoethogi addysgu pynciol.
Roedd cyfarfodydd addysgu wythnosol yn helpu drwy roi cyfle i rannu gwybodaeth am dechnoleg. Rhoddwyd hyfforddiant i’n llywodraethwyr hefyd – gan dynnu’r gymuned ysgol gyfan i mewn.
C: Pa gefnogaeth oeddech chi’n ei darparu i athrawon?
Cyflwynwyd ‘arweinwyr digidol’ ymhlith y disgyblion a’r staff i helpu staff yn y gyfadran â phroblemau. Ochr yn ochr â hyn, roedden ni’n cynnig hyfforddiant ‘fesul tamaid’ a phecyn cymorth. Fe wnaethom weithio gyda’r British Council hefyd, a chynnal ymchwil weithredol a llawer o hyfforddiant digidol gan rannu’r canlyniadau mewn sesiynau min nos.
Ac fe wnaethon ni’n sicr ein bod yn cael hwyl! Roedden ni eisiau gwobrwyo pobl am eu hymroddiad drwy wneud yr hyfforddiant yn rhywbeth i’w fwynhau.
C: A yw ‘r disgyblion wedi elwa ar hyn?
O do. Maen nhw’n gweithio’n well, yn gweithio mwy ac yn gweithio’n fwy clyfar. Maen nhw’n mwynhau cysylltu â’u gwaith o’r tu allan i’r ysgol. Ac mae ein gofal bugeiliol yn cael ei reoli’n well.
C: Beth yw’r manteision i’r ysgol?
Mae wedi bod yn wych. Fe wnaethon ni ddewis dull ysgol gyfan ac mae’n gweithio i ni.
Yn ogystal â’i ddefnyddio wrth addysgu, rydyn ni’n ei ddefnyddio ar gyfer yr ochr fugeiliol ac mae gennym gysylltiadau cryf rhwng y cartref a’r ysgol drwy ddefnyddio ‘Google Classroom’. Rydyn ni hefyd yn ei ddefnyddio i gyfathrebu â rhieni er enghraifft, gan sicrhau bod yr ysgol a’r cartref yn cytuno ar gynlluniau adolygu a chynlluniau ymyrryd ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o dangyflawni.
A chyfri’r cyfan, mae wedi’n helpu ni i gydweithio mwy fel cymuned.
C: Felly roedd y cwbl yn hollol ddidrafferth?
Nac oedd. Fe aethom ar ein pennau i mewn iddo, fe wnaethom ni arwain, cynllunio a chyflawni fel tîm rheoli uwch. Ond ar hyd y ffordd mae’r seilwaith wedi rhoi cur pen i ni, ac rydyn ni wedi cael problemau gyda chasglu a rhannu data. Wedi dweud hynny, drwy ddod i’w deall, rydych chi’n datrys y pethau hyn.
Gyda diolch i Mr Lee Jarvis, Pennaeth, a Matthew Lewis, arweinydd Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Yn y llun gyda Matthew mae John Richards, Mike Faulds a Karen Joyce, arweinwyr digidol.