Neidio i'r prif gynnwy

Peidiwch â llusgo’ch traed; mae’n rhaid i gymhwysedd digidol gael blaenoriaeth

Read this page in English

Steve DaviesMae ein byd yn newid mor sydyn, mae’n anodd dychmygu goblygiadau hyn ar ein dyfodol ni fel oedolion, heb sôn am ddyfodol ein pobl ifanc.

Dyna’r rheswm dros roi blaenoriaeth i’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a’i gyflwyno’n gynnar fel rhan o’r cwricwlwm newydd. Roedd yr angen i ddisgyblion ac athrawon fod yn hyderus a llwyddo yn ein byd digidol yn gwbl glir.

Felly, mae’n rhan o’n cenhadaeth genedlaethol i ddarparu sgiliau digidol lefel uchel i’n holl ddysgwyr; mae cymhwysedd digidol yn un o dri chyfrifoldeb ein cwricwlwm newydd ar y cyd â llythrennedd a rhifedd.

Mae rhai ysgolion wedi mabwysiadu’r fframwaith yn llawn brwdfrydedd. Ond, erbyn hyn, mae angen i bob ysgol wneud y defnydd gorau posibl o’r fframwaith ac rwy’n erfyn ar bob un ohonoch i wneud hynny cyn i ni drosglwyddo i’n cwricwlwm newydd cyffroes.

Wrth gwrs, ni fydd hyn yn hawdd, a bydd yn fwy o her i’r sector uwchradd efallai. Ond nid oes angen ichi ofni’r broses. Mae hyfforddiant a chymorth ar gael gan ein Hysgolion Arloesi Digidol, yn ein canllawiau a drwy eich consortiwm.

Er mwyn cyflawni gofynion digidol y cwricwlwm newydd yn effeithiol, mae’n rhaid ichi ddechrau cynllunio nawr ar gyfer rhoi’r fframwaith ar waith – os nad ydych wedi dechrau gwneud hynny’n barod. Erbyn yr hydref, mae disgwyl y bydd pob ysgol:

  • wedi pennu gweledigaeth glir ar gyfer cyflwyno cymhwysedd digidol yn eich ysgol
  • wedi trefnu cyfrifoldebau staff ar gyfer sefydlu Cymhwysedd Digidol ar draws y cwricwlwm
  • wedi edrych ar anghenion dysgu proffesiynol y staff a’r anghenion o ran caledwedd/meddalwedd
  • yn mapio cymhwysedd digidol yn erbyn adran/blwyddyn o’r cwricwlwm presennol
  • wedi cynllunio ar gyfer datblygiad proffesiynol y staff ac yn darparu’r datblygiad hwnnw.

Bydd yr adnodd mapio ar wefan Dysgu Cymru yn eich helpu i weld pa bethau sydd gennych ar waith ar hyn o bryd a lle yn union y mae’r bylchau gennych.

Nid oes angen ichi roi’r cyfan ar waith ar unwaith, mae mynd i’r afael ag un neu ddau agwedd ar y fframwaith ar y tro yn mynd i’ch helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o roi gweddill y fframwaith ar waith.

Er mwyn ein pobl ifanc, rwy’n erfyn arnoch i roi blaenoriaeth i’r gwaith hwn yn ystod y flwyddyn sy’n dod.

Gadael ymateb