Mae rhoi sgiliau digidol lefel uchel i’n holl ddysgwyr yn rhan ganolog o Genhadlaeth ein Cenedl.
Bydd Cymhwysedd Digidol yn un o dri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd yn ein cwricwlwm newydd ac mae’n bwysig inni ddechrau cynnwys y sgiliau hyn nawr, yn y cyfnod pontio. Felly rydym wedi diweddaru rhai negeseuon allweddol ac wedi darparu deunyddiau newydd i gefnogi’ch gwaith ochr yn ochr â Llythrennedd a Rhifedd.
Mae Canllawiau’r Fframwaith, yr adran ‘Cwestiynau Cyffredin’, a’r Cyflwyniad i gyd wedi’u diweddaru. Yn ogystal, mae pedwar ffilm fer yn esbonio elfennau’r Fframwaith yn syml.
Gweler adnoddau ar y tudalen Dysgu Cymru