Rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2017, fe wnaeth arolygwyr Estyn ymweld ag ysgolion cynradd o gwmpas Cymru i ddeall sut y maent yn addasu i’r newidiadau sydd ar ddod.
Mae’r adroddiad, sydd hefyd yn berthnasol iawn i ysgolion uwchradd, yn dangos sut mae ysgolion, ar wahanol gamau yn eu datblygiad, wrthi’n edrych ar ddulliau gweithredu newydd ar gyfer y cwricwlwm a strategaethau addysgu. Mae ugain astudiaeth achos wedi’u cynnwys fel enghreifftiau.
Fe wnaeth yr arolygwyr ganolbwyntio ar dri chwestiwn yn benodol:
Sut mae ysgolion yn arfarnu eu cwricwlwm i bennu beth sydd angen ei newid i gyflawni Cwricwlwm newydd i Gymru?
- Sut mae ysgolion yn ymateb i ganlyniadau arfarnu i gynllunio a datblygu cwricwlwm sy’n ddifyr a deniadol, un sy’n datblygu gallu a brwdfrydedd i gymhwyso gwybodaeth a medrau yn annibynnol?
- Sut mae arweinwyr yn monitro newid ac yn mynd â’u gwaith i’r cam nesaf?
Yn ystod yr arolwg, rhannodd arweinwyr eu profiadau yn agored a buont yn trafod yr effaith yr oedd cymorth ac arweiniad a gynigir trwy ddigwyddiadau dysgu proffesiynol, rhwydweithiau, gweithgorau, a phartneriaethau amrywiol, yn ei chael ar ddatblygu’r cwricwlwm. Roedd y cyfleoedd dysgu proffesiynol hyn yn cynnwys ysgolion fel gweithgorau sefydliadau dysgu, trefniadau cydweithio o ysgol i ysgol, arweiniad gan awdurdodau lleol a chonsortia, a chyfleoedd i ymgynghori â Llywodraeth Cymru.