Os nad oes llawer o amser gennych i ddarllen, neu os ydych wedi cael llond bol syllu ar sgrin, beth am wrando ar Bodlediad Addysg Cymru – ffordd newydd o gael y newyddion diweddaraf am ddiwygio addysg yng Nghymru.
Bydd y comedïwr a’r cyn-athro Mike Bubbins yn ymuno â Luisa Martin-Thomas, sy’n Ddirprwy-Bennaeth, i herio disgyblion a gwesteion i esbonio beth sy’n digwydd yn y broses ddiwygio, a hynny mewn ffordd hwyliog a diddorol.
Mae’r bennod gyntaf yn edrych ar y darlun cyflawn a sut mae holl elfennau’r diwygiadau i addysg yng Nghymru yn ffitio at ei gilydd yn ddestlus.
Bydd y bennod nesaf ym mis Mehefin yn canolbwyntio ar y cwricwlwm, gyda newyddion gan yr Athro Graham Donaldson, yr Athro Mark Priestley a’r Athro Louise Hayward. Bydd yn gipolwg diddorol iawn ar ddatblygiad y cwricwlwm newydd, a’r heriau sy’n ein hwynebu wrth symud tuag ato.
Felly, ymlaciwch yn yr ardd, yn y car, neu’r bath a dysgu’r diweddara am ddiwygio addysg yng Nghymru.
Gwrandewch ar y podlediad ar itunes neu spreaker am android.
Ychwanegir podlediaid newydd yn y Gymraeg cyn hir.