Eleni bydd Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol ar 20 Mehefin yn gyfle i ddangos yr arferion digidol arloesol sy’n cael eu datblygu mewn ysgolion ledled Cymru.
Bydd ymarferwyr yn cynnig sylwadau ymarferol am sut aethant i roi’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar waith yn rhan o’r gwaith ehangach ar ddiwygio’r cwricwlwm.
O fewn y thema benodol ‘Rhannu arferion digidol i gefnogi cwricwlwm sy’n datblygu’, bydd sylw yn cael ei roi i bum maes penodol yn y neuadd arddangos yng ngwesty’r Celtic Manor. Bydd modd i gynrychiolwyr ddewis ar y diwrnod o’r rhaglen o gyflwyniadau 20 munud a’r sesiynau holi ac ateb.
Dyma’r pum maes penodol:
- Ymgorffori arferion digidol yn eich ysgol
- Datblygu arferion digidol creadigol
- Enillwyr dyfarniadau
- Popeth am Hwb
- Cracio’r cod
Mae enghreifftiau o’r sesiynau ym maes ‘Ymgorffori arferion digidol yn eich ysgol’ yn dangos pa mor amrywiol fydd yr hyn fydd yn cael ei gynnig:
- Ysgol Gyfun Rhisga – Ein taith tuag at roi’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar waith
- Ysgol y Deri – Ymestyn gorwelion dysgwyr drwy ddefnyddio technoleg VR
- Ysgol Bae Baglan – Rhoi sylw i lais dysgwyr drwy FlipGrid
- Ysgol Bryn Gwalia – Splish, splash, sphero! Technoleg raglenadwy mewn Celf
Mewn araith i agor y digwyddiad, bydd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn cyhoeddi enillydd Dyfarniad Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i dudalen NDLE ar Hwb.
Dysgwr o Ysgol Bro Banw yn Y Farchnad NDLE 2017.