…’the adult became less of a ‘sage on the stage’ and more of a ‘guide on the side’ – dyma un dyfyniad goleuedig gan athro sy’n arbrofi â’r model Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu.
Mae’r model yn fodd i ysbrydoli dulliau gweithredu newydd ar gyfer Dysgu Proffesiynol a gwella diwylliant ym maes Dysgu Proffesiynol. Mae saith astudiaeth achos newydd, wedi’u hysgrifennu gan athrawon, yn bwrw golwg ar yr hyn mae grwpiau o ysgolion wedi’i ddysgu.
Mae Ysgol Gwynedd wedi gwella deilliannau dysgu drwy weithio gyda Toyota ar egwyddorion LEAN mewn addysg – enghraifft o ddysgu o’u hamgylchedd ehangach. Mae athrawon o Ysgol Uwchradd Cei Connah wedi cydweithredu ar ymchwil i gamau gweithredu a threialu ffyrdd newydd o ddysgu ac addysgu cyn rhannu deilliannau gyda chydweithwyr mewn ysgolion a’u hardal ehangach.
Caiff y saith astudiaeth achos, un ar gyfer pob dimensiwn o’r model Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu, eu hychwanegu wrth i’r gwaith ddatblygu.
Cynhaliwyd y lansiad meddal o’r model ym mis Tachwedd 2017. Ers hynny mae dros 2,000 o athrawon wedi cymryd rhan mewn arolwg sy’n dangos i ysgolion i ba raddau y maent yn gweithio fel sefydliad sy’n dysgu, ynghyd ag agweddau lle gallant wella. Y nod yw ymestyn y dull hwn i bob ysgol yng Nghymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae rhagor o wybodaeth ar dudalennau gwe Sefydliadau sy’n Dysgu a sut y mae’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu cwricwlwm newydd a’r diwygiadau ehangach ym maes addysg yng Nghymru.