Bydd y profion papur cenedlaethol yn dod i ben yn raddol yng Nghymru a bydd asesiadau personol ar-lein yn cymryd eu lle, yn dilyn cyfnod prawf mis Mai. Ond sut bydd hyn yn gweithio o ran y cwricwlwm newydd?
Mae’n cyd-fynd â’r trywydd a’r weledigaeth ar gyfer sut y dylid asesu disgyblion. Roedd Dyfodol Llwyddiannus yn nodi’n glir y dylai’r cwricwlwm newydd asesu disgyblion ar sail yr hyn y mae ganddynt y potensial i’w ddysgu neu ei wneud nesaf yn hytrach na’r hyn y maent eisoes wedi’i ddysgu yn unig.
Y dysgwyr sy’n cael adborth o ansawdd uchel, sy’n deall lle maent arni yn eu dysgu, lle mae angen iddynt fynd nesaf, ac yn hollbwysig, sut i gyrraedd yno, yw’r rhai mwyaf tebygol o wneud y gwelliant mwyaf.
Bydd y system ar-lein newydd hon yn rhoi cwestiynau i’r disgyblion ar lefel sy’n cyfateb i’w gallu unigol ac yn eu herio. Bydd yn rhoi adborth cyflymach i’r dysgwr a’r athro, gan alluogi athrawon i nodi pa ddatblygiad neu gymorth pellach sydd ei angen ar ddysgwr.
Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflwyno’r cynigion o flwyddyn academaidd 2018/19. Gan ddechrau gyda rhifedd gweithdrefnol*, byddant yn disodli’r profion papur yn gyfan gwbl erbyn 2022, pan fydd y cwricwlwm newydd yn cael ei ddefnyddio ym mhob ysgol ar gyfer pob disgybl hyd at flwyddyn 7. Dyma’r amserlen ar gyfer y broses drosglwyddo:
Blwyddyn academaidd | Rhifedd (Gweithdrefnol) | Darllen (Cymraeg a Saesneg) | Rhifedd (Rhesymu) |
2017/18 | papur | papur | papur |
2018/19 | AR-LEIN | papur | papur |
2019/20 | AR-LEIN | AR-LEIN | papur |
2020/21 | AR-LEIN | AR-LEIN | AR-LEIN |
Mae’r asesiadau, a gafodd eu datblygu gyda chymorth athrawon a’u treialu mewn ysgolion yng Nghymru, yn seiliedig ar y sgiliau yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Byddant yn rhoi darlun i’r athrawon o sefyllfa dysgwyr unigol neu ddosbarthiadau cyfan, y gellir ei ddefnyddio i gynllunio’r camau nesaf o ran yr addysgu a’r dysgu.
Rhaid i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru asesu dysgwyr ym mlwyddyn 2-9 unwaith yn ystod blwyddyn academaidd. Yn dilyn adborth gan ymarferwyr ar sut maent yn dymuno defnyddio’r asesiadau, bydd ysgolion hefyd yn gallu dewis eu defnyddio eto am yr eildro. Mater i’r ysgol yw penderfynu pryd.
Datblygwyd yr asesiadau i gael eu defnyddio ar amrywiaeth o ddyfeisiau, gan gynnwys llechi. Gall dysgwyr sefyll yr asesiadau un ar y tro, mewn grwpiau bach neu mewn dosbarthiadau, yn ôl dewis yr athrawon a chyfleusterau’r ysgol.
Maent wedi’u cynllunio i fod yn hawdd eu defnyddio. Bydd samplau ar gael er mwyn ymgyfarwyddo â’r asesiadau, a bydd hefyd ddosbarthiadau tiwtorial ar-lein i ysgolion ynghyd â desg gymorth. Yn ogystal, mae dogfen o gwestiynau cyffredin ar gael nawr: http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/171206-personalised-assessments-faq-cy.pdf
Mae’r asesiadau hyn yn ategu’r cwricwlwm newydd mewn ffordd gadarnhaol iawn, ac felly mae’n galonogol gweld rhan arall o’r broses o ddiwygio addysg yn ei lle.
*Ceir dau fath o brofion rhifedd:
- Mae’r prawf gweithdrefnol rhifedd yn mesur sgiliau megis rhif, mesur a data.
- Mae’r prawf rhesymu yn mesur pa mor dda y gall plant ddefnyddio’r hyn y maent yn ei wybod i ddatrys problemau pob dydd.