
Mae’r system ADY, sy’n cael ei gweithredu ers mis Medi 2021, wedi’i chyflwyno’n raddol ledled Cymru. Mae’n creu system sy’n cefnogi plant a phobl ifanc 0-25 oed, gan ddisodli’r System Anghenion Addysgol Arbennig (AAA).
Ochr yn ochr â’r diwygiadau i’r system ADY, mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cynnig mwy o hyblygrwydd i ysgolion a cholegau addysgu mewn ffordd sy’n diwallu orau anghenion unigol pob dysgwr, gan chwalu’r rhwystrau i sicrhau cyfleoedd a chanlyniadau addysg a hyfforddiant i bob dysgwr.
Rydym wedi dysgu sut mae 4 lleoliad addysg a hyfforddiant yn cefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i ffynnu.
Gyda 16 o ddosbarthiadau prif ffrwd, 7 dosbarth arbenigol ac un grŵp meithrin, mae ysgol gynradd Bro Banw yn Rhydaman
yn rhoi dysgwyr wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud.
Mae dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi’i ymgorffori ar draws yr ysgol gyfan, gan roi’r dysgwr wrth galon y broses a chryfhau’r berthynas â theuluoedd ac asiantaethau allanol er mwyn sicrhau’r cymorth cywir. Arweinir y tîm gan uwch CADY, er mwyn gwella’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag ADY a nodi anghenion dysgu ychwanegol yn gynnar.
Dywedodd Victoria Raikes, Uwch CADY, “Rydyn ni’n gweithio’n agos iawn i sicrhau bod anghenion dysgu ychwanegol y plant yn cael eu bodloni, drwy adnabod anghenion yn gynnar, gweithio gydag asiantaethau allanol, cysylltu â rhieni a theuluoedd yn agos iawn a hefyd gyda’r plant i sicrhau bod y dull hwnnw sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei ymgorffori ar draws yr ysgol.
Mae Ysgol Gynradd Parkland, Abertawe, yn defnyddio dull cynhwysol o ddysgu drwy ddefnyddio technegau megis dysgu gwahaniaethol a’r defnydd o dechnoleg i gefnogi pob dysgwr, yn enwedig y rhai ag ADY.
Rhoddir pwysigrwydd ar ymyrraeth gynnar i nodi unrhyw ADY, gan sicrhau bod dysgwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gyrraedd eu potensial llawn. Mae ymgysylltu â rhieni a gofalwyr yn flaenoriaeth, mewn sefyllfa wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Dywedodd Felicity Poole, y Pennaeth Dros Dro: “Mae hyn yn cefnogi pob dysgwr, yn enwedig y rhai ag ADY, fel eu bod yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys a’u bod yn gallu cael mynediad i’r cwricwlwm. Mae wir yn eu helpu i wneud cynnydd a theimlo’n hyderus eu bod yn datblygu a gwella’u dysgu”.
“Mae Cwricwlwm i Gymru yn ffordd wych o alluogi ysgolion wneud yr hyn sy’n iawn i’r plentyn a gweld plant fel unigolion – cefnogaeth unigol ac ymyrraeth wedi’i dargedi, rydych ychydig yn fwy rhydd i wneud hynny drwy Gwricwlwm i Gymru”.
Mae Coleg Gwent yn egluro sut maent yn cefnogi dysgwyr ag amhariad ar y clyw i gael mynediad at addysg ôl-16 a gwireddu eu potensial llawn.
Yng Ngholeg Gwent, mae grŵp o ddysgwyr sydd ag amhariad ar eu clyw yn datblygu sgiliau bywyd annibynnol trwy gymorth wedi’i deilwra i’r unigolyn.
Gan gydweithio gyda myfyrwyr, mae Coleg Gwent yn datblygu strategaethau dysgu personol ac yn hwyluso lleoliadau gwaith i wella cyflawniad academaidd a pharatoi myfyrwyr ar gyfer pontio’n llwyddiannus i’r gweithlu a bywyd cymunedol. Mae gan y coleg bartneriaeth gref gydag Elite sy’n cefnogi dysgwyr wrth iddynt bontio i fyd gwaith.
Dywed Adrian, myfyriwr yng Ngholeg Gwent: “Mae dod i’r coleg am y tro cyntaf yn anodd os nad wyt ti’n gallu cyfathrebu drwy siarad a gwrando. Mae’r coleg wedi fy helpu i wneud profiad gwaith”.
Dywedodd Nicky “Cododd fy hyder oherwydd roedden nhw’n fy ngwneud i’n hapus yn gweithio yno. Rwy’n aros i Elite ddod o hyd i waith i mi a chael dysgu ar yr un pryd, mewn gwirionedd. Ac alla i ddim aros am y dyfodol i fagu hyder ynof fi fy hun a dringo’r lefelau mewn mecaneg”.
Mae dysgwyr ag amhariad ar eu clyw o Ysgol Uwchradd Cwmbrân hefyd yn rhan o’r Clwb Byddar yng Ngholeg Gwent, gan helpu i fagu eu hyder a chefnogi gyda’r cyfnod trosglwyddo o’r ysgol.
Myfyrwyr byddar yn serennu yng Ngholeg Gwent: https://www.llyw.cymru/myfyrwyr-byddar-yn-serennu-yng-ngholeg-gwent
Mae Grŵp Llandrillo-Menai wedi bod yn meithrin perthynas agos gydag ysgolion lleol i gefnogi dysgwyr ag ADY.
Mae’r coleg yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio a chyfathrebu i helpu dysgwyr ag ADY i gyflawni eu nodau addysg a hyfforddiant trwy eu cefnogi i gynllunio cyfnod pontio llwyddiannus i gam nesaf eu bywyd.
Dyma Sharon O’Connor, Pennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Grŵp Llandrillo Menai yn esbonio sut mae’r system ADY yn hyrwyddo cydweithredu a chyfathrebu:
“Mae hwn yn system lle ‘da ni’n edrych ar obeithion y plentyn, gobeithion y rhieni, a sut ‘da ni yn cydweithio hefo’r ysgol. Mae’r athrawon yn allweddol iawn yn hyn, gan rannu gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen yn y dyfodol”.
“Mae cydweithio hefo asiantaethau allanol a llywodraeth leol wedi bod yn hanfodol ac yn ganolog i bob dim ‘da ni’n neud fel tîm ADY. ‘Da ni yn ceisio creu perthynasau agos fel bod cyfathrebu clir, adnabod cynnar a bod pawb yn gyfforddus i fedru codi ffôn a cael sgwrs am bobl ifanc”.