Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Diolch i bawb a gymerodd yr amser o’u hamserlenni prysur i fynychu’r gynhadledd penaethiaid uwchradd yng Nghaerdydd ar 8 Tachwedd.
Roedd yn hyfryd gweld cymaint o benaethiaid o bob rhan o Gymru yn dod ynghyd i rwydweithio a chlywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, gofyn cwestiynau iddi, ac yn cymryd rhan mewn dwy drafodaeth bwrdd dan gadeiryddiaeth Syr Alasdair McDonald a’r Athro Dylan Evans.
Diolch yn arbennig i’r rhai a rannodd eu profiadau a’u strategaethau gyda’r gynulleidfa. Chris Parry, Lewis Boys, Pengam a Sarah Parry o Ysgol Uwchradd Llanisien yn ystod y sesiwn Ymddygiad fel rhwystr i ddysgu, ac i Gwenno Davies a Dr Gareth Evans, Ysgol y Creuddyn, yn ystod y sesiwn Safonau: llythrennedd a rhifedd. Diolch hefyd i Dr Cameron Downing, Prifysgol Efrog am ei gyfraniad ar raglen RILL.
Gallwch wylio’r fideo o’r areithiau a’r sesiynau trafod ar y diwrnod
Diolch i bawb a roddodd eu sylwadau yn ystod y dydd, fodd bynnag, rydym dal i groesawu eich mewnbwn. Efallai eich bod wedi cael trafodaethau yn ôl yn yr ysgol a bod gennych sylwadau ychwanegol i’w gwneud. Mae’n bosib ymateb isod.
Ymateb i sesiwn llythrennedd a rhifedd
Diolch