Neidio i'r prif gynnwy

Neges gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle

Read this page in English

Wrth i’r flwyddyn ysgol newydd godi stêm, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi amlinellu ei blaenoriaethau ac yn sôn am sut y bydd plant a phobl ifanc yn parhau i fod wrth wraidd y polisi addysg. Mae hefyd yn croesawu Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch newydd, i dîm Addysg Llywodraeth Cymru.

Dywed Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

“Yn ystod fy chwe mis fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, cefais y fraint o weld y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yn ein hysgolion a’n colegau. Mae’n amlwg ein bod i gyd yn rhannu’r un flaenoriaeth, wrth roi buddiannau plant a phobl ifanc yn gyntaf bob amser yn ein penderfyniadau.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â chi i gyd eto y tymor hwn, wrth i mi adnewyddu fy ffocws ar godi safonau a chyrhaeddiad, parhau i wella presenoldeb a sicrhau lles pob dysgwr.

Mae gwrando a siarad â chi yn rhywbeth yr wyf wedi ei werthfawrogi’n fawr, mewn cyfarfodydd bord gron gweinidogol, ar ymweliadau ac mewn digwyddiadau. Y tymor diwethaf fe wnaeth hyn fy helpu i benderfynu peidio â bwrw ymlaen i newid dyddiadau tymhorau ysgol, ac i ddarparu cefnogaeth ychwanegol ar gyfer y cwricwlwm a gwaith parhaus i symleiddio gweithredu ADY. Ac mae’r gwerth yr ydym yn ei roi ar ein gweision cyhoeddus a’ch ymrwymiad i wella bywydau ein dysgwyr yn cael ei adlewyrchu ym mhenderfyniad y Llywodraeth i ddyfarnu codiadau cyflog uwch na chwyddiant.

Mae’r Prif Weinidog wedi nodi ei blaenoriaethau ar gyfer gweddill y Llywodraeth yn dilyn yr hyn a glywodd yn ystod yr haf. Roedd gwella safonau mewn ysgolion a cholegau yn uchel iawn ar yr agenda.

Yn ddiweddarach y tymor hwn byddaf yn nodi blaenoriaethau clir gyda’r nod o wella safonau i bob dysgwr. Bydd hyn yn canolbwyntio ar welliannau amlwg mewn llythrennedd a rhifedd gyda lles a thegwch yn flaenoriaeth.

Rydym yn cefnogi ysgolion i fabwysiadu dulliau arloesol o addysgu rhifedd a llythrennedd a rhoi ein fframwaith llythrennedd a rhifedd ar sail statudol. Mae hyn ochr yn ochr â’n Rhaglen Gymorth Mathemateg sy’n darparu adnoddau a gweithgareddau addysgu cynhwysfawr i bob dysgwr.

Mae cam dau ein cynllun peilot Pencampwyr Cyrhaeddiad yn dechrau y mis hwn a bydd mwy o ysgolion partner yn cael eu recriwtio i’r cynllun sy’n rhannu arferion arloesol i wella’r profiadau addysgol i ddysgwyr sy’n wynebu anfantais.

Rwy’n gwybod bod cysylltiad cryf rhwng presenoldeb yn yr ysgol a chyrhaeddiad, a dim ond os yw plant yn yr ysgol y gall ein diwygiadau lwyddo.

Rydym wedi gweld gwelliant mewn presenoldeb, ac mae digon o arferion da ar waith mewn ysgolion. Fodd bynnag, rwy’n gwybod bod mwy y gallwn ei wneud, a byddaf yn sicrhau bod ymdrechion yn cael eu targedu tuag at y grwpiau o ddisgyblion y gwyddom eu bod yn fwyaf tebygol o beidio â mynychu’r ysgol, sef y rhai o deuluoedd incwm is, plant oedran uwchradd a disgyblion mewn blynyddoedd arholiad allweddol. 

Y mis hwn byddwn yn dechrau ar flwyddyn olaf y cyfnod cychwynnol o weithredu’r system ADY. Rwyf wedi gweld cynnydd ac ymrwymiad anhygoel gan y gweithlu addysg, ac enghreifftiau gwych o ysgolion, plant a theuluoedd yn rhoi anghenion pob plentyn yn gyntaf. Cytunwyd ar fwy na 10,000 o Gynlluniau Datblygu Unigol statudol yn ystod y 12 mis diwethaf, sy’n dyst anhygoel i’n gweithlu.

Fodd bynnag, gwn o’r hyn rydych chi a rhieni yn ei ddweud wrthyf ein bod hefyd yn wynebu heriau wrth roi’r diwygiadau ADY ar waith, a dyna pam rwyf wedi gweithredu gan gynnwys comisiynu archwiliad o’r fframwaith deddfwriaethol i sicrhau ei fod yn cyflawni ar gyfer dysgwyr.

Rwy’n cydnabod yr heriau ariannol y mae llawer o deuluoedd yn eu hwynebu. Dyna pam mae gennym nifer o gynlluniau ar waith megis y Grant Hanfodion Ysgol i helpu teuluoedd incwm isel i brynu gwisg a dillad chwaraeon. Ni yw’r unig wlad yn y DU i gynnig pryd ysgol am ddim i blant ym mhob ysgol gynradd wladol, sy’n eu helpu i ddysgu ac yn sicrhau eu bod yn cael pryd maethlon. Rydym i gyd yn gwybod y gall pryd ysgol iach helpu dysgwyr i ganolbwyntio a chefnogi eu lles a’u galluogi i gyflawni eu potensial llawn, a dyna pam y byddwn yn adolygu cynnwys maethol prydau ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol hon .

Rwy’n falch iawn bod y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch newydd, Vikki Howells, yn ymuno â mi. Mae ei phenodiad yn rhan o’r Cabinet newydd a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog. Mae’r tîm newydd yn cynnig sefydlogrwydd, yn tynnu ar brofiad, ac yn dod â’n doniau cyfunol at ei gilydd.

Ochr yn ochr â’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, edrychaf ymlaen at weithio gyda Medr, y comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil sydd bellach yn weithredol, dros y flwyddyn nesaf ar wella’r gwaith cynllunio strategol ar gyfer addysg ôl-statudol, gan gynnwys cynyddu nifer y dysgwyr mewn addysg ôl-16.

Hoffwn ddiolch i bob un ohonoch am eich gwaith caled a’ch ymrwymiad parhaus wrth i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyflawni ei botensial llawn.”

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading