Neidio i'r prif gynnwy

Peidiwch â cholli’ch cyfle i wneud cais am gyllid Llwybr 2 Taith

Read this page in English

Rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru yw Taith. Mae’n cynnig cyfleoedd sy’n newid bywydau i ddysgu, astudio a gwirfoddoli ym mhedwar ban byd.  Ar 3 Hydref bydd ffenestr ymgeisio nesaf Taith yn agor ar gyfer ‘Llwybr 2’.

Beth yw’r Llwybr 2?

Mae cyllid Llwybr 2 ar gael i unrhyw sefydliad addysg neu hyfforddiant nad yw’n gwneud elw sydd wedi’i leoli yng Nghymru, sydd eisiau cael arian ar gyfer prosiect cydweithredol rhyngwladol.  Gall sefydliadau yn y sectorau ysgolion, ieuenctid, addysg oedolion ac addysg bellach/addysg a hyfforddiant galwedigaethol wneud cais. 

Er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid, rhaid i brosiect gefnogi arloesedd addysgol a mynd i’r afael â mater penodol neu flaenoriaeth sector yng Nghymru. 

Mae prosiectau Llwybr 2 yn cynnig cyfleoedd i staff a dysgwyr wella eu dealltwriaeth, eu gwybodaeth a’u cymhwysiad o thema neu bwnc allweddol wrth ddatblygu allbwn prosiect o’u dysgu mewn cydweithrediad â phartneriaid rhyngwladol.

Allbwn y prosiect

Er bod ymweld â phartner rhyngwladol, a elwir yn symudedd, yn rhan o brosiectau Llwybr 2, nid prif ffocws y prosiectau hyn yw’r buddion personol i gyfranogwyr unigol. Yn hytrach, bwriad symudedd rhyngwladol yw hwyluso datblygu a chwblhau’n llwyddiannus prosiectau sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu flaenoriaeth sector yng Nghymru.  Mae prosiectau Llwybr 2 yn ymwneud â chreu a rhannu canlyniadau sy’n dod â manteision parhaol – nid yn unig i’r sefydliadau dan sylw, ond hefyd i sector yr ymgeisydd, yn ogystal ag i Gymru a’r gwledydd partner rhyngwladol. 

Themâu

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cyllid Llwybr 2, rhaid i brosiectau eich sefydliad gyd-fynd ag o leiaf un o’r themâu Taith a nodwyd.  Ar gyfer Llwybr 2 2024 y themâu yw ‘Datblygiadau mewn Addysg’, ‘Amrywiaeth a Chynhwysiant’ a ‘Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd’.  Mae’n werth nodi bod themâu Taith yn cael eu gosod yn flynyddol, felly efallai y byddwch yn eu gweld yn newid yn y blynyddoedd i ddod.

Mae Taith yn ymroi i wneud cyfnewid rhyngwladol yn fwy cynhwysol a hygyrch i bawb. Mae ei strategaeth yn canolbwyntio ar helpu pobl sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol mewn teithiau cyfnewid rhyngwladol – fel y rhai o gefndiroedd difreintiedig neu leiafrifoedd ethnig, unigolion anabl, a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol – i gael mynediad i’r cyfleoedd gwerthfawr hyn.

Chwilio am ysbrydoliaeth?

  • Ymunodd Ysgol Gynradd Pencoed â dwy ysgol arall, sef Ysgol y Gogarth ac Ysgol Pen Rhos, i wneud cais am gyllid Llwybr 2 Taith i gefnogi datblygiad a chynaliadwyedd ysgolion bro yng Nghymru.
  • Plan International UK: Bydd y prosiect rhithwir hwn yn grymuso gweithwyr proffesiynol yn y sector ieuenctid yng Nghymru i greu amgylcheddau cefnogol ar gyfer trafodaethau hanfodol, mynd i’r afael â phynciau sensitif, a helpu pobl ifanc. Bydd yn darparu adnoddau i herio agweddau ac ymddygiadau sy’n cyfrannu at Drais ar sail Rhywedd.
  • Bydd Chwaraeon Anabledd Cymru yn creu dau adnodd i helpu pobl i nodi’r llwybrau para-chwaraeon sydd ar gael a deall proffiliau namau a gofynion cyrff llywodraethu cenedlaethol wrth recriwtio athletwyr.
  • Bydd Coleg Caerdydd a’r Fro yn datblygu adnodd arloesol i hybu cyfraddau cyflogaeth ar gyfer unigolion ag ADY drwy helpu cyflogwyr a rhwydweithiau cymorth i ddarparu cyfleoedd ystyrlon, cynaliadwy i bobl niwroamrywiol.
  • Bydd ColegauCymru yn mynd i’r afael â materion o adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn ym mis Mehefin 2023 ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith pobl ifanc 16-18 oed mewn addysg bellach. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar atal agweddau a diwylliannau misogynistaidd mewn dysgwyr AB a datblygu Cymuned Ymarfer drawswladol.
  • Yn unol â nodau cydraddoldeb Taith a Llywodraeth Cymru, ac yn benodol y weledigaeth yn Cymru Wrth-hiliol, ymgeisiodd Diverse Cymru am gyllid i ddatblygu  adnoddau cynhwysol sy’n cael eu harwain gan y gymuned. Bwriad yr adnoddau hyn yw cydnabod anghydraddoldebau sy’n wynebu cymunedau ethnig yn y sector dysgu oedolion yng Nghymru. 

Mae gwefan Taith yn ei gwneud hi’n hawdd hidlo crynodebau o brosiectau.  Defnyddiwch y golofn ar y chwith i hidlo yn ôl Llwybr, a chliciwch ar yr eicon chwyddwydr wrth ymyl enw’r sefydliad i weld crynodebau byr o brosiectau a ariannwyd mewn galwadau blaenorol.

Paratoi i ymgeisio

Amserlen ar gyfer ceisiadau

  • 3 Hydref 2024: Agor galwad ariannu Llwybr 2 (2024).
  • 21 Tachwedd 2024, 12pm: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
  • Mawrth 2025: Bydd yr holl sefydliadau sy’n ymgeisio yn cael eu hysbysu am y canlyniad.
  • 1 Mai 2025: Gall prosiectau ddechrau.

Am wybod mwy?  Beth am gofrestru ar gyfer un o weminarau Taith?

Yn y gweminarau hyn, bydd Taith yn rhoi trosolwg o alwad ariannu Llwybr 2 2024 ac yn rhannu manylion y meini prawf cymhwystra, gweithgareddau a chostau cymwys, yn ogystal ag arweiniad ar sut i baratoi ar gyfer eich cais.

Bydd hwn hefyd yn gyfle gwych i sefydliadau godi unrhyw gwestiynau gyda thîm Taith.

8 Hydref 12.00-13.30 Sesiwn Saesneg

8 Hydref 16:00-17:30 Sesiwn Gymraeg

22 Hydref 12:00-13:30 Sesiwn Gymraeg

22 Hydref 16:00-17:30 Sesiwn Saesneg

I gael gwybod rhagor am Taith a’r arian sydd ar gael ewch i www.Taith.cymru.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading