Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Yn ystod y tri mis diwethaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wedi ymweld ag ysgolion a lleoliadau ac wedi cyfarfod ag unigolion o bob rhan o’r sector addysg er mwyn gweld y Cwricwlwm i Gymru ar waith a gwrando ar eu profiadau.
Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud mewn sawl maes, ond mae rhai ymarferwyr yn gofyn am fwy o gymorth i’w helpu i ddatblygu eu cwricwlwm. Bydd pob grŵp blwyddyn yn dysgu drwy’r Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2026.
Cyd-gefnogaeth a fydd ar gael yn genedlaethol ym meysydd dylunio’r cwricwlwm, cynnydd ac asesu
Bydd gwaith yn dechrau ar hyn yn yr hydref, a chaiff adnoddau a thempledi clir eu cyhoeddi er mwyn esbonio i ysgolion sut i ddatblygu a gwella eu cwricwlwm – waeth beth yw eu man cychwyn.
Bydd hyn hefyd yn helpu i roi rhagor o fanylion ar ddulliau o asesu dysgu, gwerthuso cynnydd, a chyfathrebu am y broses. Byddwn yn cyhoeddi’r cyntaf o’r rhain y gwanwyn nesaf ac yn parhau i adeiladu arnynt y flwyddyn academaidd ganlynol.
Byddwn hefyd yn rhannu enghreifftiau o wahanol ffyrdd o weithredu yn ymarferol.
Y Fframweithiau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol
Bydd y rhain yn cael eu rhoi ar sail statudol, a threfnir rhaglen o Ddysgu Proffesiynol Cenedlaethol i gefnogi Llythrennedd a Rhifedd ar draws y cwricwlwm. Caiff hyn ei dreialu yn 2025 a’i ehangu drwy gydol blwyddyn academaidd 2025/26.
Bydd ymgynghoriad ar fframwaith Llythrennedd a Rhifedd diwygiedig a chryfach yn cael ei gynnal yn 2025, gyda’r bwriad o gyhoeddi canllawiau statudol yn 2026.
Deunyddiau i gefnogi’r gwaith o ddylunio a chynllunio dysgu o fewn ac ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad, a fydd yn cael eu treialu’r flwyddyn academaidd nesaf, gan helpu ysgolion i ddewis cynnwys i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ar draws gwahanol feysydd a disgyblaethau.
Dywedodd Lynne Neagle:
“Nid yw hyn yn tynnu unrhyw beth oddi wrth yr ysgolion hynny sydd eisoes yn gweithredu’r Cwricwlwm ar gyfer eu plant.
“Mae hyn yn ymwneud â sefydlu sylfaen gadarn ar gyfer y rhai sydd ei angen – a pheidio â chyfyngu ar yr arloesedd rydyn ni eisoes yn ei weld ar draws y wlad”.