Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Ysgol ar gyfer disgyblion 3 i 19 oed yw Pen-y-Bryn a hi yw’r ysgol arbennig fwyaf yn Abertawe. Mae gan y disgyblion amrywiaeth eang o anghenion dysgu ychwanegol difrifol, cymhleth a phenodol, gan gynnwys awtistiaeth ac anawsterau cyfathrebu.
Ym mis Mawrth 2024, aeth saith o ddisgyblion ar daith i Fflorida, ynghyd â staff i’w hebrwng. Cymerodd y disgyblion ran mewn gwersi mewn dwy ysgol yn America a chawsant gyfle hefyd i ymgymryd â phrofiad gwaith gyda disgyblion o Orange County. O ganlyniad i’r daith mae’r disgyblion yn teimlo’n fwy hyderus, wedi dysgu sgiliau bywyd pwysig ac wedi gwneud cysylltiadau â myfyrwyr Americanaidd. Bydd grŵp arall o ddisgyblion yn teithio i Fflorida ym mis Mawrth 2025.
Gwnaeth Vanessa Palmer, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Pen-y-Bryn, gais am gyllid gan gynllun Taith i roi cyfle i ddisgyblion anturio i amgylchedd gwahanol a datblygu eu sgiliau annibyniaeth a bywyd. “Mae’n bwysig i’n disgyblion gael y cyfle i ddatblygu eu hyder ac i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau na fydden nhw erioed wedi cael cyfle i’w gwneud o’r blaen. Doedd rhai disgyblion erioed wedi bod ar awyren o’r blaen, a rhai erioed wedi cael profi gwahanol fwydydd neu ddiwylliannau.
“Golygodd cyllid Taith ein bod wedi gallu cael y gymhareb staff uchel a oedd ei hangen i fynd â’r disgyblion, oherwydd maen nhw’n dibynnu ar gymorth staff ac roedd Taith yn cydnabod hynny. Mae Taith yn un o’r sefydliadau gorau i alluogi cyfnewidiau i’n dysgwyr, ac i’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd, ac weithiau mae ein disgyblion yn cael eu hanghofio. Maen nhw wedi magu llawer mwy o hyder ers y daith. Maen nhw’n siarad yn ddi-baid am brosiect Taith.”
Mae’r rhan fwyaf o’r strategaethau y mae Pen-y-Bryn yn eu defnyddio i gefnogi eu dysgwyr ADY yn dod o America yn wreiddiol. Trwy brosiect Taith, cafodd staff hefyd y cyfle i weld y strategaethau hyn ar waith drostynt eu hunain ac i ddod ag arfer da yn ôl sydd bellach yn cael ei dreialu a’i addasu ar gyfer anghenion Ysgol Pen-y-Bryn. Dywedodd Mrs Palmer “Bydd popeth y mae’r staff wedi’i ddysgu yn cael effaith fawr ar ein disgyblion. Rydym yn dymuno datblygu ein staff i fod ar eu gorau un er mwyn i’n dysgwyr gael y cwricwlwm gorau a’r addysg orau un fel y maent yn ei haeddu.”
Dywedodd y Pennaeth, Gethin Sutton, “Mae cyfnewidiau dysgu yn bwysig oherwydd maen nhw’n cyflawni’n union hynny. Mae cyfnewid wedi galluogi ein disgyblion i brofi pethau sydd allan o’u profiad dydd i ddydd ac i weld natur addysg mewn gwahanol rannau o’r byd, i weithio gyda dysgwyr sydd efallai’n edrych yn debyg iddyn nhw ond sy’n byw mewn lle gwahanol iawn i’w cynefin eu hunain, ac mae hynny’n destun llawenydd pur.”
Gwyliwch y fideo i glywed y disgyblion a’r staff yn siarad am eu taith drawsnewidiol, a’r effaith a gafodd arnynt.
Taith yw rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru sy’n creu cyfleoedd sy’n newid bywydau i ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd. Hyd yn hyn, mae 3528 o ddysgwyr a staff wedi cymryd rhan mewn cyfnewidiau dysgu ledled y byd ers lansio’r rhaglen yn 2022.
Diben Taith yw gwneud cyfnewidiau rhyngwladol yn fwy cynhwysol a hygyrch ac mae’n annog pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i gymryd rhan – gan gynnwys rhai o gefndiroedd difreintiedig, cefndiroedd ethnig leiafrifol, pobl anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae Taith yn cynnig cymorth ychwanegol i sefydliadau sy’n gweithio gydag unigolion o gefndiroedd difreintiedig, pobl anabl, a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
I gael gwybod rhagor am Taith a’r arian sydd ar gael ewch i www.taith.cymru.
Bydd y cylch nesaf ar gyfer ceisiadau am gyllid oddi wrth brosiectau cydweithredol rhyngwladol dan arweiniad sefydliadau addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn cychwyn ym mis Hydref 2024.
Bydd Llwybr 1 (symudedd ar gyfer cyfranogwyr) yn agor ym mis Ionawr 2025.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Cyfleoedd ariannu sector ysgolion Taith