Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Gwnaeth Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ddatganiad heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr, rhieni a gofalwyr, athrawon a dysgwyr i greu dull cynhwysfawr o ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau ar gyfer dysgwyr 14-16 oed o dan y cwricwlwm newydd. Bydd y dull hwn yn cydnabod y cyfleoedd eang y mae ysgolion eisoes yn eu darparu i gefnogi eu dysgwyr i symud yn hyderus tuag at gyflogaeth, addysg bellach neu hyfforddiant.

Trwy ymgysylltu, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau ar gyfer ymgynghori yn ddiweddarach eleni, i’w gwblhau, ac ar gael i ysgolion ar yr un pryd â’r manylebau TGAU terfynol (Medi 2024). Ystyrir esblygiad Bagloriaeth Cymru fel rhan o hyn, er mwyn galluogi pob dysgwr i ennill y sgiliau, y profiadau a’r wybodaeth i symud ymlaen ar y cam nesaf.
Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi cyhoeddi heddiw strwythur TGAU newydd wedi ‘Gwneud-i-Gymru’, sy’n adlewyrchu dyheadau’r Cwricwlwm i Gymru wrth gadw cydraddoldeb fel rhan o system y DU, ac sy’n cael ei ddeall gan gyflogwyr. Bydd Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio gyda CBAC i ddatblygu manylion y manylebau TGAU newydd i adlewyrchu athroniaeth y cwricwlwm newydd.
Er bod cymwysterau yn rhan hanfodol o drosglwyddiad person ifanc i ôl-16, dim ond rhan o’r darlun a gynrychiolir o ran cynnydd a chyflawniadau. Felly, bydd y canllawiau 14-16 newydd a ddatblygir ar gyfer ymgynghori yn profi cynigion ar gyfer portffolio dysgwyr sy’n annog dysgwyr i hunan-fyfyrio ar eu cynnydd ond hefyd i ddefnyddio’r wybodaeth honno i edrych tua’r dyfodol ac i gynllunio ar gyfer y cam nesaf, boed yn astudiaeth bellach, hyfforddiant neu waith.
Fel y mae’r Gweinidog wedi’i wneud yn glir, mae diwygio’r cwricwlwm yn daith hirdymor. Dros y blynyddoedd nesaf bydd gwaith yn parhau gydag ysgolion a phartneriaid, gan gynnwys Cymwysterau Cymru a CBAC, i sicrhau bod dysgu o’r cwricwlwm newydd yn llywio gwaith parhaus, megis datblygu cymwysterau ehangach y ‘Cynnig Llawn’.
Darllenwch y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, sy’n gosod ein cynnig llawn ochr yn ochr â chyhoeddiad Cymwysterau Cymru.
Mae gwybodaeth am strwythur y TGAU newydd ar gael gan Gymwysterau Cymru drwy eu gwefan.