Neidio i'r prif gynnwy

Rhannu gwybodaeth am gynnydd disgyblion gyda rhieni a gofalwyr – newidiadau ac astudiaeth achos

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Ym mis Medi 2022, daeth deddfwriaeth newydd i rym ar gyfer ysgolion ynghylch darparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr am gynnydd eu plentyn. Gweler yr adran hon ar gyfer crynodeb o’r ddeddfwriaeth neu’r ddeddfwriaeth ffurfiol yma.

Mae’n rhaid i benaethiaid nawr drefnu diweddariadau tymhorol ar gynnydd dysgwyr, gan gynnwys:

  • eu llesiant
  • gwybodaeth am gynnydd a dysgu allweddol
  • anghenion cynnydd allweddol, y camau nesaf i gefnogi eu cynnydd, a chyngor ar sut y gall rhieni gefnogi’r cynnydd hwnnw.

Er y gall diweddariadau cynnydd tymhorol wella ymgysylltiad a dealltwriaeth o gynnydd ac anghenion allweddol dysgwyr, mae’n bwysig o hyd bod gan rieni a gofalwyr ddarlun o gynnydd cyffredinol y dysgwr ar draws ehangder y cwricwlwm yn flynyddol. Gellir ei ddarparu ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd ac mewn unrhyw fformat y mae’r pennaeth yn ei ystyried yn fwyaf priodol wrth gefnogi cynnydd dysgwyr.

Nod y newid mewn arferion adrodd yw gwella’r ddeialog rhwng ysgolion, rhieni/gofalwyr a dysgwyr. Y bwriad yw adlewyrchu cynnydd y dysgwr yn well ac amlinellu eu camau nesaf o ddysgu, gan greu darlun mwy cyfannol o sut mae’r dysgwr yn datblygu tuag at y pedwar diben. Fel gyda’r cwricwlwm, bydd dulliau ac arbenigedd wrth fwrw ymlaen â hyn yn esblygu.

Yn Ysgol Calon Cymru mae dull gweithredu wedi cael ei archwilio, fel rhan o brosiect ymholi proffesiynol a oedd yn cynnwys tua 20 o rieni. Dyfeisiwyd diagram ‘radar’ i ysgogi sgwrs rhwng yr athro a’r dysgwr ynghylch cynnydd, a defnyddiwyd y canlyniadau i lywio trafodaethau mewn nosweithiau rhieni sy’n canolbwyntio ar y disgybl.

Gwyliwch y fideo isod i weld sut y cafodd y dull ei ddatblygu, a’i ystyried, gan gynnwys yr heriau a wynebwyd a’r canlyniadau hyd yma.

Fel y cyfeirir ato uchod, bydd dulliau ac arbenigedd ar hyn yn esblygu ac rydym yn bwriadu datblygu a rhannu fideos astudiaethau achos a blogiau dilynol i adlewyrchu hyn.

Mae dwy astudiaeth achos lefel gynradd hefyd wedi’u cynhyrchu o’r blaen a gellir eu gweld yma:

Ysgol Min y Ddôl:

Ysgol Merllyn:

Y Tîm Asesu, Llywodraeth Cymru – Assessment@gov.wales

Gadael ymateb