Mae gwaith o weithredu’r cwricwlwm yn cael ei fonitro drwy brosiect ymchwil sy’n cael ei gynnal gan Ymchwil Arad, ac mae’r adroddiad o’r cyfnod gyntaf bellach ar gael.
Mae’r adroddiad yn gadarnhaol ar y cyfan ac yn awgrymu bod arweinwyr yn fodlon gyda’r cynnydd, ond mae’n tynnu sylw at feysydd lle mae heriau wedi codi ac angen mwy o waith.
Roedd 64 uwch arweinydd o bob cwr o Gymru a phob math o ysgol a lleoliad yn rhan o’r ymchwil, a gynhaliwyd rhwng mis Tachwedd 2022 ac Ionawr 2023. Cyn hyn roedd 16 wedi bod yn rhan o waith ymchwil ynglŷn â pharatoadau ar gyfer Cwricwlwm i Gymru.

Mae Cynllunio a Gweithredu’r Cwricwlwm yn dangos darlun cadarnhaol yn gyffredinol, ac mae arweinwyr yn hapus gyda’r chynnydd sy’n cael ei wneud wrth gynllunio a gweithredu eu cwricwlwm. Roedd rhai wedi bod yn poeni am hyn ond bellach maent yn teimlo eu bod yn gwneud cynnydd da. Roedd gwaith addysgeg a chydweithredol yn cynyddu, gydag ymarferwyr yn cymryd perchnogaeth o’r gwaith gweithredu. Soniwyd am heriau o ran capasiti ac amser staff, yn enwedig wrth gynllunio er mwyn bodloni gofynion y cwricwlwm.
Mae tegwch a chynwysoldeb i bob dysgwr hefyd yn elwa ar y’ dulliau newydd hyn, ac mae canolbwyntio mwy ar ddysgwyr wrth gynllunio’r cwricwlwm yn helpu ysgolion i adlewyrchu cymdeithas yn well ac i gefnogi eu holl ddysgwyr yn briodol.
Adroddir bod y gwaith ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn dod yn ei flaen yn dda, ac nad oes pryderon yn cael eu codi gan rieni a gofalwyr yn aml er gwaethaf y disgwyl amdanynt. Cafodd y pryderon a godwyd eu rheoli drwy gyfathrebu agored a thryloyw. Mynegodd rhai arweinwyr yr awydd am gefnogaeth fwy canolog ar gyfer cynllunio cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, gyda phryderon yn codi am gostau posibl deunyddiau allanol.
Trefniadau asesu: mae dulliau newydd yn cael eu datblygu ar gyfer asesu, gyda mwy o ffocws ar asesu ffurfiannol, dydd i ddydd. Fodd bynnag, mae llawer o arweinwyr yn teimlo bod hyn yn annelwig ac yn pryderu am y data asesu y bydd gofyn iddynt ei ddarparu at ddibenion atebolrwydd. Mae rhai yn dal i ddefnyddio offer asesu allanol ochr yn ochr â dulliau asesu newydd.
Adroddir bod cynlluniau cynnydd yn datblygu ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad, sy’n dangos bod egwyddorion cynnydd yn cael eu hymgorffori yn y gwaith o gynllunio’r cwricwlwm. Cydnabuwyd bod y dulliau newydd sy’n cael eu mabwysiadu ar gyfer cynnydd dysgwyr yn gofyn am newid mewn meddylfryd ymhlith ymarferwyr, sy’n debygol o gymryd peth amser i wreiddio. Mynegwyd pryderon mewn perthynas â risg ganfyddedig o ymwahanu wrth i ysgolion a chlystyrau fabwysiadu dulliau gwahanol o gofnodi ac adrodd ar gynnydd; a’r amser sydd ei angen i ddatblygu ac adolygu dulliau o ymdrin â chynnydd. Fe wnaeth ysgolion hefyd sôn am y ffyrdd newydd yr oeddynt yn rhannu gwybodaeth am gynnydd dysgwyr gyda rhieni a gofalwyr.
Dyma enghraifft isod o ysgol yn cymryd camau arloesol i ymgysylltu â rhieni a gofalwyr i godi ymwybyddiaeth o’r cwricwlwm newydd a nodweddion trefniadau asesu:
Bydd cyfnod arall o gyfweliadau, yn ogystal â gwaith maes gyda dysgwyr, yn arwain at adroddiad dilynol yn ddiweddarach yn 2023.