Neidio i'r prif gynnwy

Adnodd – dyfodol adnoddau i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae cwmni newydd wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i gomisiynu adnoddau o’r ansawdd uchaf. Daeth yn weithredol ar 1 Ebrill a bydd yn cychwyn drwy gael staff yn ei le, ynghyd ag ymgynghori ag ymarferwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, er mwyn datblygu model effeithiol ar gyfer comisiynu a sicrhau ansawdd adnoddau.

Mae Owain Gethin Davies, Pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy, wedi’i benodi yn Gadeirydd Dros Dro. Isod, mae’n ateb cwestiynau allweddol am Adnodd ac uchelgais y prosiect.

Felly, Gethin, yn gryno, beth yw Adnodd?

Un lle i gael adnoddau ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru, adnoddau a fydd yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’r cymwysterau newydd, ac a gaiff eu cyhoeddi ar yr un pryd yn Gymraeg a Saesneg.

Sut ddaethoch chi’n rhan o’r fenter?

Dwi’n teimlo’n angerddol am y cwricwlwm newydd, dwi eisiau i bobl ifanc ac athrawon gael yr adnoddau gorau, yn ddwyieithog, i’w helpu nhw i lwyddo. Mae hefyd yn bwysig bod yr adnoddau hynny’n hygyrch i bob dysgwr, y rhai ag anghenion ychwanegol a’u bod nhw hefyd yn ystyried gwahanol ddiwylliannau amrywiol. Dw i wedi gweithio i’r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu  Cymru (GCaD Cymru) yn y gorffennol, a dw i hefyd wedi ysgrifennu nifer o adnoddau cerddoriaeth i ymarferwyr yng Nghymru – dylai adnoddau o safon uchel fod ar gael i bob ymarferydd addysg a dysgwr.

Beth fydd Adnodd yn ei wneud?

Bydd yn comisiynu  ac yn sicrhau ansawdd adnoddau ar gyfer oedrannau 3 i ôl-16. Yn y dyfodol gall hyd yn oed weithio ar y cyd â gwledydd eraill er mwyn rhannu adnoddau.

Beth fydd yn ei wneud i athrawon yn benodol?

Bydd yn trafod ag ymarferwyr, yn ymgynghori â nhw, yn ymchwilio i’r dechnoleg ddiweddaraf, y technegau diweddaraf, yr arferion gorau, yr addysgeg ddiweddaraf, a dod â hynny oll ynghyd yn yr adnoddau.

Felly, ydyn ni’n gwybod pa adnoddau rydyn ni eu heisiau?

Y misoedd nesaf yw’r man cychwyn. Bydd yn broses gychwynnol o ymchwilio gyda phobl ifanc, ymarferwyr, partneriaid ac ati.

Sut mae pobl yn cysylltu ag Adnodd?

Rydyn ni’n mynd i gychwyn codi ymwybyddiaeth. Byddwn ni’n mynd i Eisteddfod yr Urdd, yn gwneud sioeau teithiol a sioeau addysg, yn gweithio trwy gonsortia, ac wrth gwrs mi fydd gennym ni ardal benodol ar Hwb, sef lle bydd yr holl adnoddau’n ymddangos yn y pen draw. Dyma ein e-bost: post@adnodd.llyw.cymru

O dan y Cwricwlwm i Gymru, mae ysgolion yn datblygu cwricwla pwrpasol, a fydd model Adnodd yn cyd-fynd â hynny?

Yn bendant, bydd. Mae wedi bod yn rhan o’n ffordd o feddwl. Bydd Adnodd yn cynhyrchu offer ac adnoddau ehangach, na fydd yn rhy benodol. Gan ddefnyddio hen enghraifft, byddai adnodd am gestyll yn dangos ffyrdd o addysgu a dysgu a fyddai’n gweithio ar gyfer unrhyw gastell neu’r rhan fwyaf o gestyll, heb gyfeirio at rai penodol, a gellid eu haddasu ar gyfer gwahanol leoliadau.

A fydd Adnodd yn cydweithio â phartneriaid?

Bydd, byddwn yn cydweithio ag ymarferwyr a phartneriaid rhanbarthol, yn ogystal â chyhoeddwyr a’r sector creadigol. Nid ymarfer caffael masnachol yn unig mohono.

Unrhyw sylw i gloi?

Dwi’n obeithiol iawn am Adnodd. Rydyn ni’n edrych tuag allan yn ogystal ag ar Gymru i ddod â’r gorau i’n hymarferwyr a’n dysgwyr. Ac mae’n gam arall tuag at sicrhau bod y Cwricwlwm i Gymru yn cael y llwyddiant y mae’n ei haeddu.

Mae modd gweld datganiad llafar am Adnodd gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yma.

Gadael ymateb