Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth achos Ysgol Plas Cefndy

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Ysgol Plas Cefndy yn uned cyfeirio disgyblion yn y Rhyl, gogledd Cymru, sy’n darparu addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) ar gyfer plant oedran uwchradd gydag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Maen nhw hefyd yn meddu ar ddarpariaeth ar gyfer plant sydd â lefelau uchel o orbryder yng nghanolfan Milestones y Rhyl. Mae eu safle lloeren yn Rhuthun yn cynnig darpariaeth ar gyfer plant oedran cynradd.

Gweler eu ffilmiau astudiaeth achos isod sy’n dangos sut maen nhw wedi mynd ati i ddatblygu eu cwricwlwm o safbwynt arweinyddiaeth a staff ehangach.

Safbwynt yr ysgol gyfan:

Safbwynt arweinwyr:

Mae’r Canllawiau ar gyfer Addysg heblaw yn yr ysgol yn nodi’r hyn sydd ei angen yn ychwanegol at yr hyn a nodir ar gyfer pob dysgwr yng nghanllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Maen nhw’n cyfeirio at y nodweddion allweddol canlynol:

  • meithrin a chryfhau iechyd a lles pob dysgwr
  • cydweithio systematig rhwng y dysgwr, rhieni/gofalwyr, ysgol a darparwyr AHY
  • mynediad i gwricwlwm cynhwysol sy’n canolbwyntio ar anghenion unigol pob dysgwr
  • cefnogi ailintegreiddio neu bontio dysgwyr sy’n derbyn AHY i ddarpariaeth brif ffrwd neu arbenigol a/neu eu cefnogi i symud ymlaen tuag at addysg bellach, hyfforddiant neu’r byd gwaith

Mae’r ffilmiau hefyd i’w cael yn ardal adnoddau Hwb.

Gadael ymateb