Mae Canllawiau Cwricwlwm i Gymru o reidrwydd yn eithaf mawr – mae’n cynnwys cwricwlwm cyfan ar gyfer 3 i 16 oed. Dydy penderfynu ar ble i ddechrau darllen, a sut i ffeindio’ch ffordd drwyddo i gael y gorau ohono ddim bob amser yn amlwg.
Bydd yr esboniwr byr hwn yn dangos y lle gorau i chi ddechrau, gan helpu i sicrhau nad ydych yn rhuthro’n syth at y manylion ac yn methu’r pethau sylfaenol.