Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae cyfres o weithdai ar gael ar Hwb i helpu ysgolion i ddatblygu sgiliau ym maes hanfodol o ddefnyddio asesiad i gefnogi cynnydd. Mae gwaith ymchwil ac arbenigedd athrawon wedi bod yn ganolog i’w datblygiad.
Mae’r gweithdai hyn yn helpu ymarferwyr i wella eu dealltwriaeth o gynnydd ac asesu a’r berthynas bwysig rhyngddynt. Yn y pen draw, maent wedi’u cynllunio i helpu i ddatblygu dulliau asesu sy’n sicrhau bod cynnydd wrth ddysgu yn symud ymlaen, yn hytrach na phrofi’r hyn sy’n cael ei ddysgu ar y pryd.

Mae’r chwe gweithdy wedi’u trefnu mewn tri phâr – a phob pâr yn ymdrin â thema bwysig sy’n gysylltiedig ag asesu a chynllunio cwricwlwm o dan y Cwricwlwm i Gymru:
- Gweithdai 1 a 2: cynnydd ac asesu
- Gweithdai 3 a 4: y dysgwr wrth galon yr asesiad
- Gweithdai 5 a 6: integreiddio’r cwricwlwm, asesu ac addysgeg
Mae’r deunyddiau ar gael am ddim i unrhyw ysgol neu ymarferwyr eu defnyddio. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol:
- Er bod y chwe gweithdy’n gysylltiedig mewn cyfres, gall ymarferwyr ddefnyddio unrhyw un neu rai ohonynt fel y dewisant os yw’r cynnwys yn berthnasol i’w hanghenion ar y pryd
- Os yw’r chwe gweithdy’n cael eu defnyddio fel cyfres, gall ymarferwyr amrywio faint o sylw ac amser a roddir i weithgaredd neu thema benodol
- Argymhellir defnyddio’r gweithdai yn gydweithredol:: gellir trefnu cydweithredu o fewn ysgol neu leoliad, neu ar draws clwstwr (e.e. ysgol uwchradd ac ysgolion cynradd cysylltiedig), neu o fewn rhwydwaith sydd eisoes yn bodoli
- Gellir trefnu gweithgareddau cydweithredu a hwyluso cyfranogiad, a chefnogi hynny o’r gwaelod i fyny, neu eu datblygu drwy gymorth allanol
- Er bod cyfranogiad cydweithredol yn cael ei argymell, gall ymarferwyr unigol barhau i ddefnyddio’r deunyddiau yn fuddiol ar gyfer datblygiad personol
Mae staff mewn partneriaethau a chonsortia rhanbarthol yn barod i gynghori a chefnogi cydweithwyr i ddefnyddio adnoddau’r gweithdai. Gallwch gysylltu â’r canlynol:
Partneriaeth Sir Gaerfyrddin-Sir Benfro-Abertawe – Debbie Moon – DEBBIE.MOON@partneriaeth.cymru
Partneriaeth Canolbarth Cymru – Chris Davies – christopher.davies2@powys.gov.uk/
Consortiwm Canolbarth y De – Kath Lewis – Kathryn.A.Lewis@cscjes.org.uk
Consortiwm GwE – Dafydd Rhys – dafyddrhys@gwegogledd.cymru
Consortiwm GCA – James Kent – James.Kent@sewaleseas.org.uk
Awdurdod Lleol Casnewydd – Owain Hywett – o.hyett@npt.gov.uk