Mae Ysgol Gyfun Treforys wedi mabwysiadu agwedd feiddgar wrth gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Yn yr astudiaeth achos hon, mae arweinwyr a staff yn siarad am ddull yr Ysgol o ddatblygu’r cwricwlwm, gan ddefnyddio hyrwyddwyr cwricwlwm a model rheoli newid.
Yn yr adran gyntaf mae crynodeb yr arweinwyr. Yn yr ail adran isod gallwch ddarllen safbwyntiau amrywiaeth o staff a disgyblion, sy’n siarad yn blwmp ac yn blaen am y dull gweithredu, rhai pryderon, ffyrdd o symud pethau ymlaen, a’u gobaith ar gyfer y dyfodol.

Safbwynt yr arweinwyr
Martin Franklin – Pennaeth
Mae Treforys yn gwasanaethu rhan ogledd-ddwyreiniol Abertawe ac mae’n ysgol wirioneddol gyfun. Mae gennym blant sy’n dod o ardaloedd eithaf difreintiedig, ac mae plant o bob math o allu yma hefyd.

Ar ddiwedd 2020 roeddem yn llwyr werthfawrogi nad oeddem wedi gwneud digon o gynnydd yn ein taith ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Penderfynwyd bryd hynny i benodi hyrwyddwyr Cwricwlwm i Gymru a fyddai’n helpu i roi ein dull gweithredu ar lwybr carlam.
Rydym wedi rhoi cyfnodau defnyddiol iawn iddynt weithio gydag arweinwyr adran, nid yn unig am ychydig o oriau, ond drwy dynnu staff oddi ar yr amserlen am ddiwrnod ar adegau i weithio ar themâu’r Cwricwlwm i Gymru gyda thri aelod o staff hefyd. Ac mae hynny’n sicr wedi cyflymu ein dull.
Rydym wedi cadw ein strwythur adrannol, felly mae gennym benaethiaid hanes, daearyddiaeth, gwyddoniaeth, technoleg, ac ati o hyd, ond maent yn gweithio o dan y Meysydd Dysgu a Phrofiad gyda’i gilydd ac rydym wedi canfod bod hwn yn ddull llawer mwy effeithiol i ni oherwydd yn fy meddwl i mae gen i dri o bobl yn y Dyniaethau erbyn hyn, er enghraifft, yn cydweithio ar y Cwricwlwm i Gymru.
Dr Sam Williams – Pennaeth Cynorthwyol
Yn bersonol, rwy’n gweld bod her y Cwricwlwm i Gymru yn enfawr. Mae nifer fawr o bolisïau y mae angen i ymarferwyr ac arweinwyr roi sylw dyledus iddynt, ac yna mae’n rhaid trosi hynny’n ymarferol. Sut olwg fydd ar y weithred mewn gwirionedd erbyn ichi syntheseiddio a deall nodau a dyheadau canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru – ac rwy’n meddwl bod pawb yn cytuno â hynny. Sut ydym ni wir yn mynd i roi’r syniad hwnnw ar waith?

Felly penderfynais ar y syniad o fodel Rheoli Newid Kotter, sef wyth cam gwahanol o sicrhau newid. Gan ddechrau gyda chreu ymdeimlad o frys, ffurfio’r math o dîm a fydd yn gyrru’r newid, creu’r weledigaeth honno, cyfleu’r weledigaeth, ac yna symud ymlaen i rymuso’r gweithredu.
Ond yr hyn a welsom yw bod y model hwnnw’n arbennig wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ddeall pa gamau y mae angen i ni eu cymryd nesaf fel tîm arwain.
Felly cymerom amser hir i ddeall ein man cychwyn, ac yna roedd yn rhaid datblygu gweledigaeth. Beth wnaethom oedd cymryd y bwriadau lleol, a welwch wrth ichi ddod i mewn i’r ysgol – ysbrydoli, ymgysylltu, cyflawni – sydd wrth wraidd ein gwaith yma yn Nhreforys, ac yna gosod hynny yn erbyn y dibenion cenedlaethol i fod yn uchelgeisiol, galluog, moesegol, gwybodus ac yn y blaen, ac adeiladom ein gweledigaeth am y cwricwlwm o amgylch y groesffordd rhwng y ddau bwynt hwnnw.
James Edmunds – Prif Ymarferwr
Yr hyn rydym hefyd wedi ceisio ei wneud o ran newid y cwricwlwm yw ei wneud mor bersonol â phosibl.

Rydym wedi tynnu arweinwyr adran oddi ar yr amserlen am ddiwrnodau cyfan ac wedi ceisio eu hyfforddi a’u mentora trwy rai o’r pethau rydym wedi’u deall gyda’r amser sydd wedi’i ganiatáu. Felly mae ganddynt well dealltwriaeth o ddatblygiad y cwricwlwm a mwy o hyder i sicrhau’r newid hwnnw a gweithredu ar y newid hwnnw o fewn eu hadrannau, o fewn eu hystafelloedd dosbarth, a dyna yw hanfod hyn mewn gwirionedd, achosi newid o fewn y dosbarth ac i’r disgyblion eu hunain.
Dr Sam Williams
Roeddem eisiau cynnwys ein staff wrth feddwl am y bwriadau a’r dibenion. A dyna lle bu i ni osod cyfres o ddarnau A3 o bapur yn syml iawn mewn sefyllfa HMS, rhoi cydweithwyr mewn grwpiau amrywiol ar draws meysydd dysgu a phrofiad amrywiol, disgyblaethau pwnc amrywiol, lefelau amrywiol o brofiad o fewn eu hymarfer eu hunain, i ofyn iddynt: Pan rydym yn dweud ‘ysbrydoli cariad at ddysgu’ ac yn meddwl am ‘ddinasyddion moesegol, gwybodus’, sut olwg sydd ar hynny? Beth ydym yn ei wneud ar hyn o bryd? Beth hoffem ei wneud? Beth yw ein dyheadau? Beth ydym am roi’r gorau i’w wneud oherwydd nad yw’n cyd-fynd â’n bwriadau lleol na’n dibenion cenedlaethol mewn gwirionedd?
Ac rydym wedi defnyddio diffiniad Llywodraeth Cymru – y cwricwlwm yw popeth y mae’r dysgwr yn ei brofi – ac mae hynny wedi bod yn ysgogydd gwirioneddol wrth newid calonnau a meddyliau o fewn yr ysgol. Beth bynnag rydym yn sôn amdano fel tîm, fel athrawon, fel dysgwyr, fel arweinwyr, fel corff llywodraethu, mae’r cyfan yn dod yn ôl at y cwricwlwm oherwydd dyna brofiad y plentyn wrth fynd ar drywydd y pedwar diben.
Roeddem yn ymwybodol o’r heriau y mae ymarferwyr yn eu hwynebu gan eu bod yn dal i addysgu, maent yn dal i weithio tuag at gymwysterau TGAU ac arholiadau allanol gyda Safon Uwch. Felly nid oeddem eisiau eu gorlwytho â’r holl wybodaeth ar yr un pryd. Gwnaethom geisio diferu porthiant, gan ddweud mai dyma sydd angen i chi ei wybod nawr a dyma’r weithred sydd ei hangen arnom gennych chi. Dyma’r darn nesaf o wybodaeth, ystyriwch ef, byddwn yn ailymweld ag ef yr wythnos nesaf. A nawr dyma’r weithred.
Ond roeddem yn teimlo, yn hytrach na dibynnu ar awr yr wythnos yn unig dros gyfnod i feddwl am bethau, ei bod yn fwy buddiol dod â chydweithwyr at ei gilydd am gyfnod estynedig o amser, a gwnaethom hynny dros ddiwrnod cyfan, i ofyn iddyn nhw feddwl am y peth ac efallai mynd i lawr y llwybr ac yna dod yn ôl.
Achos dyna ein profiad ni, o leiaf o ddylunio cwricwlwm. Mae gennych chi syniad gwych.
Rydych chi’n mynd ar ei ôl ac yna’n sylweddoli, o, mewn gwirionedd, nid yw hynny’n mynd i weithio yn ymarferol.
Felly mae’n rhaid i ni fynd yn ôl. Ac roeddem eisiau rhoi’r un cyfle i arweinwyr adrannau oherwydd nhw fydd yn gyrru’r newid hwn yn y cwricwlwm.
Persbectif ysgol gyfan
Martin Franklin – Pennaeth
Ar ddiwedd 2020 roeddem yn llwyr werthfawrogi nad oeddem wedi gwneud digon o gynnydd yn ein taith ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Penderfynwyd bryd hynny i benodi hyrwyddwyr Cwricwlwm i Gymru a fyddai’n helpu i roi ein dull gweithredu ar lwybr carlam.
Rydym wedi rhoi cyfnodau defnyddiol iawn iddynt weithio gydag arweinwyr adran, nid yn unig am ychydig o oriau, ond drwy dynnu staff oddi ar yr amserlen am ddiwrnod ar adegau i weithio ar themâu’r Cwricwlwm i Gymru gyda thri aelod o staff hefyd. Ac mae hynny’n sicr wedi cyflymu ein dull.
Dr Sam Williams – Pennaeth Cynorthwyol
Yn bersonol, rwy’n gweld bod her y Cwricwlwm i Gymru yn enfawr. Mae nifer fawr o bolisïau y mae angen i ymarferwyr ac arweinwyr roi sylw dyledus iddynt, ac yna mae’n rhaid trosi hynny’n ymarferol. Sut olwg fydd ar y weithred mewn gwirionedd erbyn ichi syntheseiddio a deall nodau a dyheadau canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru – ac rwy’n meddwl bod pawb yn cytuno â hynny. Sut ydym ni wir yn mynd i roi’r syniad hwnnw ar waith?

Felly penderfynais ar y syniad o fodel Rheoli Newid Kotter, sef wyth cam gwahanol o sicrhau newid. Gan ddechrau gyda chreu ymdeimlad o frys, ffurfio’r math o dîm a fydd yn gyrru’r newid, creu’r weledigaeth honno, cyfleu’r weledigaeth, ac yna symud ymlaen i rymuso’r gweithredu.
Ond yr hyn a welsom yw bod y model hwnnw’n arbennig wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ddeall pa gamau y mae angen i ni eu cymryd nesaf fel tîm arwain.
Felly cymerom amser hir i ddeall ein man cychwyn, ac yna roedd yn rhaid datblygu gweledigaeth.
Gerwyn Bowen – Pennaeth yr Adran Saesneg
O safbwynt personol, roedd y broses o gynllunio cwricwlwm yn galonogol oherwydd i ddechrau roeddwn yn nerfus am yr ailgynllunio, oherwydd yn amlwg nid ydwyf yn ANG.
Rydw i wedi bod yn gweithio ers nifer o flynyddoedd ac o ganlyniad mae hwn yn gam i mewn i’r tywyllwch. I ddechrau roeddwn yn betrusgar, oherwydd, wel addysgu yw addysgu, nid yw hynny’n newid. Addysgeg yw addysgeg yw addysgeg a chelfyddyd a gwyddor addysgu yw addysgeg.

Pan ddechreuais roedd gennym fwy o hyblygrwydd o ran beth i’w addysgu, yna newidiwyd i un cwricwlwm, ond nawr rydym yn gallu edrych ar gwricwlwm sy’n cwrdd ag anghenion ein dysgwyr yn lleol a dechreuodd y broses drwy ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen ar ein dysgwyr yn yr ardal hon.
Evee – Disgybl
Rydym wedi chwarae rhan allweddol wrth siarad am yr hyn yr hoffem ei weld oherwydd rydym yn gwybod beth fydd myfyrwyr eraill eisiau ei weld hefyd, fel sut i’w newid.
Phoebe – Disgybl
Rwy’n meddwl ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod ni fel disgyblion yn ymwneud â’r cwricwlwm oherwydd ei fod yn dangos safbwynt gwahanol i athrawon.

Felly er y byddant yn ei weld fel safbwynt dysgu, yr hyn y byddant yn ei ddysgu i eraill, gallwn ni ei weld fel ‘dyma beth y byddwn yn gallu ei ddysgu a’r hyn y gallwn ei gael oddi wrtho’.
Seren – Disgybl
Cwrddom fel un grŵp mawr yn Hyb a siarad a thrafod beth yw dysgwr gwych. Yna roedd gennym ni grŵp llai a buom i gyd yn siarad am y pwyntiau allweddol o fod yn ddysgwr gwych a beth mae’n ei olygu i’r ysgol mewn gwirionedd.
Dr Sam Williams
Beth wnaethom oedd cymryd y bwriadau lleol, a welwch wrth ichi ddod i mewn i’r ysgol – ysbrydoli, ymgysylltu, cyflawni – sydd wrth wraidd ein gwaith yma yn Nhreforys, ac yna gosod hynny yn erbyn y dibenion cenedlaethol i fod yn uchelgeisiol, galluog, moesegol, gwybodus ac yn y blaen, ac adeiladom ein gweledigaeth am y cwricwlwm o amgylch y groesffordd rhwng y ddau bwynt hwnnw.
James Edmunds – Prif Ymarferwr
Yr hyn rydym hefyd wedi ceisio ei wneud o ran newid y cwricwlwm yw ei wneud mor bersonol â phosibl. Rydym wedi tynnu arweinwyr adran oddi ar yr amserlen am ddiwrnodau cyfan ac wedi ceisio eu hyfforddi a’u mentora trwy rai o’r pethau rydym wedi’u deall gyda’r amser sydd wedi’i ganiatáu.

Dr Sam Williams
Roeddem eisiau cynnwys ein staff wrth feddwl am y bwriadau a’r dibenion. A dyna lle bu i ni osod cyfres o ddarnau A3 o bapur yn syml iawn mewn sefyllfa HMS, rhoi cydweithwyr mewn grwpiau amrywiol ar draws meysydd dysgu a phrofiad amrywiol, disgyblaethau pwnc amrywiol, lefelau amrywiol o brofiad o fewn eu hymarfer eu hunain, i ofyn iddynt: Pan rydym yn dweud ‘ysbrydoli cariad at ddysgu’ ac yn meddwl am ‘ddinasyddion moesegol, gwybodus’, sut olwg sydd ar hynny? Beth ydym yn ei wneud ar hyn o bryd? Beth hoffem ei wneud? Beth yw ein dyheadau? Beth ydym am roi’r gorau i’w wneud oherwydd nad yw’n cyd-fynd â’n bwriadau lleol na’n dibenion cenedlaethol mewn gwirionedd?
Ac rydym wedi defnyddio diffiniad Llywodraeth Cymru – y cwricwlwm yw popeth y mae’r dysgwr yn ei brofi – ac mae hynny wedi bod yn ysgogydd gwirioneddol wrth newid calonnau a meddyliau o fewn yr ysgol. Beth bynnag rydym yn sôn amdano fel tîm, fel athrawon, fel dysgwyr, fel arweinwyr, fel corff llywodraethu, mae’r cyfan yn dod yn ôl at y cwricwlwm oherwydd dyna brofiad y plentyn wrth fynd ar drywydd y pedwar diben.
Roeddem yn ymwybodol o’r heriau y mae ymarferwyr yn eu hwynebu gan eu bod yn dal i addysgu, maent yn dal i weithio tuag at gymwysterau TGAU ac arholiadau allanol gyda Safon Uwch. Felly nid oeddem eisiau eu gorlwytho â’r holl wybodaeth ar yr un pryd. Gwnaethom geisio diferu porthiant, gan ddweud mai dyma sydd angen i chi ei wybod nawr a dyma’r weithred sydd ei hangen arnom gennych chi.
Ceri Callaghan – Arweinydd yr Adran Gelf a Dylunio
Buom yn siarad am ein gwerthoedd, lle’r oeddem eisiau mynd gyda hynny, ac yna roeddem yn gallu hidlo hynny yn ôl i’n hardaloedd ac yna datblygu ein cynlluniau dysgu oddi yno.
Amy Jones – Athrawes Gelf a Dylunio
Ac o fy safbwynt i, gan ei fod o fewn yr adran, roedd y pennaeth Adran yn mynychu llawer o gyfarfodydd a daethom at ein gilydd wedyn i greu dilyniant o ddysgu y gallem ei ddatblygu yn seiliedig ar y wybodaeth a basiwyd i lawr gan yr ymarferwyr arweiniol.

Noemi Sierra – Ymarferydd Arweiniol

Rydym hefyd wedi ceisio cynnal polisi drws agored lle mae pobl yn teimlo y gallant ddod i’n gweld unrhyw bryd y dymunant a’n holi, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.
Ein rôl fu cyrchu gwybodaeth a’i chynhyrchu neu ei lledaenu trwy gydol y flwyddyn mewn talpiau i’w gwneud yn hylaw i staff ac yn hygyrch iddynt tra eu bod yn darparu amserlen lawn.
Dr Sam Williams
Mae ganddynt well dealltwriaeth o ddatblygiad y cwricwlwm a hefyd mwy o hyder er mwyn sicrhau’r newid hwnnw a gweithredu ar y newid hwnnw o fewn eu hadrannau, o fewn eu dosbarth, sef hanfod hyn oll mewn gwirionedd, gan achosi newid o fewn y dosbarth ac i’r disgyblion eu hunain.
Gerwyn Bowen
Deialog agored, gonest. Felly yn y bôn roeddem yn gallu dweud am beth roeddem yn poeni, beth oedd ein pryderon, a dechrau deialog a oedd yn onest, yn agored ac yn fyfyriol.
Does dim byd wedi bod yn dderbyniol neu’n annerbyniol o ran ein proses wrth gynllunio cwricwlwm. Ac rwy’n meddwl bod hynny’n bwysig oherwydd os byddwch yn mynd at hyn o ran ‘dim ond un ffordd sydd’ neu, ‘nid oes unrhyw beryglon, mae hyn yn mynd i fod yn wych’, rydych yn mynd i wneud camgymeriad.

Mae cymryd yr arweiniad gan y tîm arwain ac yna ei drosi i faes y cwricwlwm wedi bod yn broses ddiddorol lle rydym wedi cyd-greu’r cwricwlwm gyda’n gilydd fel adran gan ddefnyddio amser adrannol ac amser arall a roddwyd i ni mewn diwrnodau dysgu proffesiynol parhaus.
Drwy gydweithio, mae gennym fras fframwaith cwricwlwm sy’n mynd i fod yn heriol, sy’n mynd i adeiladu ar yr hyn sydd gennym.
Y trafodaethau sydd wedi’u cynnal gyda’n hysgolion cynradd clwstwr. Rydym wedi cael diwrnod dysgu proffesiynol parhaus gyda’n hysgolion cynradd clwstwr yn edrych ar ddysgwyr gwych, ac ati.
Ac mae cael y cysylltiadau traws-gyfnod hynny yn bwysig iawn oherwydd rydym yn gweithio ar fodel o’r brig i lawr, o’r gwaelod i fyny fel ein bod yn rhannu’r hyn rydym yn ei wneud a’r hyn y maen nhw’n ei wneud fel ei fod yn dod yn ddeialog ddeugyfeiriadol ac yn ddeialog barhaus fel ein bod yn gallu herio ein hunain a’n dysgwyr yn barhaus.
Tyler Zupic – Athro Saesneg
Rydym yn ymgymryd ag arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bob blwyddyn rydym yn llunio cwestiwn sy’n seiliedig ar ymchwil rydym eisiau canolbwyntio’n benodol arno sy’n cysylltu â’n cynllun gwella adran neu ein cynllun gwella ysgol, ac yna gellir dod â’n canfyddiadau ynghyd a’u defnyddio ar gyfer ein cwricwlwm.
Ar hyn o bryd yn ein hadran rydym yn edrych ar asesu ac yn ystyried sut beth yw hynny i’r plant. Felly hunan-asesu, asesu cymheiriaid, defnyddio timau, defnyddio ffurflenni Google, y math yna o beth.

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno wedyn i benderfynu sut rydym yn mynd i edrych ar asesu ar gyfer y cwricwlwm ac ar gyfer y disgyblion hefyd.
Ceri Callaghan
Rwy’n meddwl mai un peth roeddem yn teimlo oedd yn her ar y dechrau oedd sut rydym yn ffitio hyn i gyd i mewn? Sut mae gwneud yr ymchwil? Ond wedyn drwy gael yr ymarferwyr arweiniol i hidlo’r hyn oedd yn bwysig i ni, rwy’n meddwl bod hynny wedi caniatáu i ni ganolbwyntio ar yr elfennau allweddol yn unig a sut rydym yn mynd i ddatblygu hynny wedyn fel ysgol.
Amy Jones
O fy safbwynt i, yr her fwyaf oedd y syniad o amser yn athrawon prysur ac mae gan y rhan fwyaf o athrawon gyfrifoldebau ychwanegol. Er enghraifft, rwy’n arweinydd cynnydd yn ogystal ag athrawes dosbarth. Felly fy mhryder i oedd y syniad o ble ydw i’n mynd i ddod o hyd i’r amser i roi’r cwricwlwm cenedlaethol newydd sbon hwn ar waith?
Ond mae cael y dull ymchwil a chael ymarferwyr arweiniol sy’n gallu dod o hyd i’r wybodaeth, cael gafael ar y wybodaeth honno, ei bwydo’n ôl i ni fel y gallwn wedyn ei chyfyngu a chanolbwyntio’n unig ar yr hyn sydd ei angen yn ein hardal, wedi gwneud pethau’n llawer llai llethol ac yn llawer haws ei reoli.
Dr Sam Williams
Dyma’r darn nesaf o wybodaeth, ystyriwch ef, byddwn yn ailymweld ag ef yr wythnos nesaf. A nawr dyma’r weithred.
Ond roeddem yn teimlo, yn hytrach na dibynnu ar awr yr wythnos yn unig dros gyfnod i feddwl am bethau, ei bod yn fwy buddiol dod â chydweithwyr at ei gilydd am gyfnod estynedig o amser, a gwnaethom hynny dros ddiwrnod cyfan, i ofyn iddyn nhw feddwl am y peth ac efallai mynd i lawr y llwybr ac yna dod yn ôl.
Achos dyna ein profiad ni, o leiaf o ddylunio cwricwlwm. Mae gennych chi syniad gwych.
Rydych chi’n mynd ar ei ôl ac yna’n sylweddoli, o, mewn gwirionedd, nid yw hynny’n mynd i weithio yn ymarferol. Felly mae’n rhaid i ni fynd yn ôl.
Ceri Callaghan
Mae mor bwysig inni beidio â mynd yn sownd mewn un lle a meddwl, iawn, mae wedi’i wneud nawr. Rydym wedi gwneud yr adnoddau, mae’n rhaid i ni aros yno. Mae’n bwysig i ni sylweddoli bod dilyniant y dysgwyr yn eithaf symudol ac y gallwn eu newid a’u cryfhau.
Roedd y disgyblion yn eithaf gonest wrth ddweud beth oedd yn gweithio’n dda a beth oedd ddim. Ac rydym yn defnyddio hynny i’n mantais hefyd i’w cryfhau ar hyd y ffordd.
Gerwyn Bowen
Rhaid i ni beidio â thaflu’r llo a chadw’r brych, ac mae’n rhaid i ni fod yn barod i roi cynnig ar bethau newydd, i beidio â bod ofn pethau newydd, ac i ddeall cyn belled ag y gallwn ddeall pam rydym yn gwneud rhywbeth a chofio i bwy rydym yn ei wneud, mae hynny’n gwneud gwahaniaeth enfawr.
Tyler Zupic
Wrth i ni fynd ymlaen a dysgu mwy, a siarad amdano gyda’n hyrwyddwyr y Cwricwlwm i Gymru a gyda’r UDA ac adrannau eraill, rydym yn dod yn fwy hyderus yn hyn o beth.
Mae’n rhywbeth rydym yn ei fwynhau’n fawr ac yn edrych ymlaen yn fawr at ei wneud. Ond fel gyda phopeth pan fyddwch chi’n malio, rydych eisiau iddo weithio.

Felly rydym ychydig yn nerfus, ond allwn ni ddim aros iddo gael ei gyflwyno.
Mae bwriad cael ffilm astudiaeth achos yn seiliedig ar Ysgol Llanhari yn ddiweddarach yn y flwyddyn