Neidio i'r prif gynnwy

Cymwysterau sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – pam fod rhai wedi’u cyfuno?

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn arwydd o newid mawr yn y ffordd y bydd pobl ifanc yn dysgu a dyna pam rydym yn gwneud newidiadau i gymwysterau.

Mae angen y newidiadau rydym yn eu gwneud i gymwysterau yng Nghymru i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd. Mae angen i ni hefyd adlewyrchu’r newid diwylliannol mawr y mae cyrff cyhoeddus yn ei wneud yng Nghymru, gan feddwl, a gweithio yn y tymor hir ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Fel rheoleiddiwr, mae angen i ni fod yn hyderus bod y cymwysterau cywir ar gael i ddiwallu anghenion dysgwyr y dyfodol a gweithwyr y dyfodol. Fel rhan o’n penderfyniadau, rydym wedi penderfynu dilyn trywydd newydd o ran cymwysterau TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a’r Gwyddorau, drwy integreiddio pob maes pwnc. Bydd hyn yn rhoi mwy o le ac ehangder mewn dysgu ar draws pynciau ac ymagwedd fwy cyson i ddysgwyr.

 Pam cyfuno cymwysterau?

Ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn astudio llawer o gymwysterau ar wahân yn y meysydd pwnc allweddol hyn, nad yw’n rhoi fawr o gyfle iddynt ganolbwyntio ar y pynciau eraill.

Rydym wedi profi ein syniadau gydag ystod eang o randdeiliaid, a chredwn y bydd cyfuno cymwysterau o fudd i ddysgwyr ac athrawon, gan roi mwy o hyblygrwydd i ysgolion fel y gall dysgwyr ddilyn ystod ehangach o bynciau.

Byddai’r newidiadau hyn yn lleihau nifer yr asesiadau i ddysgwyr er mwyn lleddfu’r pwysau y maent yn eu hwynebu a chefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles ymhellach.

Mae ymchwil yn dangos bod asesu iaith a llenyddiaeth gyda’i gilydd yn ffordd gadarnhaol i ddysgwyr ddatblygu sgiliau ieithyddol fel y gallant eu cymhwyso i wahanol sefyllfaoedd ac mewn cyd-destunau gwahanol. Mae hefyd yn rhoi cyfle i bob dysgwr astudio llenyddiaeth sy’n rhan bwysig o ddysgu a mwynhau iaith ac mae’n mynd i’r afael â phryderon am y gostyngiad yn nifer y dysgwyr sy’n astudio llenyddiaeth.

Bydd y newid i TGAU Gwyddoniaeth yn cwmpasu cynnwys o bob un o’r tair disgyblaeth wyddoniaeth ac yn ei gwneud yn gliriach sut maent yn cysylltu â’i gilydd. Mae hyn yn adlewyrchu disgwyliad y cwricwlwm newydd y gall dysgwyr wneud y cysylltiadau ar draws eu dysgu ac mae’n cynnig dull cydlynol sydd o fudd i bob dysgwr.

Manteision cyfuno pynciau

Ni fydd creu cymwysterau TGAU integredig mewn rhai pynciau yn cyfyngu ar gynnydd dysgwyr; a byddwn yn ystyried sut y gellir cynllunio pob cymhwyster i gefnogi dilyniant i addysg ôl-16, fel Safon Uwch. Mae dysgwyr yng Nghymru eisoes yn astudio tuag at UG a Safon Uwch heb sefyll TGAU penodol yn y pwnc o’r blaen. Ac mae’n ddull cyffredin ledled y byd i gyfuno iaith a llenyddiaeth gan arwain at sgiliau ieithyddol lefel uchel.

Mae addysg yn llawer mwy na chymwysterau. Drwy leihau nifer y cymwysterau mewn pynciau tebyg neu gysylltiedig, byddwn yn rhyddhau amser o fewn y cwricwlwm ar gyfer profiadau dysgu ehangach a ffefrir gan brifysgolion.

Gall diwygio ymddangos yn frawychus, ond gall hefyd fod yn gyfle cyffrous i gyflwyno newid. Bydd yn gofyn i bob un ohonom gofleidio ffyrdd newydd o weithio, o feddwl ac o wneud.  Ond mae’n her y gallwn i gyd ymateb iddi ac mae’n rhaid inni er budd cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.

Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau

Gadael ymateb