
Cadeiriwyd adolygiad annibynnol i gynghori a gwella’r gwaith o addysgu themâu a phrofiadau sy’n ymwneud â chymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws y cwricwlwm yn ddiweddar gan yr Athro Charlotte Williams. Roedd yr adroddiad terfynol, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni, yn cynnwys sylw ar gyfer adnoddau a dysgu proffesiynol. Yr oedd yn ‘llwybr arloesol yn niwygio’r cwricwlwm yng Nghymru’.
Yn ystod mis Hanes Pobl Dduon, mae’n sôn am ei gwaith ar yr Adolygiad, ei phrofiadau personol o gael ei magu a’i haddysgu yng Ngogledd Cymru, a’i optimistiaeth ar gyfer newidiadau sydd ar y gweill. Yn ddiffuant a thwymgalon, mae’n wrandawiad ysbrydoledig.
Gwrandewch ar eich platfform dewisedig isod:
Neu ar gyfer unrhyw ffôn symudol, defnyddiwch y ‘ddolen hud’ hon.
Recordiwyd y podlediad yn gynnar ym mis Hydref ac mae hefyd yn cyfeirio at gategori newydd yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru: Gwobr Betty Campbell MBE am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau Cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae enwebiadau’n dal ar agor, tan 23 Tachwedd.
Mae hefyd yn sôn am Gynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon gyda’r nod o leihau’r anghydbwysedd mewn cynrychiolaeth.