Neidio i'r prif gynnwy

Lles dysgwyr ac asesu: systemau cydgefnogaeth

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Pedwar Diben Cwricwlwm i Gymru [t23, Canllawiau Cwricwlwm i Gymru] yn ymgorffori gweledigaeth addysg sy’n cynnwys pwysigrwydd lles dysgwyr. Mae effaith pandemig Covid-19 ar ddysgwyr wedi arwain at roi mwy o flaenoriaeth i hybu lles dysgwyr. Gall pob ymarferydd gyfrannu’n sylweddol at les meddyliol, emosiynol a chymdeithasol dysgwyr drwy eu defnydd o asesu yn yr ystafell ddosbarth.

Llun George MacBride yn ‘Myth or Reality?’ Cynhadledd EIS. Gwesty Radisson SAS. Llun Drew Farrell.

Mae lles yn fwy hanfodol na theimlo boddhad ar unwaith: mae’n golygu datblygu fel unigolyn, ffynnu, bod yn fodlon a chyfrannu at y gymuned. Fel mae’r gair Saesneg ‘being’ yn ei awgrymu, mae’n ymwneud â ‘bod’ yn yr eiliad bresennol yn ogystal â ‘datblygu i fod’.

Mae tri therm – cysylltiad, ymreolaeth a galluogedd* – fel arfer yn crynhoi nodweddion rhyngberthynol diwylliannau ac arferion yn yr ystafell ddosbarth sy’n hanfodol i hybu lles. Wrth i ymarferwyr ddefnyddio asesiadau i gefnogi dysgwyr unigol o ddydd i ddydd, a nodi, cofnodi ac ystyried eu cynnydd dros amser [Canllawiau t224] gallant hyrwyddo cysylltiad, ymreolaeth a galluogedd drwy gyflawni’r cyfrifoldebau cydategol y mae’r Canllawiau [t227] yn eu rhagweld ar gyfer ymarferwyr a dysgwyr.

Mae cysylltiad yn cyfeirio at ymgysylltiad y dysgwr fel aelod o gymuned ysgol sy’n cefnogi cynnydd mewn dysgu a chyd-ddiwylliant ac ethos o barch i bawb. Mae parch yn golygu cydnabod hawl plant i gael rhywun i wrando ar eu llais wrth iddynt gymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol a’r ystafell ddosbarth, gan gynnwys defnyddio asesiadau i adolygu a chynllunio eu dysgu. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn cwricwlwm sy’n cydnabod y gall cynnydd ar hyd y daith ddysgu ddilyn llwybrau gwahanol o fewn map llwybr cyffredin.

Mae angen i ddysgwyr ddeall beth y bwriedir iddynt ei ddysgu. Mae hon yn agwedd allweddol ar ddiwylliant o ymgysylltu yn yr ystafell ddosbarth sy’n hyrwyddo cysylltiad. Os nad yw dysgwyr yn deall pwrpas gweithgaredd dysgu, ni fyddant yn ei ystyried yn rhywbeth dealladwy nac yn rhywbeth gwerthfawr, ac felly ni fyddant yn ymgysylltu’n ystyrlon â’r gweithgaredd. Gall rhannu dealltwriaeth o’r dysgu a fwriedir gyda dysgwyr ymestyn y tu hwnt i’r camau nesaf i gynnwys darlun mwy o sut y gellir cymhwyso eu dysgu presennol mewn cyd-destunau eraill a’u symud ymlaen i’r cam nesaf. Pan fydd dysgwyr yn deall sut mae eu gweithgareddau dysgu’n berthnasol i fwriadau dysgu, gallant gynhyrchu a dewis tystiolaeth o ddysgu sy’n cyfateb i feini prawf llwyddiant perthnasol. Nid proses unffordd yw’r rhannu: mae ymdeimlad o gysylltiad yn cael ei gefnogi’n dda pan fydd dysgwyr eu hunain yn cyfrannu at gynllunio bwriadau dysgu, at ddatblygu meini prawf llwyddiant ac at gynllunio gweithgareddau dysgu sy’n cyd-fynd â’r rhain.

Nid yw cysylltiad heb ymreolaeth yn ddigon. Mae lles unigolion yn gwella pan fyddant yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am eu gweithgareddau ac yn gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth. Gall ymarferwyr sicrhau bod gweithgareddau dysgu ac asesu yn rhoi cyfleoedd i bob dysgwr wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth yn y lle diogel a geir yng nghymuned ddysgu’r ystafell ddosbarth ac, felly, i ddatblygu’r ymagwedd a’r gallu sydd eu hangen i wneud hynny drwy gydol eu hoes.

Mae datblygu a rhannu bwriadau dysgu a meini prawf llwyddiant priodol ar y cyd (grŵp neu unigolyn) yn ffordd bwerus o hyrwyddo ymdeimlad y dysgwr o ymreolaeth. Mae cynnwys dysgwyr yn y gwaith o ddatblygu a deall y rhain drwy ddeialog gyda’r athro a gyda’i gilydd yn eu grymuso wrth iddynt gyfrannu’n weithredol at gynllunio dysgu ac wrth iddynt werthuso (gan ddefnyddio prosesau hunanasesu ac asesu cyfoedion) pa mor dda maent wedi dysgu. Rhaid i’r bwriadau dysgu a’r meini prawf llwyddiant fod yn ddigon uchel i roi lle i ddysgwyr unigol wneud eu dewisiadau eu hunain a chynhyrchu gwahanol fathau o dystiolaeth i ddangos eu bod wedi cyflawni meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt; mae’r gallu i gyfiawnhau dewisiadau a phenderfyniadau yn agwedd bwysig ar weithredu annibynnol a chyfrifol.

Bydd ymreolaeth yn llai gwerthfawr os nad yw’r dewisiadau sydd ar gael yn sylweddol. Mae galluogedd yn awgrymu y gall dysgwyr weld y bydd eu dewisiadau’n gwneud gwahaniaeth iddynt hwy a/neu i eraill nawr a/neu yn y dyfodol. Wrth i ddysgwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ac asesu sy’n rhoi cyfleoedd iddynt wneud dewisiadau go iawn a deall y canlyniadau yr un pryd, maent yn datblygu’r hyfedredd i gyflawni’r cyfrifoldeb hwn iddynt hwy eu hunain ac i eraill.

Bydd dysgwyr yn datblygu galluogedd pan fyddant yn defnyddio’r meini prawf llwyddiant yn annibynnol ac ar y cyd drwy weithgareddau hunanasesu rheolaidd a gweithgareddau asesu gan gyfoedion. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr werthfawrogi ac arfer cyfrifoldeb (gyda chefnogaeth) am gyfrannu at eu cynnydd eu hunain a chynnydd pobl eraill mewn dysgu. Wrth i ddysgwyr ddewis tystiolaeth o gyflawni eu bwriadau dysgu neu nodi’r camau nesaf yn y broses ddysgu, maent yn datblygu’r gallu i ddefnyddio barn a chyflwyno eu dadleuon a’u casgliadau i eraill. Gallant ystyried tystiolaeth sy’n deillio nid yn unig o fewn yr ystafell ddosbarth ond hefyd o gyd-destunau eraill yn yr ysgol a, lle bo hynny’n berthnasol, y tu hwnt i hyn.

Drwy gydol yr asesu, mae deialog ac adborth wrth galon datblygu ymdeimlad dysgwyr o gysylltiad, galluogedd ac ymreolaeth. Mae adborth, boed yn canolbwyntio ar gamau nesaf uniongyrchol, prosesau dysgu, neu gam dysgu pellach, yn cynnwys deialog. Pa ddull bynnag a ddefnyddir, rhaid i ddysgwyr ymgysylltu ag adborth ac ymateb iddo. I gefnogi hyn, mae gan ymarferwyr gyfrifoldeb i ddatblygu gallu dysgwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau yn yr ystafell ddosbarth sef: cyfrannu at ddatblygu bwriadau dysgu a meini prawf llwyddiant; dethol a myfyrio ar dystiolaeth o ddilyniant; a thrafod sut i ddatblygu eu dysgu. Mae hyrwyddo lles yn rhan o waith proffesiynol bob dydd pob ymarferydd.

G MacBride

(Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus, Prifysgol Glasgow, Aelod grwp Asesu, Cwricwlwm i Gymru)

*McLean, A. (2003) The Motivated School London: Sage

Gadael ymateb