Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae deunyddiau Ar Drywydd Dysgu (ADD) yn cefnogi ymarferwyr i asesu dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog.

Ochr yn ochr â datblygu’r cwricwlwm newydd, mae ymarferwyr ac arbenigwyr academaidd wedi diweddaru’r deunyddiau ADD, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, 2020. Maent yn cynnwys:
Mae’r gwaith hwnnw’n parhau wrth i ddysgu proffesiynol a deunyddiau enghreifftiol gael eu datblygu i helpu ymarferwyr i ddefnyddio’r deunyddiau newydd yn llwyddiannus. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae angen adborth i gynorthwyo i gwblhau’r gwaith, felly trefnir digwyddiad rhithwir:
Ar 2 Rhagfyr, gwahoddir ymarferwyr i ragweld y Deunyddiau Dysgu Proffesiynol a rhoi adborth.
Bydd y gyfres gyfan o ddeunyddiau ar gael i’w hadolygu, gan gynnwys yr eirfa. Bydd aelodau’r grŵp Cynghori sy’n gyfrifol am eu datblygu yn gwrando ar adborth ac yn ymateb i gwestiynau.
Gall ymarferwyr a hoffai fynychu ofyn am le drwy anfon e-bost i asesu@llyw.cymru (gyda’r ysgol/lleoliad a manylion rôl) cyn 25 Tachwedd. Mae’r digwyddiad yn debygol o ddechrau am 2.00 p.m. a phara am ddwy awr.
Mae hwn yn gyfnod prysur, felly gall ymarferwyr na all mynychu roi adborth neu awgrymiadau i asesu@llyw.cymru
Mewn eitem flaenorol ar y blog hwn, disgrifiodd yr ymarferydd Aron Bradley ddigwyddiad adborth yn gynharach yn y broses ddatblygu pan oedd ymarferwyr yn gallu cyfarfod yn bersonol.
Galwad am fideos Enghreifftiol
Mae adborth wedi dangos bod fideos yn ased gwerthfawr iawn i ymarferwyr sy’n asesu dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLl) ac wrth gefnogi eu dilyniant.
Yn sgil COVID-19, nid ydym eto wedi gallu cwblhau’r gyfres o fideos enghreifftiol, ac mae’r Tîm Asesu yn Llywodraeth Cymru yn gofyn am gymorth gan yr ysgol/lleoliadau os oes ganddynt ffilm fideo o ddysgwyr ag ADDLl a allai fod o gymorth. Os oes gan eich ysgol ffilm a allai bod o gymorth, cysylltwch â’r tîm drwy asesu@llyw.cymru
Mae angen fideos cyfrwng Cymraeg a Saesneg i gwblhau’r deunyddiau ac i adeiladu map Llwybr rhyngweithiol.
Diolchwn i chi am ddarllen hwn a gan ragweld eich presenoldeb a’ch cymorth.
Y Tîm Asesu.