Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i gynllunio i gynnig hyblygrwydd a galluogedd i athrawon o fewn fframwaith cenedlaethol; mae’n nodi y dylai pob plentyn gael addysg eang a chytbwys, a gwneud cynnydd parhaus o 3 i 16 oed.
Fel rhan o’r cwricwlwm newydd, bydd modd addysgu iaith arwyddion Prydain (BSL) fel trydedd iaith neu iaith ddilynol, fel Ffrangeg neu Almaeneg. Mae hyn yn golygu y gallai BSL fod yn rhan o gwricwlwm ysgol bob dysgwr, yn ogystal â’r ddarpariaeth ar gyfer plant byddar a phlant trwm eu clyw.
Tra bo’r statws newydd hwn yn y cwricwlwm yn ddatblygiad cadarnhaol, argymhellodd y grŵp oedd yn arwain ar ddatblygu’r Maes Dysgu a Phrofiad (Maes) Ieithoedd Llythrennedd a Chyfathrebu ganllawiau ychwanegol i helpu ysgolion i gynnwys BSL yn eu cynlluniau cwricwlwm.
Ym mis Mawrth eleni, cyn i bopeth gael ei droi ar ei ben gan y pandemig byd-eang, dechreuodd waith ar y canllawiau hyn gan grŵp gydag arbenigedd a phrofiad o addysgu BSL. Mae’r canllawiau’n cael eu datblygu ar gyfer BSL fel iaith gyntaf neu brif iaith plant byddar a phlant trwm eu clyw, ac ar gyfer BSL fel trydedd iaith neu iaith ddilynol, fel rhan o Faes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, ochr yn ochr â Chymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill.
Er gwaethaf heriau gweithio o bell, mae aelodau ymroddgar y grŵp datblygu canllawiau BSL wedi parhau i weithio trwy weithdai rhith, a bydd canllawiau drafft yn cael eu cyhoeddi ar gyfer adborth yn 2021. Mae’r National Deaf Children’s Society (NDCS) a’r Centre of Sign, Sight, Sound (COS) wedi cefnogi’r gwaith. Mae’r Athro Bencie Woll a Dr Kate Rowley o’r ganolfan ymchwil byddardod, gwybyddiaeth ac iaith (DCAL) hefyd wedi ysgrifennu papur i gefnogi gwaith y grŵp.
Bydd y canllawiau drafft yn dangos sut mae BSL yn gallu cyfrannu at ddatblygiad dysgwyr tuag at bob un o bedwar diben y cwricwlwm. Er enghraifft, mae’n gallu annog dysgwyr i fynd y tu hwnt i ffiniau diwylliannol cyfarwydd a datblygu ffyrdd newydd o fynegi a chyfryngu ystyr mewn cymdeithas fyd-eang sy’n cynnwys pobl fyddar a phobl sy’n clywed, ac yn mynd i’r afael â materion fel hawliau anabledd, ieithoedd lleiafrifol, cydnabyddiaeth o BSL a chyfathrebu trwy dechnoleg.
Bydd y canllawiau cwricwlwm ychwanegol hyn yn cynnig cyfle i ddatblygu darpariaeth yng nghyd-destun diwygiadau addysg ehangach yng Nghymru, sy’n cynnwys tegwch, lles, addysgu ac arweinyddiaeth. Mae’r grŵp sy’n datblygu’r canllawiau BSL yn teimlo ei fod yn bwysig bod materion dysgu ac addysgu BSL yn cael eu hystyried ar draws bob agwedd o adolygu addysg yng Nghymru ac ar bob lefel. Mae’n rhaid i blant byddar yng Nghymru gael y cyfle i ddatblygu’n ddysgwyr uchelgeisiol, galluog; yn gyfranwyr mentrus, creadigol; yn unigolion iach a hyderus ac yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus.
– Diolch yn fawr i Molly a Chymdeithas Genedlaethol Plant Byddar am gynhyrchu’r fideo uchod!