Neidio i'r prif gynnwy

Technocamps: Ysgogi Cyfrifiadureg ar gyfer y Cwricwlwm Newydd

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Technocamps logoMae’n adeg hynod o gyffrous i ysgolion yng Nghymru, er gwaethaf yr heriau, a hynny wrth i gyfnod y cwricwlwm newydd wawrio lle bydd yn cael ei roi ar waith ymhob ysgol o fis Medi 2022 ymlaen. Mae’n adeg gyffrous gan y bydd cyfle i athrawon ac ysgolion feithrin cwricwlwm wedi’i deilwra ar gyfer eu disgyblion, a’i roi ar waith, ond gallai fod yn heriol wrth i Feysydd Dysgu a Phrofiad trawsddisgyblaethol (MDaPh) gael eu cyflwyno, yn ogystal â phynciau newydd tebyg i gyfrifiadureg.

 Mae Technocamps bob amser wedi cenhadu i ysbrydoli, ysgogi ac ennyn diddordeb pobl mewn meddwl cyfrifiadurol. Byddwn yn parhau â’r genhadaeth hon trwy helpu athrawon a’u hysgolion i ddatblygu arferion addysgu effeithiol ac atyniadol yn ymwneud â’r datganiad cyfrifiadureg o Beth Sy’n Bwysig ym Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

 Mae’r datganiad cyfrifiadureg o Beth Sy’n Bwysig yn nodi:

‘Cyfrifiadureg yw’r sylfaen ar gyfer ein byd digidol:

Mae cyfrifiadureg yn cynnwys algorithmau sy’n prosesu data i ddatrys amrywiaeth eang o broblemau yn y byd go iawn. Mae prosesau cyfrifiadureg wedi newid ein ffordd o fyw, gweithio, astudio a rhyngweithio â’n gilydd a’n hamgylchedd. Maent yn sylfaen ar gyfer yr holl systemau meddalwedd a chaledwedd, ond dylai dysgwyr hefyd fod yn ymwybodol o gyfyngiadau’r hyn y gall cyfrifiaduron ei gyflawni. Er mwyn creu technolegau digidol a’u defnyddio i’w llawn botensial, rhaid i ddysgwyr ddeall sut y maent yn gweithio. Rhaid iddynt hefyd ddeall fod canlyniadau cyfreithiol, cymdeithasol a moesegol eang i’r defnydd o dechnoleg. Gallai hyn helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch datblygu a chymhwyso technoleg yn y dyfodol.’ 

Wrth roi ystyriaeth i ddatblygu adnoddau ar gyfer hyn, mae’n bwysig sefydlu’n gyntaf beth y mae meddwl cyfrifiadurol yn ei olygu a sut y mae’n wahanol i ddatrys problemau’n gyffredinol. Mae diffiniadau o feddwl cyfrifiadurol fel arfer yn canolbwyntio ar y prosesau o ddadelfennu, adnabod patrymau, haniaethu ac algorithmau. Efallai ei bod yn haws deall ei ystyr a’i bwysigrwydd trwy ddefnyddio enghreifftiau:

Technocamps number quiz

Dychmygwch eich bod yn cael bwrdd gwyn sy’n cynnwys chwe rhif gwahanol a ddewiswyd ar hap. Gofynnir i chi weiddi’r rhif mwyaf mor gyflym ag y gallwch, ac i lawer, byddwch yn gwneud hyn bron yn syth. Fodd bynnag, nid yr ateb yw rhan ddiddorol yr ymarfer hwn, ond yn hytrach y cwestiwn o ran sut yr ydych yn gweithio’r ateb allan. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn dweud eu bod “Yn gwybod” neu ei fod “Yn amlwg”, neu “Rwy’n gwybod sut y mae rhifau yn gweithio felly gallwn ei weithio allan”. Gan mai cyfres fechan o rifau sydd yma, mae’n debygol na fu i chi fynd ati’n ymwybodol i weithio’r ateb allan.

Ni all cyfrifiaduron ‘wneud’ pethau ar eu pennau eu hunain; rhaid iddynt gael cyfarwyddyd ar sut y mae datrys problem (trwy gael eu rhaglennu neu eu codio). Y broses hon o greu a disgrifio gweithdrefn ar gyfer pennu ateb i broblem yw meddwl cyfrifiadurol yn ei hanfod. Er mwyn galluogi cyfrifiadur i ddatrys y broblem hon, mae’n rhaid i ni ei symleiddio’n gyfres o gyfarwyddiadau syml, ailadroddadwy. Gallwn symleiddio’r broblem uchod trwy roi ystyriaeth yn gyntaf i ddau rif yn unig: gellwch eu cymharu a rhoi’r rhif lleiaf i’r naill ochr. Yna, byddwch yn ailadrodd y broses hon drosodd a throsodd hyd nes y bydd un rhif ar ôl, sef eich ateb.

Er mwyn gwella’r ddealltwriaeth o gyfrifiadureg ledled Cymru, mae Technocamps yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd ymgysylltu ar gyfer ysgolion, gan weithio gydag athrawon a disgyblion o ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â busnesau. Yng ngoleuni’r cwricwlwm newydd, mae pob un o’n gweithdai yn ennyn diddordeb pobl mewn ffordd ryngddisgyblaethol trwy gymhwyso cyfrifiadureg ar gyfer amrywiaeth o bynciau gwahanol. Un enghraifft o hyn yw ein gweithdy Ecosystemau Greenfoot — rhan o’n Rhaglen Gyfoethogi STEM C3 — sy’n archwilio cysyniadau ecosystemau ac yn galluogi disgyblion i ddatblygu model cyfrifiadureg o ecosystem gan ddefnyddio Greenfoot — llwyfan cyfrifiadurol sy’n seiliedig ar addysg — gan roi gwell dealltwriaeth iddynt o’r modd y mae organebau’n rhyngweithio â’i gilydd.

Technocamps youffs working

Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn gweithio’n agos gyda nifer o randdeiliaid i ddatblygu a darparu pecyn Dysgu Proffesiynol arloesol. Wedi’i dargedu at athrawon sy’n gyfrifol am ddatblygu’r cwricwlwm mewn perthynas â gwyddoniaeth a thechnoleg, bydd y pecyn hwn yn darparu uwchsgilio ym maes cyfrifiadureg ac yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm.

Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Cymwysterau Cymru a CBAC i gefnogi’r broses o gyflwyno’r cymhwyster TGAU newydd mewn Technoleg Ddigidol a fydd ar gael i’w addysgu mewn ysgolion o fis Medi 2021 ymlaen. Mae hwn yn gymhwyster newydd sbon a fydd yn herio dysgwyr i feddwl am y ffyrdd yr ydym yn defnyddio technoleg a sut y mae’n effeithio ar ein bywydau bob dydd. Disgwylir i ddysgwyr archwilio hyn mewn nifer o gyd-destunau, gan gynnwys y rôl o fod yn ddylanwadwr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Er mwyn cefnogi hyn, bydd Technocamps yn darparu cyfleoedd Dysgu Proffesiynol yn rhad ac am ddim i athrawon ledled Cymru, a hynny trwy gyfrwng y cymhwyster Technoleg Ddigidol i Athrawon, sydd wedi’i fodelu ar sail ein cymhwyster achrededig llwyddiannus, sef Cyfrifiadureg i Athrawon, a fydd yn paratoi athrawon TGCh a Chyfrifiadureg cyfredol i gyflwyno’r TGAU newydd hwn. Bydd rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn yn cael ei ryddhau yn ystod tymor yr haf.

Gellwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Raglen Technocamps a’r modd y mae cymryd rhan ar ein gwefan: www.technocamps.com/cy, neu anfonwch neges e-bost i: info@technocamps.com.

Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps

Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe.

Gadael ymateb