Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae deunyddiau Ar Drywydd Dysgu yn helpu ymarferwyr i asesu sgiliau cyfathrebu a gwybyddol cynnar dysgwyr ag anawsterau dysgu dwys a lluosog. Mae’r deunyddiau yn cael eu diweddaru mewn ymateb i’r gwaith ymchwil diweddaraf, ac er mwyn adlewyrchu’r newidiadau addysgol ehangach yng Nghymru. Cawsant eu rhyddhau ar 28 Ionawr er mwyn i ymarferwyr gael rhoi eu hadborth.
Ym mis Chwefror, ymunodd ymarferwyr â digwyddiadau yn y Gogledd a’r De i drafod y datblygiadau a chynnig adborth wyneb yn wyneb. Aeth Aron Bradley, Pennaeth Ysgol Hen Felin, i’r digwyddiad yng Nghaerdydd:
‘Es i i ddigwyddiad Ar Drywydd Dysgu er mwyn cael gwybod mwy am y deunyddiau newydd a chyfrannu at y broses adborth.
Roedd cael clywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr sydd wedi datblygu’r deunyddiau newydd yn help i gael goleuni ar bethau. Roedd yn arbennig o ddiddorol gwrando ar academyddion a’r rheini sy’n gweithio mewn ysgolion ar hyn o bryd yn sôn am y broses o adolygu’r canllawiau blaenorol a sut y cawsant eu defnyddio gyda disgyblion priodol ledled Cymru. Rhannwyd gwaith ymchwil academaidd a luniwyd ers creu’r canllawiau hynny, ac roedd hwn yn dangos pam bod angen eu diweddaru. Mae hyn oll yn cefnogi’r gwaith o addysgu, dysgu ac asesu’r garfan benodol hon o ddysgwyr.
Daeth nifer ragorol o lawer o ysgolion ar draws y De, y Dwyrain a’r Gorllewin, ac felly roedd modd cael sgyrsiau cyfoethog a manwl ar y byrddau. Rwy’n gwybod bod ein cydweithwyr o’r Canolbarth a’r Gogledd yn cael eu cyfarfod eu hunain, a chawsom wybod bod cyfarfodydd eraill yn cael eu cynnal gyda swyddogion iechyd.
Dangoswyd clipiau fideo enghreifftiol inni, a oedd wedi’u diweddaru, ac sydd ar gael i helpu ymarferwyr dosbarth i ddefnyddio’r Map Llwybrau wrth asesu, ac i ategu trafodaethau proffesiynol, a hynny er mwyn sicrhau bod pawb yn deall disgrifyddion y map. Bydd hyn yn arbennig o ddefnyddiol i ymarferwyr yn fy ysgol i. Cynhaliwyd trafodaethau pellach ynghylch cofnodi datblygiad dysgwyr ar sail camau datblygu Ar Drywydd Dysgu, a sut y gallem sicrhau dealltwriaeth gyffredin o hyn ledled Cymru. Roedd yn glir o’r sgyrsiau hyn bod Ar Drywydd Dysgu yn ddull asesu hynod effeithiol ar gyfer dysgwyr ag anawsterau dysgu dwys a lluosog.
Rhannodd yr ymarferwyr hefyd straeon o lwyddiannau a oedd yn deillio o arferion dosbarth hynod effeithiol. Er enghraifft, defnyddio technoleg gynorthwyol er mwyn nodi union lefel gallu disgybl, ac yna mynd ati i ddarparu cwricwlwm priodol sy’n ymwneud â diddordebau ac anghenion y disgybl hwnnw.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr, ac roedd yn amlwg iddo gyflawni ei amcanion, sef rhannu’r canllawiau a ddiweddarwyd a chasglu adborth. Mae’n braf gwybod hefyd bod mwy o waith ar y gweill i ddatblygu fideos enghreifftiol, i gefnogi ymarferwyr dosbarth ymhellach.’
Yn ystod y cyfnod adborth, casglwyd sylwadau drwy ffurflen ar-lein, digwyddiadau ymarferwyr a sesiynau ymgysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol. Dadansoddwyd yr adborth a diweddarwyd y deunyddiau yng ngoleuni’r sylwadau a ddaeth i law.
Cyhoeddwyd y deunyddiau wedi’u diweddaru yn gynharach ym mis Gorffennaf a gellir eu gweld yma.
Y Tîm Asesu, Llywodraeth Cymru