Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae’r blog hwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am y cwricwlwm newydd wrth iddo esblygu, ac yn rhoi astudiaethau achos ac enghreifftiau o sut mae ysgolion yn arbrofi gyda’r model newydd.
Mae’r blog hefyd yn egluro’r broses ddatblygu wrth iddi ddigwydd, ac yn dangos sut y bydd diwygio addysg gyflenwol yn cefnogi’r cwricwlwm fel bod y gwaith o’i weithredu yn llwyddiannus.
A yw’r blog yn ddefnyddiol i chi? A oes rhywbeth ar goll?
Dyma’r hyn rydym yn debygol o’i drafod yn yr hydref
- Adborth ar y cwricwlwm drafft – sut y bydd yn dylanwadu ar y gwaith mireinio
- Ysgolion Arloesi – sut y maent yn treialu a phrofi‘r cwricwlwm
- Asesu – sut y mae’n esblygu
- Dysgu proffesiynol – datblygu ‘rhaglen gyffredin’ a phrosiectau sy’n mynd rhagddynt gyda’n Prifysgolion
Os oes gennych syniadau am hyn, neu unrhyw awgrymiadau am eitemau eraill, rhowch wybod i ni. Os hoffech ysgrifennu neu ffilmio eitem, rhowch wybod i ni ac fe wnawn gysylltu â chi. Dyma’r cyfeiriad: CurriculumCorrespond@llyw.cymru.
Diolch am rannu eich syniadau a chymryd amser i edrych ar Flog Cwricwlwm Cymru.