Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Wrth i’r gwaith o ddiwygio addysg fynd yn ei flaen, mae’r gymuned addysg yn rhyngwladol yn troi eu golygon atom. Mae gwledydd eraill yn awyddus i ddysgu o’n profiad yma yng Nghymru.
Wrth iddynt ddechrau ar eu taith eu hunain i ddiwygio’r cwricwlwm, daeth cynrychiolwyr o’r Weinyddiaeth Addysg yn yr Iseldiroedd atom ar ymweliad yn ystod tymor yr haf i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ysgolion i roi’r cwricwlwm newydd ar waith. Roedd y tîm yn awyddus i edrych ar yr hyn oedd yn wahanol rhwng y cwricwlwm newydd a’r system bresennol a’r effaith ar ymarferwyr yn y byd addysg a’u dysgu proffesiynol.
Yn ystod eu hymweliad pedwar diwrnod, cafodd y grŵp gyfle i gwrdd â swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddatblygu’r cwricwlwm ac am ddatblygu’r ddarpariaeth newydd ar gyfer dysgu proffesiynol, ynghyd ag ymarferwyr addysgol o ysgolion arloesi sy’n cefnogi’r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol.
Er mwyn cael persbectif ehangach, aeth y grŵp i ymweld ag ysgolion arloesi ar draws y sbectrwm sef Ysgol Gynradd Rhydypenau ac Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn yng Nghaerdydd, yn ogystal â Stanwell ym Mhenarth. Yn ogystal â thaith o gwmpas y cyfleusterau, cafodd y grŵp gyfle i gyfnewid syniadau a chymharu arferion yng Nghymru â’r hyn sy’n digwydd yn yr Iseldiroedd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi croesawu’r cyfle i gynnal Uwchgynhadledd ryngwladol Cydweithrediaeth Bwa’r Iwerydd (ARC) y mis nesaf sy’n gyfle pellach i roi’r sylw ar Gymru.
Tîm dysgu proffesiynol, Llywodraeth Cymru