Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae addysg yn fater o bwys i lawer yng Nghymru a diolch am hynny. Yn wir, mae’n fater o bwys angerddol i’r genedl.
Er bod hynny’n dda o beth, mae hefyd yn her i’r timau craidd sy’n ymwneud â’r cwricwlwm newydd: yn athrawon, yn swyddogion, Estyn, arbenigwyr allanol, Cymwysterau Cymru …
Yr her honno yw cysylltu â phobl a grwpiau sy’n dylanwadu ar y newidiadau yn y byd addysg neu sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau sy’n cael eu gwneud gennym, a’u cynnwys yn rhan o’r datblygiadau. Aed i’r afael â’r her honno drwy nifer o weithgareddau sy’n cysylltu pawb â’r datblygiadau hynny.
Crëwyd y templed gan yr Athro Graham Donaldson pan aeth ati i ymgynghori’n eang â rhieni, disgyblion, athrawon, cyflogwyr a phawb arall wrth iddo ymchwilio ar gyfer ei adroddiad ffurfiannol ‘Dyfodol Llwyddiannus’, sef sylfaen y cwricwlwm newydd.
Yn ystod y cyfnod datblygu, estynnwyd gwahoddiad gan bob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad i gyrff ac arbenigwyr yn eu meysydd dysgu ac a oedd â diddordeb yn y datblygiadau, i gyfrannu, profi a thrafod cynnwys y meysydd hynny.
A phan gafodd y cwricwlwm drafft ei gyhoeddi at ddibenion cael adborth, trefnodd y consortia rhanbarthol dros 120 o ddigwyddiadau ledled Cymru gyda 6,300 yn cymryd rhan.
Mae’r Grŵp Rhanddeiliaid Strategol – rhan o’r trefniadau llywodraethiant ffurfiol ar gyfer y rhaglen – yn cynnwys sefydliadau sy’n bartneriaid ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r undebau. Mae’n cwrdd bob tymor i gynnal trafodaethau ag aelodau a’u paratoi i gysylltu â’u rhwydweithiau am y datblygiadau.
Mae plant a phobl ifanc wedi’u cynnwys drwy gyfres o grwpiau ffocws. Mae pecyn cymorth i ysgolion a chyrff wedi’i ddefnyddio i ddarganfod beth sy’n bwysig ei ddysgu, ym marn plant a phobl ifanc, a sut yr hoffent gael eu cynnwys yn y dyfodol.
Ac yn ddiweddar, cynhaliwyd gweithdai i godi ymwybyddiaeth ac annog adborth gan gynrychiolwyr pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, grwpiau busnes, sefydliadau ffydd, grwpiau cydraddoldeb a rhywedd, pobl ifanc ymysg sipsiwn a theithwyr, grwpiau anabledd ac anghenion dysgu ychwanegol, gweithwyr ieuenctid, sefydliadau yn y byd celf a’r Urdd.
Drwy hyn oll, ynghyd â nifer o ddigwyddiadau eraill rhy niferus i’w crybwyll, y nod oedd rhoi cyfle i bawb oedd am leisio barn gael eu clywed a thrafod eu syniadau cyn cyfrannu at yr ymarferiad adborth a ddaeth i ben ar 19 Gorffennaf.
Mae Cymru’n diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan a chyfrannu!
Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cwricwlwm.