Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Heddiw, fues i ym Mhwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi diweddariad iddynt ar y cynnydd gyda diwygio’r cwricwlwm. Maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o’m dal i, fel y Gweinidog Addysg, i gyfrif ac ar graffu ar ddatblygiad ein cwricwlwm.
Byddaf yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymarfer adborth a’r hyn y bwriadwn ei wneud fel canlyniad yn ddiweddarach yn yr Hydref. Ond rwyf am rannu syniadau cynnar gyda chi, yn ogystal â chyd-aelodau o’r Cynulliad.
Mae’r papur tystiolaeth i’r Pwyllgor ar gael yma.
Gallwch hefyd wylio fideo o sesiwn y Pwyllgor
Mae datblygiad y cwricwlwm newydd i Gymru 2022 yn mynd rhagddo’n gyflym. Roedd yn garreg filltir sylweddol ar Genhadaeth ein Cenedl ym mis Ebrill pan wnaethom gyhoeddi’r drafft a gwahodd adborth gan ymarferwyr a rhanddeiliaid i lywio’r cam nesaf – y gweithgarwch mireinio.
Daeth y cyfle i roi adborth ffurfiol i ben ar 19 Gorffennaf ac mae’r ymatebion wedi cael eu gwerthuso’n annibynnol. Cafwyd cyfanswm o 1,680 o gyfraniadau gan ystod amrywiol o unigolion a sefydliadau. Roedd cyfran sylweddol gan ymarferwyr, athrawon, uwch arweinwyr a llywodraethwyr. Cafwyd 116 o ymatebion eraill mewn ymateb i’r Arolwg Plant a Phobl Ifanc.
Yn ystod y cyfnod adborth, cynhaliodd consortia addysg rhanbarthol ddigwyddiadau ymgysylltu ar gyfer ysgolion i’w helpu i ymgysylltu â’r broses yn llawn, a daeth 6,300 o athrawon i’r digwyddiadau hynny. Cynhaliwyd 25 o grwpiau ffocws gyda phlant a phobl ifanc hefyd ac roedd digwyddiadau penodol gyda ffocws ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â busnes.
Gwnaethom hefyd ystyried adborth manwl drwy ymholiadau drwy Ysgolion Arloesi, ysgolion Gwella Ansawdd ac arbenigwyr ategol.
Beth mae’r adborth wedi’i ddweud wrthym?
Ar y cyfan, mae cefnogaeth eang ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru. Roedd athrawon ac ymatebwyr eraill yn croesawu llawer o agweddau, megis y pwyslais ar y pedwar diben a’r grym ehangach a gynigir i athrawon o fewn y cwricwlwm.
Cafwyd llawer o awgrymiadau o ran sut y gellid gwella’r canllawiau drafft. Y ddau fwyaf amlwg oedd y dylent gael eu symleiddio o ran iaith a chyflwyniad, ac y byddent yn elwa o fwy o ddyfnder mewn mannau er mwyn helpu ymarferwyr i ddeall sut i roi’r cwricwlwm ar waith yn ymarferol.
Rhoddodd ansawdd a natur fanwl llawer o’r ymatebion, yn enwedig y rhai gan ymarferwyr, grwpiau diddordeb arbennig a sefydliadau’r sector cyhoeddus, adborth defnyddiol a her. Byddant o fudd sylweddol i’r gwaith mireinio a’r canllawiau.
Sut y byddwn yn ymateb?
Rydym yn mireinio’r cwricwlwm i’w gyhoeddi ym mis Ionawr 2020, ar ôl nodi materion a themâu allweddol i’w mireinio. Mae ymarferwyr Gwella Ansawdd, consortia rhanbarthol (yn cynrychioli Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Awdurdodau Lleol hefyd), Estyn a Cymwysterau Cymru i gyd wedi ein helpu i gytuno ar y cynllun ar gyfer gweithgarwch mireinio dros yr hydref.
Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith mireinio yn cael ei gynnal mewn gweithdai rhwng mis Medi a mis Tachwedd, yn cynnwys ymarferwyr a’n rhanddeiliaid addysg.
Caiff y gwaith ei gefnogi gan amrywiaeth o arbenigwyr gan gynnwys: y Grŵp Cwricwlwm ac Asesu, y mae gan ei aelodau arbenigedd rhyngwladol mewn dylunio cwricwlwm; golygyddion dwyieithog er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb y canllawiau yn eu cyfanrwydd; ac arbenigwyr ar feysydd penodol a sefydliadau rhanddeiliaid i helpu gydag elfennau mwy technegol y canllawiau.
Yn ogystal, mae 16 o ‘Ysgolion Arloesi’ wedi cael eu dewis o blith rhwydwaith arloesi’r cwricwlwm er mwyn helpu ysgolion i gynllunio. Mae ysgolion arloesi yn edrych ar y cwricwlwm cyfan ac yn datblygu dulliau gweithredu i’w wireddu yn eu cyd-destun. Byddant yn adrodd yn ôl ar eu canfyddiadau ac yn gweithio ar y cyd i rannu’r hyn a ddysgwyd.
Cymwysterau
Mae Cymwysterau Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill er mwyn ystyried yr effaith y bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn ei chael ar gymwysterau yn y dyfodol. Bydd yn ymgynghori ar ei ddull gweithredu arfaethedig yn ystod hydref 2019.
Chweched dosbarth a Cholegau Addysg Bellach
Rydym wedi gweithio gyda Colegau Cymru yn ystod y broses o ddatblygu’r Cwricwlwm, ac mae cynrychiolwyr addysg bellach wedi cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu pob un o fframweithiau’r canllawiau MDPh.
Un o themâu’r adborth o addysg bellach oedd yr angen i sicrhau bod y broses bontio i addysg ôl-16 yn cael ei chefnogi’n effeithiol, felly byddwn yn gweithio gyda phartneriaid addysg bellach ar hyn yn yr hydref.
I gloi…
Mae hon yn adeg gyffrous a dwys wrth i’r gwaith mireinio fynd rhagddo yn gyflym. Rwyf am ddiolch unwaith eto i bawb a roddodd adborth mor ddefnyddiol, ac i bawb sydd yn cefnogi’r gwaith o hyd. Edrychaf ymlaen yn eiddgar at gyhoeddi canllawiau cwricwlwm diwygiedig ym mis Ionawr 2020, a fydd yn canolbwyntio ar ein pedwar diben ar gyfer dysgu, sy’n dod â gwybodaeth a brwdfrydedd cyfunol addysgwyr yng Nghymru ynghyd mewn ffordd gyflawn, eang a chytbwys.
Kirsty Williams A.C. Y Gweinidog Addysg