Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Yn Ysgol Esgob Morgan rydym wedi defnyddio bywyd yr Esgob William Morgan, a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg o’r Roeg a’r Hebraeg yn yr 16eg Ganrif, i ddatblygu sgiliau ymholi ac archwilio MDPh y Dyniaethau yn ei gyfanrwydd.
Rydym am rannu’r hyn rydym wedi’i wneud er mwyn dangos sut y rhoddodd hyn gipolwg i ni ar Yr Hyn sy’n Bwysig a chreu cyfoeth o ddysgu.
Yn y Dyniaethau gwnaethom edrych ar Yr Hyn sy’n Bwysig yn ei gyfanrwydd o gamau cynnydd 1 i 3.
Gwnaethom ddechrau gyda’r Hyn sy’n Bwysig 1: Mae datblygu meddwl ymholgar yn galluogi dysgwyr i archwilio ac ymchwilio i’r byd, i’w orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol, drostynt eu hunain. Ymchwiliodd y disgyblion i’n hardal leol, llunio cwestiynau a gwneud ymchwil sylfaenol.
Ein Cwestiwn Mawr 1: Pwy oedd William Morgan a beth oedd ei waddol i Gymru?
Defnyddiodd disgyblion Blwyddyn 5 eu sgiliau ymholi i ymchwilio i fywyd a gwaddol yr Esgob William Morgan. Roedd gan y disgyblion rywfaint o wybodaeth am y pwnc eisoes a wnaeth eu helpu i lunio cwestiynau.
Defnyddiodd y disgyblion eu cwestiynau i lunio llythyrau i Brifysgol Caergrawnt, Eglwys Gadeiriol Llanelwy, y Swyddfa Cofnodion Lleol, Cymdeithas y Beibl, Amgueddfa Sain Ffagan a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Rhoddodd hyn ffynonellau sylfaenol ac eilaidd gwych o wybodaeth iddynt, yn enwedig gan Brifysgol Caergrawnt, lle bu William Morgan yn fyfyriwr yng Ngholeg Sant Ioan.
Ymgysylltodd pob un o’r disgyblion â’r wybodaeth, gan ddefnyddio sgiliau darllen uwch, sef casglu, sgimio a sganio. Gwnaeth dysgu bod William Morgan wedi chwarae sgitls pan oedd yn iau a’i fod yn mwynhau barddoniaeth eu helpu i ddangos empathi ac uniaethu â bywyd William Morgan.
Yr Hyn sy’n Bwysig 2: Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu canfod, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Ein Cwestiwn Mawr 2: Beth a ysgogodd William Morgan i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg?
Yma roedd cwestiynau dyfnach am yr hyn a ysgogodd William Morgan i gyfieithu’r Beibl, gan gynnwys ‘Pam roedd y Beibl mor bwysig i William Morgan?’ Dysgodd y disgyblion, drwy ddarllen llythyrau, fod William Morgan wedi gorfod cael ei ddarbwyllo i barhau i gyfieithu’r Beibl, a oedd yn dasg anodd iawn iddo, a gwnaethant ystyried ei gymhelliant parhaus i gwblhau’r gwaith.
Gofynnwyd y cwestiwn ‘Sut un yw Duw ym marn Cristnogion?’ i’r disgyblion a gwnaethant ystyried yr haenau o ystyr yn nameg y Mab Colledig er mwyn eu helpu i ateb y cwestiwn drostynt eu hunain.
Gwnaethant hefyd ymweld â’r eglwys gadeiriol lle roedd William Morgan wedi bod yn esgob, er mwyn gweld Beibl William Morgan a phrofi agweddau ar fywyd yn ystod teyrnasiad y Frenhines Elisabeth. Gwnaeth hyn eu helpu i ddeall effaith y cyfieithiad ar fywydau pobl Cymru. Gwnaeth hyn eu helpu i ddeall sut roedd pobl wedi clywed y Beibl yn y gorffennol ac ystyried cwestiynau athronyddol megis ‘Sut beth yw dilyn Duw?’
Datganiad o’r Hyn sy’n Bwysig 3: Mae’r byd naturiol yn amrywiol a deinamig, ac mae dylanwad prosesau ffisegol a gweithredoedd dynol arno.
Roedd dysgu bod yr Esgob William Morgan wedi marw mewn tlodi cymharol ar ôl gwario ei arian ar atgyweirio’r eglwys gadeiriol yn Llanelwy o ddiddordeb mawr i’r disgyblion!
Yr Hyn sy’n Bwysig 4: Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maent yn cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
Penderfynodd y disgyblion sut y byddent yn cyflwyno’r wybodaeth roeddent wedi’i chasglu am William Morgan. Gan ddefnyddio sgiliau cymhwysedd digidol, maent yn llunio llyfr, map digidol o’r lleoedd roedd yn gysylltiedig â nhw, ac animeiddiad o hanes ei fywyd. Gan ddefnyddio sgiliau celf a dylunio maent yn awyddus i lunio gêm a choeden deuluol. Mae’r ffeithiau wrthi’n cael eu trefnu ar ffurf llinell amser o’r digwyddiadau ym mywyd William Morgan.
Mae’r athro yn awyddus i rannu’r hyn y mae’r disgyblion wedi’i ddysgu ac mae wedi gwahodd athrawon eraill i gyflwyniad gan y disgyblion o’u gwaith, gan adeiladu ar gydrannau cydweithio ac arloesi’r safonau proffesiynol newydd.
Yr Hyn sy’n Bwysig 5: Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon, egwyddorol a chynaliadwy.
Ystyriodd y disgyblion pa mor bwysig oedd gwaith William Morgan i bobl Cymru a’r Gymraeg. Gwnaethant ddefnydd creadigol o’r Beibl drwy gelf a straeon er mwyn ystyried sut roedd pobl yn y gorffennol megis William Morgan, a sut mae pobl heddiw, yn cael eu galw i wneud gwaith Duw.
Hoffem ddiolch yn arbennig i’r canlynol:
Disgyblion a staff Ysgol Esgob Morgan
Esgob a Deon Eglwys Gadeiriol Llanelwy